Hwyl yn ystod y gwyliau hanner tymor gyda’r teithiau undydd hyn i’r teulu
20 Chwefror 2018Gwnewch yn fawr o wyliau hanner tymor y gwanwyn yng Nghymru gyda’r gweithgareddau difyr hyn i’r teulu, a gadewch i ni eich helpu i gynllunio eich teithiau.
Wrth i’r dydd ddechrau ymestyn, ac er bod y tywydd oer yn golygu na allwn roi ein cotiau a’n sgarffiau i gadw am ychydig eto, mae’r gwyliau hanner tymor yn gyfle gwych i ymlacio a chroesawu’r arwyddion cyntaf bod y gwanwyn ar ddod! Mae Cymru yn orlawn o atyniadau cyffrous a chyrchfannau diddorol i chi ymweld â nhw gyda’ch teulu a chreu atgofion melys gyda’ch gilydd.
Cymerwch gip ar rai o’r syniadau posibl isod, ac ewch i grwydro a mwynhau’r awyr agored yng Nghymru!
Mynd am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru
Os yw’r tywydd yn ffafriol, gall crwydro ar hyd rhai o lwybrau cerdded gorau Cymru fod yn ffordd iach a rhad o gadw eich plant bywiog yn brysur. Cafodd Llwybr Arfordir Cymru ei agor yn 2012, a dyma lwybr di-fwlch cyntaf y byd ar hyd arfordir cenedlaethol. Ewch i fwynhau’r golygfeydd trawiadol sy’n cynnwys traethau, aberoedd a bryniau. Mae llwybr yr arfordir yn 870 milltir o hyd, sy’n ddigon i’ch cadw’n brysur! Mae’n hawdd cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ar drafnidiaeth gyhoeddus sy’n cynnwys Bws Arfordir Llŷn a gwasanaeth bws y Cardi Bach. Gallwch weld yr holl lwybrau posibl ar gyfer eich taith drwy ddefnyddio ein cynlluniwr taith yma.
Dringo i’r uchelfannau ar hyd Rheilffordd Fynyddig Aberhonddu
Os oes gennych fwy o ddiddordeb mewn injans stêm, gall Rheilffordd Fynyddig Aberhonddu eich cludo drwy’r dirwedd ysblennydd rhwng Pant a Thorpantau a sicrhau eich bod yn cael diwrnod allan i’w gofio. Mae gwasanaethau bws yn gweithredu rhwng yr orsaf fysiau yng nghanol tref Merthyr Tudful a Phant, ac mae gwasanaethau Trenau Arriva Cymru yn gweithredu rhwng Caerdydd a Merthyr Tudful.
Mentro i gwmni’r dreigiau yng Nghastell Caerffili
Os ydych yn hoff o hud a lledrith chwedlau, ewch i gyfarch dreigiau Cadw yn eu cartref yng Nghastell prydferth Caerffili. Mae gan Gymru amrywiaeth o gestyll hardd a hanesyddol sy’n lleoedd perffaith ar gyfer diwrnod allan i’r teulu. Bydd y dreigiau’n sicrhau bod eich ymweliad â Chastell Caerffili yn fwy cofiadwy fyth. Gallwch gynllunio eich taith i’r castell ar y bws neu’r trên drwy ddefnyddio ein cynlluniwr taith yma.
Angen cysgodi rhag y glaw?
Yn anffodus, allwn ni ddim dibynnu bob amser ar y tywydd. Ond mae Bounce Below, un o atyniadau Zip World, yn cynnig y lle chwarae perffaith dan ddaear ar gyfer pobl o bob oed sy’n mwynhau ychydig o gyffro. Os hoffech ymweld â’r atyniad tanddaearol gwych hwn ym Mlaenau Ffestiniog, gallwch ddewis o blith llawer o wahanol opsiynau o ran trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd y parc antur unigryw hwn!
Ydych chi wedi cael eich ysbrydoli i fynd ar daith undydd? Os felly, defnyddiwch ein hadnoddau cynllunio taith i ddod o hyd i’r llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus y gallech eu defnyddio
Beth bynnag yw eich cynlluniau ar gyfer y gwyliau hanner tymor, gallwch gael gwybod pa lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus sydd ar gael ar gyfer eich taith drwy ddefnyddio ein cynlluniwr taith yma. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw nodi man cychwyn a gorffen eich taith a dewis yr amser a’r dyddiad yr hoffech deithio, a bydd y canlyniadau’n rhestru yr holl wybodaeth angenrheidiol gan gynnwys rhifau’r bysiau, yr arosfannau, map o’r llwybr a mwy.
Yn ogystal gallwch ddod o hyd i’r amserlenni y bydd arnoch eu hangen yn ein cyfleuster Dod o hyd i amserlen, lle gallwch argraffu copi o’r amserlen i fynd ag ef gyda chi ar y daith.
Mae ein Chwiliwr arosfannau bysiau yn eich galluogi i chwilio am eich lleoliad ar fap, a bydd yn amlygu’r arosfannau bysiau agosaf yn yr ardal. Yna, gallwch glicio ar yr arosfannau bysiau hynny i weld pa wasanaethau sydd ar fin cyrraedd neu i gynllunio eich taith o’r arhosfan penodol hwnnw.
Fel arall, gallwch lawrlwytho ein ap ar gyfer dyfeisiau symudol er mwyn cael gwybodaeth am eich taith wrth i chi deithio! Defnyddiwch yr ap i ddod o hyd i lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer eich taith, dod o hyd i amserlenni, cadw eich hoff arosfannau bysiau ac ati!
I lawrlwytho’r ap ar gyfer dyfeisiau Android, ewch i siop Google Play neu cliciwch yma.
I lawrlwytho’r ap ar gyfer dyfeisiau iPhone, ewch i siop Apple neu cliciwch yma.
Os hoffech chi siarad â rhywun gallwch ffonio ein tîm cyfeillgar, dwyieithog yn rhad ac am ddim ar 0800 464 0000 gyda’ch ymholiadau ynghylch teithio. Mae ein canolfan ar agor bob dydd rhwng 7am ac 8pm.
I gael rhagor o syniadau ynghylch pethau i’w gwneud yn ystod gwyliau hanner tymor y gwanwyn, ewch i wefan Croeso Cymru i chwilio am ysbrydoliaeth!