Dyna ni – mae’r Nadolig wedi dod a mynd unwaith yn rhagor ac rydym yn gobeithio ein bod ni wedi gweld diwedd ar y tywydd oer hefyd! Er ein bod ni i gyd yn dyheu am yr haf, mae’n siŵr y bydd yn rhaid i ni ddygymod â chyfnod o dywydd oer eto. Gall eira a rhew achosi pob math o broblemau, ond yn waeth na dim, gallant achosi pob math o helynt ar y ffyrdd, felly byddwch yn ofalus bawb. Dyma rai o’n syniadau ni yn Traveline i’ch helpu i ymdopi â’r cyfnod gaeafol hwn.
Cyn dechrau ar unrhyw daith, gwiriwch y sefyllfa o flaen llaw! Dyna’r ffordd orau o gynllunio taith ac osgoi unrhyw broblemau teithio neu broblemau traffig. Mewngofnodwch i’n gwefan a chliciwch ar y ddolen gyswllt Rhybuddion teithio. Mae hynny’n mynd â chi at dudalen sydd wedi’i chynllunio’n benodol i rybuddio teithwyr ynghylch unrhyw broblemau y gallent eu hwynebu wrth deithio. Sicrhewch eich bod yn cadw llygad ar y dudalen hon wrth deithio er mwyn gweld a oes unrhyw newyddion neu newidiadau. Yn ystod tywydd gwael iawn mae gennym dudalen arbennig ar gyfer teithio adeg eira hefyd, er mwyn i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl rybuddion o ran y tywydd.
Mae ceir yn gallu bod yn bethau anwadal, ond mae’n anos fyth cynnal a chadw car yn ystod tywydd gwael. Sicrhewch eich bod yn cynnal gwiriadau diogelwch rheolaidd, yn enwedig o ran yr olew, y dŵr, y teiars a’r dŵr golchi ffenestr. Mae’n syniad da cadw rhai pethau yng nghist y car i’w defnyddio mewn argyfwng, megis potel o ddŵr, hylif dadmer iâ, tortsh, a hyd yn oed blanced. Mae’r rhain yn bethau y dylech eu cario gyda chi bob amser; efallai y gallech greu bocs argyfwng bach, ac mae bob amser yn syniad da cael pecyn cymorth cyntaf bach yn y car. Pwy a ŵyr pryd y gallai’r rhain fod yn ddefnyddiol!
Mae iâ du yn un o’r prif broblemau wrth yrru yn yr amodau hyn, ac mae eira’n gwaethygu’r sefyllfa hyd yn oed yn fwy. Haenen glir o iâ sy’n ffurfio ar y ffordd yw iâ du, a rhaid i yrwyr sicrhau eu bod yn ymwybodol ohono. Os byddwch yn teimlo bod eich car yn llithro, peidiwch â brecio, tynnwch eich troed oddi ar y sbardun, peidiwch â throi’r olwyn lywio’n ormodol a cheisiwch ei chadw’n llonydd. Yn ogystal ag effeithio ar eich taith chi, gall iâ du achosi oedi a dargyfeiriadau i drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Dylech ganiatáu amser ychwanegol i gerdded, ac os ydych yn cynllunio taith hir dylech gadw golwg ar y wybodaeth am dywydd a thraffig a allai fod yn berthnasol i chi. Mae ein ffrwd Twitter yn cael ei chadw’n gyfredol, a gallwch ein dilyn ar @TravelineCymru, lle byddwn yn rhannu unrhyw newyddion neu’r wybodaeth ddiweddaraf am dywydd os oes angen. Yn ogystal, gallwch ddefnyddio ein tudalen Gwybodaeth am deithio neu’n tudalen Rhybuddion teithio ar ein gwefan i ddod o hyd i wybodaeth am eich ardal chi.
Mae problemau teithio’n gyffredin pan fydd y tywydd yn arw. Ond yn hytrach na defnyddio’r car a gorfod gyrru mewn amodau gwael iawn, mae’n llawer mwy diogel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus megis y system reilffyrdd. Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i’ch helpu i gyrraedd pen eich taith. Fel arall, gallwch lawrlwytho ein ap neu ffonio ein Canolfan Gyswllt. Bydd staff wrth law er mwyn helpu i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am deithio, felly cadwch ein rhif 0871 200 22 33 yn eich ffôn rhag ofn y bydd ei angen arnoch. (Mae galwadau’n costio 10c y funud, ac unrhyw gostau rhwydwaith).
Cadwch lygad allan am broblemau, ac os nad ydych chi’n siŵr beth yw’r sefyllfa bydd yr holl wybodaeth ddiweddaraf yr ydym yn ymwybodol ohoni ar y dudalen Rhybuddion teithio. Ceisiwch gadw mor ddiogel ag sy’n bosibl wrth deithio mewn tywydd garw a mwynhewch eich teithiau, i ble bynnag y byddwch chi’n mynd!