Blog

Trefnu anturiaethau i’r teulu yng Nghymru – mae’n hawdd gyda Traveline Cymru

Trefnu anturiaethau i’r teulu yng Nghymru – mae’n hawdd gyda Traveline Cymru

02 Tachwedd 2018

Mwynhewch y cyfan sydd gan Gymru i’w gynnig trwy ffonio Traveline Cymru yn rhad ac am ddim ar 0800 464 0000. Bydd ein tîm cyfeillgar o ymgynghorwyr dwyieithog yn eich helpu i gynllunio eich taith ac yn darparu’r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen am drafnidiaeth gyhoeddus.

Gwasanaeth hollgynhwysol sy’n cynnig gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yw Traveline Cymru, ac rydym yma i’ch helpu i gynllunio eich teithiau o amgylch Cymru. P’un a ydych yn awyddus i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus i’r gwaith, gwneud cynlluniau teithio ar gyfer penwythnos i ffwrdd neu ddarganfod sut mae cyrraedd digwyddiad yng Nghymru – rydym yma i’ch helpu.

Un o’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yw ein Canolfan Gyswllt ddwyieithog y gallwch ei ffonio’n rhad ac am ddim ar 0800 464 0000. Gallwch ffonio gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am gynllunio taith neu am drafnidiaeth gyhoeddus, a bydd un o’n hymgynghorwyr cyfeillgar wrth law i’ch helpu. Mae’r tîm ar gael rhwng 7am ac 8pm bob dydd.

Rydym yn credu’n gryf mewn sicrhau eich bod chi’n hyderus bod gennych yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen i gwblhau eich taith yn ddidrafferth.

I weld sut y gellir defnyddio’r gwasanaeth, dilynwch Gwen a’i hwyrion wrth iddynt ddefnyddio Traveline Cymru i gynllunio eu hanturiaethau hanner tymor ar draws Cymru. Gwyliwch y fideos isod!

Rhan un: Mae Gwen a’r plant yn penderfynu mwynhau’r awyr agored yn ystod hanner tymor.


Rhan dau: Ar ôl y daith mae Gwen a’r plant mewn ychydig bach o drafferth!


Rhan tri: Ar ôl trip blinedig, mae’r plant yn penderfynu ffonio Traveline Cymru i gynllunio syrpréis arbennig i’w nain.

I ddod â’n fideos yn fyw rydym wedi ymuno â’r cwmni theatr cynhwysol Hijinx, sydd wedi darparu’r cast a’r criw ar gyfer pob fideo. Rydym yn gobeithio y bydd ein hymgyrch yn codi ymwybyddiaeth o’n gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n gwneud gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i’r sawl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol, ac y bydd hefyd yn rhannu’r neges y gall trafnidiaeth gyhoeddus helpu pobl i fod yn fwy annibynnol, gan arwain yn y pen draw at gyfleoedd i’r teulu cyfan fwynhau ffordd o fyw mwy egnïol.

Mae Traveline Cymru a Hijinx wedi cael cyllid gan raglen CultureStep Celfyddydau a Busnes Cymru i gryfhau a datblygu eu partneriaeth greadigol.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor am Hijinx.

Cliciwch yma i ddarganfod rhagor am Celfyddydau a Busnes Cymru.

*Lefelau bodlonrwydd cwsmeriaid yn dal i godi yn Traveline Cymru

Pob blog Rhannwch y neges hon