Blog

Road Safety Week 2014

Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd 2014

17 Tachwedd 2014

Mae’r wythnos hon yn berthnasol i bob un ohonom sy’n gyrru, yn beicio neu’n defnyddio’r ffyrdd mewn rhyw fodd arall, oherwydd mae’n Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd.

Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yw’r digwyddiad mwyaf yn y DU sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch ar y ffyrdd. Caiff ei gydlynu’n flynyddol gan Brake – yr elusen diogelwch ar y ffyrdd – ac mae miloedd o ysgolion, sefydliadau, cynghorau lleol a phwyllgorau’n cymryd rhan ynddo bob blwyddyn.

Mae Brake yn gweithio i geisio gwneud strydoedd a chymunedau’n fwy diogel drwy helpu i atal damweiniau ar y ffyrdd a hybu diogelwch ymysg teithwyr. Mae ffigurau’n dangos bod 5 o farwolaethau a 61 o anafiadau difrifol yn digwydd ar ffyrdd y DU bob dydd; mae’r ymgyrch sy’n cael ei gynnal gan Brake yr wythnos hon yn bodoli er mwyn helpu i atal y marwolaethau a’r anafiadau hyn rhag digwydd, drwy godi ymwybyddiaeth ymysg teithwyr a lledaenu’r neges ynghylch ‘diogelwch yn gyntaf’ wrth deithio ar y ffyrdd.

Beth y galla’ i ei wneud?

P’un a ydych yn sefydliad neu’n unigolyn sy’n dymuno cyfrannu, mae digon o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan yn yr ymgyrch. Drwy fynd i wefan yr Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, gallwch gofrestru i gael pecyn gweithredu rhad ac am ddim sy’n cynnwys adnoddau a chyngor i’ch helpu i ledaenu’r neges yn eich cymuned.

Fel arall, beth am annog staff neu ffrindiau i adael eu ceir gartref am yr wythnos a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Mae ymgyrchoedd fel hyn yn gallu bod yn ysgogiad ardderchog i archwilio dulliau newydd o deithio a meddwl am y modd yr ydych yn mynd o le i le.

Felly, pam y dylwn i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?

Gallwch fwynhau rhai manteision gwych wrth gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o’ch trefn arferol – o leihau eich ôl troed carbon i arbed arian ar betrol a pharcio. Fel y mae’r ymgyrch Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yn dangos, mae ffyrdd yn gallu bod yn lleoedd peryglus, yn enwedig yn ystod oriau prysur pan fydd pobl yn teithio i’r gwaith ac yn ôl adref; a gall neidio ar y bws, er enghraifft, wneud eich siwrnai’n llai o straen gan na fydd yn rhaid i chi boeni am ganolbwyntio ar yrru drwy’r traffig.

Os yw’r Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd wedi eich ysbrydoli i ystyried defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle’r car i wneud ambell siwrnai, cymerwch olwg ar ein Cynlluniwr Taith lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch am fysiau, trenau a hyd yn oed llwybrau beicio ar gyfer y daith yr ydych wedi’i dewis.

Os yw teithio ar y bws yn rhywbeth sy’n apelio atoch, gallwch hefyd ddefnyddio ein cyfleuster Darganfod Amserlen i ddod o hyd i amserlenni ar gyfer eich llwybr penodol chi, neu ddefnyddio ein Map Teithio Byw lle gallwch nodi eich lleoliad a gweld yr arosfannau bysiau sydd yn eich ardal a’r teithiau y gallwch eu gwneud o’r fan honno.

Does dim gwahaniaeth pa fath o drafnidiaeth yr ydych yn ei ddefnyddio – car, bws neu feic – oherwydd y neges sy’n cael ei lledaenu’r wythnos hon drwy’r ymgyrch yw pwysigrwydd ystyried pobl eraill a gofalu am bobl eraill ar y ffyrdd.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd drwy gydol yr wythnos drwy ddilyn yr hashnod #WythnosDiogelwchFfyrdd ar Twitter, lle gallwch ddod o hyd i eraill sy’n cymryd rhan yn yr ymgyrch. Rhowch wybod i ni os byddwch wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus eich ardal leol yn ystod yr wythnos!

Visit Traveline Cymru's profile on Pinterest.

Pob blog Rhannwch y neges hon