Blog

Six Nations Cardiff Wales Traveline Cymru

Eich canllaw cynhwysfawr i deithio yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad!

10 Chwefror 2017

Mae’r cyfnod cyffrous y bu disgwyl mawr amdano wedi cyrraedd. Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eisoes wedi dechrau. Eleni, bydd Cymru yn herio Lloegr ac Iwerddon yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, felly mae gennym yr holl wybodaeth a chynghorion y bydd eu hangen arnoch i deithio o gwmpas Caerdydd yn hwylus ar ddiwrnodau’r gemau.

Mae diflastod mis Ionawr wedi hen basio, ac erbyn hyn mae Cymru yn ferw gwyllt â chyffro’r Chwe Gwlad! Mae’r bencampwriaeth bob amser yn un o uchafbwyntiau’r calendr chwaraeon, a bydd cefnogwyr o bob cwr o’r wlad yn heidio i Gaerdydd ar ddiwrnodau’r gemau i gefnogi’u tîm a mwynhau’r awyrgylch arbennig o gwmpas y ddinas.

Ble byddwch chi’n gwylio’r gêm?

Bydd gêm Cymru v Iwerddon yn cael ei chynnal nos Wener 10 Mawrth, felly rhowch wybod ble byddwch chi ar y dydd!

Mae’n siŵr y bydd Caerdydd yn brysur tu hwnt – bydd llawer o ffyrdd ar gau a bydd trafnidiaeth yn cael ei dargyfeirio, gan effeithio ar y modd y byddwch yn mynd o le i le. Felly p’un a ydych yn byw yng Nghaerdydd neu’n ymweld â’r ddinas o rywle arall, rydym wedi llunio eich canllaw cynhwysfawr i deithio yn ystod y Chwe Gwlad, fel bod yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch ar gael i chi’n hwylus.

 

Cynlluniwch eich taith o flaen llaw

Os ydych wedi bod yn ddigon ffodus i gael gafael ar docyn ar gyfer y gêm, neu os mynd i mewn i’r dref am y dydd yw eich bwriad, gofalwch gynllunio eich taith o flaen llaw fel na fydd y newidiadau i lwybrau trafnidiaeth yn amharu ar eich cynlluniau.

Gallwch gael gafael ar yr holl wybodaeth am drafnidiaeth y bydd ei hangen arnoch ar ein tudalennau ynghylch diwrnodau gemau isod. Byddwn yn parhau i ychwanegu gwybodaeth wrth iddi ddod i law, felly sicrhewch eich bod yn gwirio eich taith eto cyn gadael y tŷ!

Cymru v Lloegr, 11 Chwefror 2017

Cymru v Iwerddon, 10 Mawrth 2017

 

 

Cadwch ein rhif yn eich ffôn a ffoniwch ni

Os nad ydych yn siŵr a oes unrhyw newidiadau ar waith ffoniwch ni ar ein rhif Rhadffôn 0800 464 0000. Bydd ein tîm dwyieithog a chyfeillgar ar gael i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau!

Os nad ydych yn byw yn lleol neu os ydych yn ymweld â’r ddinas o dramor, gallai’r dargyfeiriadau ei gwneud hi’n anodd i chi wybod ble yn union y mae angen i chi fod. Mae ein tîm ni yma i helpu i egluro unrhyw wybodaeth a rhoi tawelwch meddwl i chi.


Dilynwch ni ar Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf

Mae Twitter yn gyfrwng gwych ar gyfer siarad â chefnogwyr eraill am y gemau a chael gwybod beth sy’n digwydd ar draws y ddinas. Cymerwch gip ar ein Moment Twitter isod i weld y wybodaeth ddiweddaraf  am deithio a thrafnidiaeth!

Yn ystod diwrnodau gemau byddwn hefyd yn aildrydar diweddariadau gan weithredwyr, felly bydd modd i chi gadw llygad ar y wybodaeth ddiweddaraf wrth i chi fynd o le i le drwy gydol y dydd.  Dilynwch ni, @TravelineCymru!

Yn olaf ond nid lleiaf, mwynhewch yr awyrgylch!

Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd, byddwch yn gwybod yn iawn bod y ddinas yn dod yn fyw yn ystod y tymor rygbi rhyngwladol. Fel y mae’r cefnogwyr yn ei wybod yn iawn, mae’r awyrgylch yn rhan o’r profiad, a gan y bydd Caerdydd yn llawn dop o weithgarwch ar y dydd, bydd rhywbeth ar gael at ddant pawb.

Ddim yn mynd i’r gêm? Waeth beth yw eich cynlluniau dros y penwythnos, byddwch yn siŵr o fwynhau’r awyrgylch o gwmpas y ddinas, ac rydym yma i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am drafnidiaeth i’ch helpu i gael penwythnos i’w gofio!

Pob blog Rhannwch y neges hon