5 o gynghorion i’ch paratoi ar gyfer Nos Galan Gaeaf eleni
27 Hydref 2014Mae wythnos Calan Gaeaf wedi cyrraedd, sy’n golygu bod pobl wedi dechrau heidio i’r siopau eleni eto i chwilio am wisg ffansi dda a phrynu melysion ar gyfer y plant a fydd yn galw heibio. Fodd bynnag, wrth i lawer o ddigwyddiadau Calan Gaeaf eich denu allan gyda’r nos, bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd o fynd iddynt hefyd. Gall defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y cyfnodau hyn fod yn ffordd wych o osgoi’r drafferth o yrru’n nes ymlaen yn y nos a cheisio cael lle i barcio ar y ffyrdd prysur. Ond gall Calan Gaeaf arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol ac at newidiadau i drafnidiaeth er mwyn sicrhau bod teithwyr yn aros yn ddiogel. Felly, os ydych am fentro allan ar Nos Galan Gaeaf eleni, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf am drafnidiaeth leol.
I’ch helpu, rydym wedi llunio 5 o gynghorion i’ch paratoi ar gyfer Nos Galan Gaeaf eleni fel na fyddwch yn cael eich gadael yn y tywyllwch:
1. Cofiwch fwrw cipolwg ar ein tudalen am deithio ar Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt
Mae ein tudalen am deithio ar Nos Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt ar gael i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau a gyflwynir yn ystod y cyfnod. Mae’r dudalen yn arbennig o berthnasol os ydych yn teithio o gwmpas Caerdydd, oherwydd bydd rhai o wasanaethau Bws Caerdydd yn cael eu dargyfeirio a bydd y manylion ar y dudalen hon. Cadwch y dudalen hon yn un o’ch ffefrynnau, ac edrychwch arni cyn mynd draw i’ch arhosfan bysiau.
2. Cofiwch lawrlwytho ein ap a defnyddio’r Cynlluniwr Taith
Pan fyddwch yn gwybod i ble’r ydych am fynd, ewch draw i’n Cynlluniwr Taith er mwyn dod o hyd i’r llwybr mwyaf hwylus o flaen llaw ar gyfer eich taith. Gellir gweld yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i gyrraedd pen eich taith yn y fan hon, yn ogystal ag amserlenni a mapiau rhyngweithiol er mwyn i chi allu gweld y wybodaeth benodol yr ydych am ei chael, yn y modd yr ydych am ei chael. Os nad ydych yn siŵr sut i ddefnyddio’r Cynlluniwr Taith, gwyliwch ein canllaw ar ffurf fideo isod – bydd Rockadove yn mynd â chi drwy’r broses, gam wrth gam!
3. Cofiwch ddilyn @TravelineCymru ar Twitter i weld y negeseuon diweddaraf am deithio
Byddwn yn trydar y wybodaeth ddiweddaraf am Nos Galan Gaeaf ar Twitter gan ddefnyddio’r cyfrif @TravelineCymru, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn fel na fyddwch yn colli’r newyddion diweddaraf am deithio. Mae croeso i chi drydar unrhyw gwestiynau neu bryderon a allai fod gennych atom, ac fe wnawn ni ein gorau i’ch rhoi chi ar y trywydd iawn. Beth am drydar llun atom o’ch taith ar Nos Galan Gaeaf?
4. Cofiwch gadw rhif ein Canolfan Gyswllt ar eich ffôn, sef 0871 200 22 33
Os nad ydych yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, neu os hoffech chi siarad â rhywun dros y ffôn, bydd staff cyfeillgar a dwyieithog ein Canolfan Gyswllt wrth law i helpu i ateb unrhyw ymholiadau a allai fod gennych am deithio. Rydym yn deall bod siarad â rhywun dros y ffôn yn gallu tawelu meddwl pobl, felly cadwch ein rhif ar eich ffôn rhag ofn y bydd ei angen arnoch. (Mae galwadau’n costio 10c y funud ynghyd ag unrhyw gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’ch rhwydwaith.)
5. Cofiwch fynd â rhywbeth gyda chi i’ch diddanu ar eich taith ar Nos Galan Gaeaf
Yn olaf ond nid yn lleiaf, cofiwch fynd â’ch hoff bethau gyda chi i’ch diddanu ar unrhyw deithiau hir! Efallai yr hoffech chi ddarllen eich hoff nofel arswyd neu wrando ar gasgliad o ganeuon sy’n codi ofn arnoch ar eich iPod...
Oddi wrth bawb yma yn Traveline Cymru, teithiwch yn ddiogel a mwynhewch eich Nos Galan Gaeaf!