Blog

Merry Christmas from Traveline Cymru

Bwrw golwg yn ôl ar 2016 – uchafbwyntiau’r flwyddyn ddiwethaf

13 Rhagfyr 2016

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur i ni yma yn Traveline Cymru, ac wrth i ni nesáu at y flwyddyn newydd rydym wedi bod yn bwrw golwg yn ôl ar y 12 mis diwethaf. Rydym wedi bod drwy ambell newid o bwys eleni ac wedi dechrau ar ambell brosiect cyffrous, ac mae rhai o’n huchafbwyntiau yn ystod 2016 i’w gweld isod!

‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’

Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â Chanolfannau Gwaith ledled Cymru gan hyfforddi’r staff ynghylch sut i ddefnyddio gwasanaethau Traveline Cymru yn effeithlon er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth gyhoeddus i’r sawl sy’n chwilio am waith. Ym mis Tachwedd cawsom ein cynnwys ar restr fer Gwobr y Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth ar gyfer Gweithio mewn Partneriaeth, o ganlyniad i’r berthynas gref hon â Chanolfannau Gwaith, sydd wedi’i meithrin drwy gydol 2015-16.  

Oherwydd llwyddiant mawr yr hyfforddiant hwn, rydym wedi datblygu pecyn o’r enw ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ a fydd yn cael ei roi ar waith yn 2017. Mae ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ wedi cael ei dreialu gyda Llamau a Remploy yng Nghaerdydd, ac mae’n ymwneud â pharatoi staff i ddarparu sesiynau hyfforddiant Traveline Cymru eu hunain. Bydd hynny’n eu galluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach a dangos gwasanaethau Traveline Cymru i ragor o bobl.

 

Lansio myndibobmanfelmyfyriwr

Email%20artwork.jpg

Ar ôl misoedd o waith caled a gwaith datblygu, cafodd myndibobmanfelmyfyriwr ei lansio’n swyddogol gennym yn 2016. Mae’n adnodd newydd cyffrous a ddatblygwyd gennym ar gyfer myfyrwyr ledled Cymru er mwyn eu helpu i ddarganfod y gwahanol opsiynau o ran trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael yn nhref neu ddinas eu prifysgol.

O gydweithredu â phrifysgolion o amgylch Cymru, mae’r wefan myndibobmanfelmyfyriwr yn cynnwys microwefannau ar gyfer y prifysgolion unigol ac mae pob microwefan wedi’i theilwra â gwybodaeth sy’n ymwneud yn benodol â thrafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal dan sylw.

Ym mis Ebrill, cafodd prosiect myndibobmanfelmyfyriwr ei lansio’n swyddogol gennym ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe lle bu modd i ni ddangos microwefan Prifysgol Abertawe fel enghraifft o’r modd yr oeddem yn rhagweld y gellid cyflwyno’r adnodd mewn prifysgolion eraill. Cliciwch yma i ddarllen mwy am y digwyddiad lansio.

Yna, cafodd y gyfres lawn o ficrowefannau myndibobmanfelmyfyriwr ei lansio erbyn i fyfyrwyr ddechrau ar flwyddyn academaidd newydd sbon ym mis Medi, a rhoddodd hynny gyfle amhrisiadwy i ni hyrwyddo’r adnodd yn Ffeiriau’r Glas a gynhaliwyd ar hyd a lled y wlad.

 

‘Cwsmeriaid Traveline Cymru yw cwsmeriaid mwyaf bodlon y DU’

Ar ôl cynnal arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid drwy gydol mis Mawrth a mis Ebrill, roeddem yn falch iawn o gyhoeddi ein canlyniadau gorau erioed a oedd yn adlewyrchu’r lefel uchaf o fodlonrwydd hyd yma ymhlith ein cwsmeriaid.

O blith defnyddwyr y ganolfan gyswllt a gymerodd ran yn yr arolwg, roedd 97% ‘yn fodlon iawn/yn eithaf bodlon’ â’r gwasanaeth a gawsant, sy’n uwch na’r ffigur o 92% a nodwyd yn 2015.

Mae’r tebygolrwydd y bydd cwsmeriaid am ddefnyddio gwasanaeth y ganolfan gyswllt unwaith eto wedi cynyddu o 88% yn 2015 i 99%, sef y lefel uchaf ers dechrau cynnal yr arolwg yn 2009.

Roedd 93% o’r ymatebwyr yn debygol o ddefnyddio gwefan Traveline Cymru unwaith eto, sy’n uwch na’r ffigur blaenorol, sef 87%. Bu iddynt sôn mai rhwyddineb a chyflymder defnyddio’r wefan oedd y prif ffactorau a oedd wedi gwella eu bodlonrwydd â’r profiad o ddefnyddio’r wefan.

Roedd y canlyniadau’n galonogol iawn, ac ym mis Ebrill hefyd gwnaethom ddarparu ein nifer uchaf erioed o ddarnau o wybodaeth – cafodd ychydig dan hanner miliwn o ddarnau o wybodaeth eu darparu mewn un mis, ac yn ystod 2016 byddwn wedi darparu 5.6 miliwn o atebion i ymholiadau ynghylch teithio.

 

Dweud eich dweud ar ein panel cwsmeriaid

Yn dilyn canlyniadau cadarnhaol iawn ein harolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid, rydym yn fwy penderfynol nag erioed o fodloni disgwyliadau ein cwsmeriaid. Felly, aethom ati i lunio ein panel cwsmeriaid newydd sbon, sy’n galluogi ein defnyddwyr i ddweud eu dweud a gwneud gwahaniaeth. Mae’r panel yn cynnwys 10 cwsmer o amrywiaeth o wahanol oedrannau a chefndiroedd, gyda phob un ohonynt yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gallu darparu cymaint o werth ag sy’n bosibl i’n cwsmeriaid.

Mae ein cwsmeriaid bob amser yn ganolog i’r hyn a wnawn, ac mae sesiynau’r panel yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth a meithrin dealltwriaeth amhrisiadwy ynghylch eu hanghenion. Mae aelodau’r panel yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, sy’n rhoi cyfle iddynt roi adborth gonest ynglŷn â’n gwasanaethau a chyfrannu i unrhyw ddatblygiadau yn y dyfodol.

 

Yr Arbenigwyr ar Wybodaeth am Drafnidiaeth Gyhoeddus – ein brand newydd a’n rhif rhadffôn

Ein prosiect mwyaf eleni oedd cyflwyno ein brand newydd, sef yr arbenigwyr ar wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus! Ar ôl ystyried adborth gan ein cwsmeriaid a’n partneriaid, buom yn gweithio ar ddiweddaru ein brand â delwedd newydd, ffres a gafodd ei lansio gennym ym mis Medi.

Yn rhan o’r gwaith ailfrandio, roeddem yn falch tu hwnt o allu cyflwyno ein rhif rhadffôn newydd, sef 0800 464 0000. Gall pobl ein ffonio’n rhad ac am ddim yn awr, a chafodd hynny ei sicrhau er mwyn cydnabod y dylai gwybodaeth am wasanaethau cyhoeddus hanfodol fel hyn fod yn hygyrch i bawb yng Nghymru.

Mae’r ymateb i’n brand newydd wedi bod yn galonogol tu hwnt, ac rydym yn falch o weld yr adborth cadarnhaol y mae wedi’i gael mor belled. I ategu’r gwaith o lansio ein brand newydd, aethom ati i gynnal bore coffi Macmillan yn ein swyddfa yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd. Buodd ein tîm yn pobi llawer o ddanteithion cartref er mwyn helpu i godi arian i achos da. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol a llwyddodd y tîm i godi dros £100 i Macmillan.

Roedd yn gyfle gwych i ni ddangos y brand newydd ac yn gyfle hefyd i ddiolch i’n cyflenwyr a’n rhanddeiliaid am y rhan yr oeddent wedi’i chwarae yn y prosiect.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar brosiect cyfrinachol, cyffrous i lansio ein rhif 0800 newydd yn swyddogol – cadwch eich llygaid ar agor am y wybodaeth ddiweddaraf yn y Flwyddyn Newydd!

 

Y tymor gwobrau

Yn ystod 2016 hefyd cawsom ein henwebu ar gyfer ambell wobr wych. Ym mis Mawrth cawsom ein cynnwys ar restr fer gwobr Womenspire ar gyfer y sector cyhoeddus. Mae Gwobrau Womenspire, a gynigir gan Chwarae Teg, yn dathlu llwyddiannau menywod o Gymru sy’n gwneud pethau neilltuol yn rhan o’u bywyd pob dydd. Cafodd Traveline Cymru ei enwebu oherwydd ein polisïau a’n gweithdrefnau sy’n ystyried teuluoedd ac oherwydd ein rhaglen i hyfforddi a datblygu ein gweithwyr, y mae dros eu hanner yn fenywod, a buddsoddi ynddynt.

Cyrhaeddodd fyngherdynteithio, sef ein cynllun teithio rhatach, ei ben-blwydd yn un oed ym mis Medi, ac mae wedi cael cychwyn llwyddiannus wrth i 7,000 o geisiadau ddod i law gan bobl ifanc ledled Cymru yn ystod y flwyddyn gyntaf. Yn ogystal, cafodd y prosiect fyngherdynteithio Ganmoliaeth Uchel yng Ngwobrau Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth Cymru ym mis Tachwedd, gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates.

Yn ogystal noddodd Contact Centre Cymru – ein canolfan gyswllt fewnol, ddwyieithog – y wobr i’r Atyniad Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru ym mis Tachwedd, a chafodd ei hennill gan Sŵ Fynyddig Cymru.

Mae hefyd wedi bod yn flwyddyn fawr i’n staff, ac rydym wedi dathlu rhai dyweddïadau a phenblwyddi cyffrous drwy gydol y flwyddyn, gyda sawl aelod o’r tîm yn dathlu hefyd eu bod wedi bod yn gweithio i’r cwmni ers 10 mlynedd. Hoffem longyfarch pob aelod o’n staff am eu gwaith caled, eu llwyddiannau a’u hymroddiad yn ystod blwyddyn brysur tu hwnt.

Felly, wrth i ni gyrraedd diwedd blwyddyn arall, hoffem ddymuno Nadolig Llawen i bob un ohonoch a diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus. Edrychwn ymlaen at eich gweld i gyd eto yn 2017!

Pob blog Rhannwch y neges hon