Blog

Traveline Cymru freephone 0800 464 0000

Cadw’n ddiogel ar drafnidiaeth gyhoeddus y gaeaf hwn

08 Rhagfyr 2017

Mae’r gaeaf ar ein gwarthaf a bydd llawer o’n cwsmeriaid yn teithio yn y tywyllwch – boed wrth deithio i’r gwaith yn y bore, wrth deithio adre ar ôl diwrnod hir yn y swyddfa neu’n siopa ar gyfer y Nadolig, neu wrth deithio adre’n hwyr yn y nos ar ôl ambell wydraid o win y gaeaf.

Mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd wych o fynd o le i le dros gyfnod yr ŵyl, yn enwedig os ydych yn bwriadu cael ambell ddiferyn bach.

Ond os byddwch chi’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith neu ddigwyddiadau cymdeithasol, dylech fod yn arbennig o ofalus yr adeg hon o’r flwyddyn oherwydd, yn ôl yr heddlu, mae llawer o droseddau’n digwydd ar drenau, ar fysiau a hyd yn oed mewn tacsis.

Mae’n rhwydd mynd i hwyl yr ŵyl ac anghofio am eich diogelwch personol, ond rydym yn cynghori ein cwsmeriaid i ddilyn y cyngor syml hwn ynghylch teithio yn ystod y gaeaf, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd adre’n ddiogel.


Paratowch ymlaen llaw a chynlluniwch eich taith

Dros gyfnod yr ŵyl, mae’r strydoedd yn fwy prysur ac mae arosfannau bysiau a phlatfformau mewn gorsafoedd rheilffyrdd yn llawnach nag arfer. Y peth olaf rydych am ei wneud – os ydych yn cario llwyth o fagiau siopa, os ydych wedi bod yn yfed neu os ydych newydd dreulio diwrnod hir yn y swyddfa – yw ceisio chwilio am eich ffôn er mwyn cael gafael ar yr amserlen ddiweddaraf ar gyfer y bws neu’r trên.

Defnyddiwch ein gwasanaeth cynllunio taith i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod ymlaen llaw pa arosfannau a llwybrau sy’n berthnasol i chi a phryd y byddwch yn gadael neu’n cyrraedd.

Sicrhewch eich bod yn dilyn ein ffrydiau ar gyfryngau cymdeithasol er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio wrth i chi fynd o le i le.


Sicrhewch fod gennych ddigon o arian mân

Sicrhewch fod gennych ddigon o arian mân ar gyfer eich tocynnau, fel na fyddwch yn cael eich gadael ar ôl yn y tywyllwch neu’n gorfod chwilio am y peiriant arian agosaf yn hwyr yn y nos.


Cadwch unrhyw eiddo gwerthfawr o’r golwg

Rydym i gyd yn euog o ddefnyddio ein ffonau clyfar a’n llechi i’n difyrru ein hunain ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw unrhyw eiddo gwerthfawr yn ddiogel yn eich bag (a bod y sipiau ar gau) pan fyddwch wedi mynd i mewn i’r bws neu’r trên.


Cael cwmni rhywun arall

Er nad yw bob amser yn bosibl teithio adref gyda’ch ffrindiau neu’ch perthnasau os ydych yn byw mewn mannau gwahanol, dylech o leiaf geisio teithio i orsafoedd ac arosfannau gyda’ch gilydd.

Er bod llawer o ddarparwyr yn trefnu gwasanaethau sy’n rhedeg yn hwyr yn y nos dros gyfnod yr ŵyl, ceisiwch osgoi cerdded adref ar eich pen eich hun os ydych wedi colli’r bws neu’r trên olaf.

Ceisiwch ddal tacsi sydd wedi’i gofrestru neu ceisiwch hyd yn oed ffonio ffrind neu aelod o’r teulu gan ofyn iddynt ddod i’ch casglu; gallwch eu had-dalu drwy brynu anrhegion Nadolig ychwanegol iddynt!


Dilynwch eich greddf

Mae’n hen ystrydeb, ond os ydych yn teimlo’n anghysurus ar fws neu drên dilynwch eich greddf a thynnwch sylw’r gyrrwr at unrhyw ymddygiad amheus.


Peidiwch â cheisio arbed amser drwy ddewis y ffordd gyflymaf

Pan fyddwch wedi dod oddi ar y bws neu’r trên, sicrhewch eich bod yn cerdded ar hyd strydoedd golau i fynd adref. Efallai y bydd cymryd y ffordd gyflymaf yn arbed pum munud i chi, ond bydd stryd sy’n brysur ac yn olau’n rhoi tawelwch meddwl i chi.


Sicrhewch fod eich allweddi wrth law

Rydym i gyd yn gwybod sut deimlad yw gorfod twrio mewn bagiau a phocedi i chwilio am allweddi’r tŷ, ond byddwch yn agored i niwed os byddwch yn gwneud hynny yn y tywyllwch yn hwyr yn y nos.

Cadwch eich allweddi ar linyn mewn adran benodol yn eich bag, oherwydd bydd hynny’n ei gwneud yn haws i chi afael ynddynt heb orfod tynnu popeth allan o’ch bag.


Lawrlwythwch unrhyw apiau defnyddiol

Weithiau bydd eich cynlluniau’n newid a byddwch, felly, am addasu eich cynlluniau teithio. Sicrhewch fod gennych yr apiau angenrheidiol i chwilio am amserlenni a gwybodaeth am broblemau teithio ac achosion o oedi. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio ap dwyieithog a rhad ac am ddim Traveline Cymru, a all ddangos i chi ble mae arosfannau bysiau, eich helpu i baratoi eich taith drwy roi amseroedd a gwybodaeth am broblemau teithio i chi, a chadw gwybodaeth am arosfannau sydd ymhlith eich ffefrynnau.


Ac yn olaf…

Sicrhewch fod manylion cyswllt defnyddiol gennych ar eich ffôn symudol bob amser rhag ofn y byddwch yn colli’r trên olaf adref – gallai’r manylion hynny gynnwys rhif ffôn cwmni tacsis lleol dibynadwy a’n rhif rhadffôn ni fel y gallwch gael unrhyw fanylion munud olaf angenrheidiol. Sicrhewch eich bod yn cadw’r rhif 0800 464 0000 yn eich ffôn. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim sy’n eich galluogi i gysylltu ag un o weithwyr ein canolfan gyswllt ddwyieithog i gael ateb i unrhyw ymholiadau.


Cadwch yn ddiogel wrth deithio y Nadolig hwn, beth bynnag rydych yn bwriadu ei wneud!

Pob blog Rhannwch y neges hon