Blog

Resolve It personal safety and self defence

12 o gynghorion ynghylch diogelwch personol dros yr ŵyl, gyda chymorth Resolve It

09 Rhagfyr 2016

Mae Resolve It yn arbenigo ar ddiogelwch personol ac yn darparu hyfforddiant a gweithdai ynghylch diogelwch a hunanamddiffyn. Wrth i ni nesáu at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, fe gysyllton ni â Resolve It i ofyn am gyngor ynghylch cadw’n ddiogel dros yr ŵyl.

Yn anffodus, mae’r byd yn gallu bod yn lle peryglus iawn. Waeth ble’r ydych chi, gallech eich cael eich hun mewn sefyllfa lle gallai fod angen i chi eich amddiffyn eich hun rhag niwed corfforol.

Cwmni buddiannau cymunedol yw Resolve It, sy’n darparu hyfforddiant a gweithdai ynghylch cadw’n ddiogel. Mae’r cwmni yn arbenigo ar ddefnyddio diogelwch personol i ymwneud â phobl, addysgu sgiliau bywyd a datblygu strategaethau i ymdopi â sefyllfaoedd anodd. Edrychwch ar fideo ffeithluniau’r cwmni, sydd i’w weld isod, i gael gwybod mwy neu ewch i wefan Resolve It yma.

Mae Resolve It o’r farn bod gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel, ac wrth i ni nesáu at y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd mae’n bwysicach fyth gwneud popeth posibl i’n hamddiffyn ein hunain a’n cadw ein hunain yn ddiogel tra byddwn allan yn mwynhau’r dathliadau.

Er mwyn rhoi cymaint o gyngor i chi ag y gallwn ynghylch teithio aethom i siarad ag Eira Culverwell, Rheolwr Gyfarwyddwr Resolve It, gan ofyn iddi rannu rhai cynghorion ynghylch diogelwch personol y gall pob un ohonom eu defnyddio. Mae cefndir amrywiol Eira ym maes crefft ymladd, ac mae ganddi dros 24 blynedd o brofiad yn y maes.

Bydd y 12 cyngor defnyddiol canlynol yn fesurau atal syml y gallwch ddechrau eu defnyddio yn eich bywyd o ddydd i ddydd:

 

1. Byddwch yn ymwybodol bob amser o’r hyn sydd o’ch amgylch.

  1. Mae’n hawdd iawn dechrau ymgolli yn ein byd bach ein hunain pan fyddwn yn mynd o le i le; byddwch yn wyliadwrus bob amser a chadwch eich llygaid ar agor am unrhyw beth sy’n gwneud i chi deimlo’n anniogel neu’n anghyfforddus.

  2.  

    1. Peidiwch â chario gormod o fagiau. Ceisiwch gadw un llaw yn rhydd.

    Mae cario llawer o fagiau siopa Nadolig trwm â’ch dwy law yn cyfyngu ar eich gallu i’ch amddiffyn eich hun. Rhowch rai o’ch bagiau i ffrind os oes modd.

  3.  

    1. Cerddwch yn bwrpasol, hyd yn oed os ydych yn teimlo’n nerfus.

    Bydd yn golygu eich bod â’ch bryd ar fynd i rywle, a bydd yn eich atal rhag loetran neu rhag edrych fel pe baech ar goll.

  4.  

    1. Ceisiwch osgoi cerdded drwy fannau agored a thywyll; defnyddiwch y llwybrau sydd wedi’u goleuo.

    Mae’n bosibl y bydd hynny’n cymryd mwy o amser, ond mae’n well bod yn ddiogel na difaru.

  5.  

    1. Peidiwch â cherdded gyda dau glustffon am eich clustiau…a fyddech chi’n gallu clywed rhywun yn nesáu atoch?

    Mae llawer ohonom yn teithio gyda chlustffonau am ein clustiau, ond mae cau’r holl synau sydd o’ch cwmpas allan yn gyfan gwbl yn beryglus. Eich clustiau fydd yn eich rhybuddio os bydd rhywun yn nesáu atoch o’r tu ôl.

  6.  

    1. Byddwch yn ofalus wrth ddewis ble a sut i barcio eich car. Dewiswch le golau nad yw wrth ymyl piler, a baciwch y car i mewn i’r lle parcio; mae’n haws o lawer gyrru tuag ymlaen na thuag yn ôl, yn enwedig os byddwch yn teimlo’n ofnus neu dan straen.

    Mae hefyd yn arfer da peidio byth â gadael eich allweddi yn y ddyfais danio, hyd yn oed am funud, a sicrhewch eich bod yn cloi’r drysau pan fyddwch yn gyrru a phan fydd y car yn llonydd. Bydd drysau sydd heb eu cloi ac allweddi sydd wedi’u gadael yn y ddyfais danio’n golygu bod eich car yn ddeniadol iawn i leidr sy’n chwilio am rywbeth i’w ddwyn.

    Os ydych yn credu bod rhywun yn eich dilyn, p’un a ydych yn eich car neu’n cerdded, peidiwch â stopio nes y byddwch wedi dod o hyd i fan lle mae digon o bobl o gwmpas. Os ydych yn teimlo’n bryderus iawn, ewch i’r swyddfa heddlu agosaf neu ffoniwch yr heddlu. Peidiwch â mynd adref nes eich bod yn hollol siŵr nad oes neb yn eich dilyn.

  7.  

    1. Peidiwch â datgelu gormod ar gyfryngau cymdeithasol. Peidiwch â chael eich temtio i ddweud wrth bawb ble’r ydych. Ydych chi’n gwybod pwy sy’n darllen eich negeseuon?

    Yn oes y cyfryngau cymdeithasol, mae’n haws nag erioed rhoi gwybod i bawb beth yr ydych yn ei wneud ar unrhyw adeg. Cofiwch y gall eich negeseuon ar-lein gyrraedd cynulleidfa enfawr. Gallai trafod eich cynlluniau o ran gwyliau ar gyfryngau cymdeithasol ddenu drwgweithredwyr i’ch ardal, neu hyd yn oed ddenu lladron i’ch cartref gwag.

  8.  

    1. Yn mynd i barti? Peidiwch byth â mynd allan heb wybod sut y byddwch yn dod adref.

    Mae’n dymor y partïon a bydd llawer ohonom yn mwynhau nosweithiau allan gyda ffrindiau a pherthnasau, neu’n mynd allan i ganol y dref i ddathlu’r flwyddyn newydd.

    Cynlluniwch ymlaen llaw a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod i ble y byddwch yn mynd, pwy fydd yno a sut y byddwch yn mynd adref. Mae’n arfer da cario arian ychwanegol (sydd wedi’i guddio) rhag ofn y bydd argyfwng yn codi.

  9.  

    1. Byddwch yn ofalus wrth dderbyn diodydd oddi wrth bobl ddieithr; cofiwch bob amser am y perygl ychwanegol y gallai rhywun fod wedi rhoi cyffur ynddo i’ch gwneud yn anymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas.

    Cadwch lygad ar eich diodydd er mwyn helpu i atal rhywun rhag rhoi cyffur neu ragor o alcohol ynddynt, ac os bydd rhywun anghyfarwydd yn cynnig diod i chi gwyliwch nad oes dim byd cas yn cael ei roi ynddi.

    Yn hwyl yr ŵyl, peidiwch â chael eich temtio i yfed mwy nag y gallwch ymdopi ag ef. Gall alcohol ddrysu eich gallu i bwyso a mesur opsiynau’n dda, a gallai hynny arwain at sefyllfa lle byddwch yn agored iawn i niwed.

  10.  

    1. Peidiwch â defnyddio tacsis didrwydded. Chwiliwch am wasanaeth y byddwch yn ei ddefnyddio’n rheolaidd ac yr ydych yn ymddiried ynddo. Tynnwch lun o blât cofrestru’r cerbyd a’i anfon at ffrind.

    Rhannwch y tacsi â ffrind os oes modd, ac eisteddwch yn y cefn bob amser. Os ydych yn teithio ar eich pen eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth ffrind eich bod yn gadael ac anfonwch neges wedyn i ddweud eich bod wedi cyrraedd adref yn ddiogel, fel bod rhywun yn gwybod ble’r ydych chi.

    Gwnewch yn siŵr nad ydych yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol i yrrwr siaradus, waeth pa mor gyfeillgar y mae’n ymddangos. Ceisiwch gofio enw’r gyrrwr, y math o gar yr ydych yn teithio ynddo a’i liw.

 

girl%20on%20train%20platform.jpg


11. Wrth aros am y bws neu’r trên, sicrhewch bob amser eich bod mewn man golau ac wrth ymyl pobl eraill os oes modd. Ceisiwch drefnu bod rhywun yn dod i gwrdd â chi yn yr orsaf fysiau neu wrth yr arhosfan bysiau.

Sicrhewch bob amser eich bod yn cynllunio eich teithiau ymlaen llaw. Gweithiwch allan i ble’r ydych yn mynd, pa arhosfan y bydd angen i chi fynd iddo a beth yw’r amseroedd ymadael – yn enwedig amser ymadael y bws olaf adref. Sicrhewch hefyd bod arian eich tocyn yn barod gennych er mwyn osgoi gorfod chwilio yn eich pwrs neu’ch waled wrth i chi fynd i mewn i’r bws.

Os ydych yn teithio ar fws yn y nos, neu os yw’r bws yn wag, eisteddwch ar y llawr isaf wrth ymyl y gyrrwr. Os bydd rhywun yn dod ar y bws ac yn gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, codwch o’ch sedd ac ewch i sedd arall. Peidiwch â meddwl ddwywaith am wneud hynny.


12. Cariwch eich allweddi yn eich llaw ar y ffordd adref.

Mae’n fodd i osgoi gorfod chwilio amdanynt wrth y drws, a gallant gael eu defnyddio fel arf.

 

 

Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli? Ymunwch â Gweithdai Grymuso Menywod Resolve It

I bobl sy’n byw yn ardal Caerdydd, mae Resolve It yn cynnal gweithdy hunanamddiffyn i fenywod nos Fawrth 24 Ionawr 2017 yn The Tramshed yng Nghaerdydd rhwng 6 a 9pm.

Mae’r gweithdy yn costio £20 y pen ac mae modd cadw lle’n awr. Nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw eich lle’n fuan os ydych am fynd draw! I gadw eich lle, anfonwch e-bost i enquiries@eresolveitcic.co.uk

Resolve%20It%20workshop.jpgGweithdy Resolve It ar waith.

Mae gweithdai grymuso menywod Resolve It wedi’u cynllunio gan arbenigwyr ym maes diogelwch personol a hunanamddiffyn, ac maent yn ymdrin â’r prif gynghorion ynghylch diogelwch personol a thactegau hunanamddiffyn er mwyn lleihau’r risg y gallech ddioddef trosedd. Bydd y gweithdai’n rhannu gwybodaeth â chi a fydd yn hybu eich hyder i ymdrin â’ch diogelwch personol chi.

Os ydych am wybod mwy am gynnwys y gweithdai, mae rhagor o wybodaeth i’w chael yma.

 

Cadw’n ddiogel ar drafnidiaeth gyhoeddus

Mae’n frawychus meddwl y gallech fod mewn sefyllfa beryglus rywbryd, ond mae digon y gallwch ei wneud i’ch helpu i atal hynny. Diolch byth, mae llawer o adnoddau defnyddiol i’w cael ar eich cyfer, yn enwedig wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

I’ch helpu i gael gafael ar y wybodaeth y bydd ei hangen arnoch, a hynny mewn un man, edrychwch ar ein tudalen Gwybodaeth am Deithio’n Ddiogel.

Yma, fe welwch chi lawer o ddolenni cyswllt ac adnoddau defnyddiol a fydd yn sicrhau bod gennych y wybodaeth a’r cyngor y bydd arnoch eu hangen i’ch helpu i deimlo a chadw’n ddiogel yn ystod eich taith.

Cofiwch y gallwch gael gafael ar holl amseroedd eich bysiau a’ch trenau cyn teithio, drwy fynd i’n Cynlluniwr Taith yma. Fel arall, gallwch ein ffonio’n rhad ac am ddim ar 0800 464 0000 a bydd ein tîm dwyieithog, cyfeillgar yn gallu eich helpu. Bydd gofalu bod y wybodaeth hon gennych wrth law cyn teithio yn rhoi hyder i chi, oherwydd byddwch yn gwybod ble mae angen i chi fod a sut y byddwch yn cyrraedd adref.

A oes gennych chi unrhyw gynghorion ynghylch diogelwch personol? A oes gennych chi ddiddordeb mewn mynd i un o weithdai Resolve It? Rhowch wybod i ni ar Twitter @TravelineCymru a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn @RESOLVEitcic i gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch personol.

Cadwch yn ddiogel wrth deithio dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, beth bynnag yw eich cynlluniau! A gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu’r cynghorion hyn â’ch ffrindiau a’ch perthnasau cyn y gwyliau.

Pob blog Rhannwch y neges hon