Ar y ffordd gyda…chlwb cinio’r Fenni
09 Awst 2017Er mwyn helpu i hyrwyddo ein rhif Rhadffôn, sef 0800 464 0000, buom yn cydweithio ag Age Cymru ar brosiect celfyddydau yn y gymuned ac yn ymweld â chlybiau cinio lleol dros yr haf er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r modd y gall ein rhif Rhadffôn newydd helpu’r sawl y mae arnynt angen cyngor ynghylch teithio.
Yn ogystal ag ymweld â chlwb cinio Afan Nedd (gallwch ddarllen am yr ymweliad hwnnw yma), buom hefyd yn ymweld â chlwb cinio’r Fenni lle bu aelodau’r grŵp yn hel eu hoff atgofion am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Unwaith eto cawsom gwmni côr arbennig o’r enw Splott Local Vocals ar y diwrnod yn ogystal â chwmni côr lleol, a chafodd y côr hwnnw rai aelodau newydd o’r clwb cinio o ganlyniad i’r diwrnod!
Cafwyd straeon hyfryd gan y grŵp, a dyma rai o’r atgofion a gafodd eu rhannu â ni:
“Bydd yn rhaid i mi roi’r gorau i yrru y flwyddyn nesaf. Felly, byddai rhywbeth tebyg i’r rhif Rhadffôn yn ddefnyddiol iawn wrth i mi geisio dod o hyd i ffyrdd o fynd o le i le heb y car. Rwy’n gwybod bod tri bws yn teithio drwy’r pentref bob dydd, ond byddai’n wych cael rhywfaint o gymorth i gael rhagor o wybodaeth am y lleoedd y gallaf fynd iddynt ar fysiau yn y dyfodol.” (Eric)
“Ro’n i’n teithio ar y trên i Benarth pan stopiodd y trên ychydig y tu allan i Gaerdydd. Buom yno am oesoedd, a doedd neb yn gwybod pam...ar ôl sbel, gofynnodd fy mam i’r casglwr tocynnau beth oedd yn bod, ac esboniodd hwnnw fod gyr o wartheg yn rhwystro’r trên! Ro’n i’n meddwl ei fod yn tynnu ei choes! Cymerodd hi tua awr a hanner i’r gwartheg symud o’r ffordd. Roedd fy mam-gu yn disgwyl amdanom ym Mhenarth, a doedd dim ffordd gennym o gysylltu â hi. Roedd hi’n dechrau poeni ac yn methu â chredu’r stori ar ôl i ni gyrraedd yr orsaf maes o law!” (Sylvia)
“Rwy’n defnyddio’r bws yn rheolaidd i fynd i siopa yn y dref – tua dwywaith yr wythnos, fwy na thebyg. Mae’n fy arbed rhag gorfod cerdded i fyny ac i lawr y rhiw! Mae’r gyrwyr yn gyfeillgar tu hwnt, ac os byddaf yn teithio ar lwybr newydd byddaf bob amser yn gwneud yn siŵr fy mod yn mynd i’r cyfeiriad cywir a byddant yn gwneud yn siŵr fy mod ar y bws cywir!” (Sylvia)
“Ro’n i’n arfer teithio ar y bws o Abertyleri i Borth-cawl gyda chriw mawr o deuluoedd o’r capel. Roedd y daith fel pe bai wastad yn cymryd oesoedd, oherwydd ein bod mor awyddus i gyrraedd ac yn llawn cyffro! Roedd yn well gen i’r tripiau i Borth-cawl na’r tripiau i’r Barri – r’ych chi’n cael llai o dywod yn eich brechdanau ym Mhorth-cawl!” (Dienw)
“Doedd dim llawer o arian gennym pan oeddwn yn iau, ac ro’n i’n un o chwech o blant. Bob blwyddyn, byddem yn mynd ar y trên i Ynys y Barri. Rwy’n cofio mynd ar goll yn yr orsaf drenau a Mr Lewis o’r capel yn llwyddo i gael gafael arna i. Wna i fyth anghofio’r olwg ar ei wyneb pan gafodd afael arna i! Roedd e’n ddyn mor garedig!” (Valerie, 83)
“Cawsom dywydd garw iawn yn 1947 – y gaeaf gwaethaf erioed. Roedd cymaint o eira nes i ni fethu â mynd i’r ysgol am dri mis! Rwy’n cofio bod yr eira mor uchel nes ei fod yn gorchuddio pontydd y rheilffordd. Dim ond ar y trenau yr oedd modd cael bwyd i bobl yn lleol. Rwy’n cofio dechrau cael torthau enfawr o fara, a oedd dipyn yn fwy nag arfer, fel bod modd rhannu mwy ymysg y teuluoedd lleol.” (Valerie, 83)
"Ro’n i’n arfer teithio i’r gwaith ar y bws pan oeddwn i’n 17 oed ac yn gweithio yn ffatri Coopers. Doedd hi ddim yn siwrnai hir, dim ond rhyw 20 munud. Byddai fy mam yn sefyll wrth y drws ffrynt i wneud yn siŵr fy mod yn cyrraedd yr arhosfan bysiau, a byddwn innau’n gweiddi’n ôl arni wrth i mi gerdded er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn gallu fy nghlywed a’i bod yn gwybod fy mod yn iawn. Ro’n nhw’n ddiwrnodau hir; byddwn yn gadael am 6.45 y bore a fyddwn i ddim yn dychwelyd tan ar ôl hanner awr wedi chwech y nos, ond byddai fy mam wastad wedi paratoi swper ar fy nghyfer. Byddai’r rhif ffôn yn ddefnyddiol i mi er mwyn i mi allu dod o hyd i’r llwybrau a’r amseroedd ar gyfer bysiau i fynd i siopa yng Nghasnewydd neu Gwmbrân." (Cynthia, 84)
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Age Cymru am bob cymorth a gafwyd ar y diwrnod. Cofiwch, os oes angen gwybodaeth arnoch am drafnidiaeth gyhoeddus, gallwch ein ffonio’n rhad ac am ddim ar 0800 464 0000. Mae ein Canolfan Gyswllt ar agor bob dydd rhwng 7am ac 8pm.