Gwneud yn fawr o drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod gwyliau yng Nghymru
31 Awst 2014Mae Clare o holidaycottages.co.uk yma i rannu ambell gyngor ynghylch sut y gall trafnidiaeth gyhoeddus eich helpu i fanteisio ar y golygfeydd a’r gweithgareddau bendigedig sydd i’w cael yng Nghymru.
Mae gadael y car lle’r ydych yn aros, a cherdded neu fynd ar fws yn cynnig safbwynt hollol wahanol i chi ar bethau ac yn eich galluogi i grwydro’n rhydd.
Mwynhau teithiau cerdded gwych
Mae teithio ar fws yn eich galluogi i fanteisio ar lu o lwybrau cerdded lle na fydd yn rhaid i chi fynd yn ôl ar hyd yr un llwybr i gyrraedd y maes parcio. Mae Llwybr Arfordir Penfro, yn enwedig, yn cynnig llwybrau hynod o hardd sy’n cadw’n agos iawn at yr arfordir, ac mae bysiau cyhoeddus yn eich galluogi i ddisgyn o’r bws mewn un man a dal bws arall yn nes ymlaen ar hyd y llwybr.
Mae un llwybr o’r fath yn dechrau ym Maenorbŷr sy’n lle y gellir ei gyrraedd yn rhwydd ar y bws o Ddinbych-y-pysgod. Mae’r llwybr yn ymestyn ar hyd yr arfordir, yn mynd heibio i gastell o’r 12fed ganrif, yn dilyn ymyl Bae Maenorbŷr ac yn parhau i ymestyn ar hyd y clogwyni nes cyrraedd Dinbych-y-pysgod. Oddi yno, gallwch ddal y bws unwaith eto a theithio i’ch cyrchfan nesaf, neu dreulio ychydig o amser yn mwynhau atyniadau’r dref brydferth hon sydd ar lan y môr.
Mwynhau bwyd a diod o safon
Mae cysylltiad agos rhwng Cymru a bwyd da, ac yn amlach na pheidio byddwch am fwynhau eich hoff ddiod gyda phryd blasus o fwyd. Yn hytrach na bod un ohonoch yn gorfod cytuno i yrru, neidiwch ar fws gan wybod na fydd yn rhaid i chi ofidio am gael ail ddiod. Er enghraifft, os ydych yn aros mewn bwthyn yng Ngheinewydd yng Ngheredigion ac os oes awydd arnoch fynd i rywle arall un noson, ewch ar fws sy’n mynd bob 20 munud i Aberaeron. Yno, gallwch ddewis o blith nifer o fwytai, gan gynnwys y Seler, Plasty Tŷ Mawr a Chegin Alban sydd i gyd wedi cael adolygiadau rhagorol.
Mwynhau wrth deithio
Gellir gweld rhai o dirweddau a golygfeydd godidocaf Cymru wrth deithio ar hyd rhwydwaith rheilffyrdd gwych y wlad. Yn ogystal â medru cyrraedd trefi a phentrefi gwledig yn sydyn ac yn hawdd, bydd modd i chi fwynhau golygfeydd rhyfeddol o hardd drwy gydol y daith ei hun. Mae rhai o’r llwybrau mwyaf cyfoethog o ran golygfeydd yn cynnwys Rheilffordd y Cambrian, Rheilffordd Dyffryn Conwy a Rheilffordd Calon Cymru. Paratowch bicnic ac ewch oddi ar y trên i fwynhau cerdded ar hyd llethrau coediog Mynyddoedd Cambria, neu ewch i gyfeiriad yr arfordir i wylio’r bywyd gwyllt ym Mae Caerfyrddin.
Helpu’r amgylchedd
Mae modd cyrraedd llawer o fythynnod gwyliau mewn trefi a phentrefi gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn unig, felly ceisiwch leihau eich ôl troed carbon a gadewch y car gartref.
Caiff trafnidiaeth yn rhai o ardaloedd gwledig Cymru ei hwyluso gan Bwcabus, ac mae bysiau TrawsCymru yn sicrhau bod teithiau hir yng Nghymru yn syml ac yn ddidrafferth. Mae cysylltiadau rheilffordd â gweddill y wlad yn wych, ac yn aml maent yn golygu y gallwch osgoi’r tagfeydd traffig a’r straen sy’n gysylltiedig â gyrru ar y draffordd.
Mae holidaycottages.co.uk yn cynnig amrywiaeth bendigedig o fythynnod yng Nghymru. I ddechrau cynllunio eich gwyliau, cymerwch gip ar ddetholiad o fythynnod yma: www.holidaycottages.co.uk/wales
Mae Clare Willcocks yn Awdur Ymchwil a Chynnwys ar gyfer holidaycottages.co.uk. Mae’n byw yn Nyfnaint, mae’n mwynhau teithio yn y DU a thu hwnt, ac mae’n treulio ei hamser hamdden yn darlunio, yn paentio ac yn ysgrifennu blogiau am gelf a chrefft.