Beth sydd ymlaen yng Nghymru yn ystod gwyliau hanner tymor Chwefror?
12 Chwefror 2020Mae gwyliau hanner tymor Chwefror yn gyfle perffaith i chi a’r plant wisgo’n gynnes, mentro allan i’r awyr iach a chymryd rhan yn rhai o’r gweithgareddau gwych a gwahanol sy’n digwydd ledled Cymru.
Beth am deithio’n ôl mewn amser i achub casgliad gwerthfawr o wyau deinosor yn y Bathdy Brenhinol; astudio’r awyr dywyll uwchlaw Castell Penrhyn; neu gymryd rhan ym Mhencampwriaeth Neidio mewn Pyllau Cymru yn Llanelli? Gallwch gael digon o hwyl ar stepen eich drws! Cymerwch olwg ar rai o’r gweithgareddau y gallwch gymryd rhan ynddynt yn ystod y gwyliau hanner tymor…
1. Gŵyl Awyr Dywyll Castell Penrhyn, Gwynedd
Dyma wahoddiad i bawb sy’n hoffi syllu ar y sêr! Mae Castell Penrhyn wedi ymuno â Pharc Cenedlaethol Eryri i gynnal digwyddiad heb ei ail dros gyfnod o 4 diwrnod (o 20 Chwefror tan 23 Chwefror) er mwyn dathlu statws y mae’r Parc newydd ei ennill, sef statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol.
Gall ymwelwyr astudio rhyfeddodau’r awyr dywyll a dysgu am ein perthynas â’r planedau a chlystyrau o sêr, a hynny’n ystod rhaglen 4 diwrnod o weithgareddau sy’n addas i’r teulu cyfan. Bydd y gweithgareddau’n cynnwys noson o amgylch tân gwersyll yn gwrando ar straeon am yr awyr dywyll; cyfle i ddysgu mwy am ffenestri lliw rhyfeddol y neuadd fawr, sy’n seiliedig ar arwyddion y sidydd; a chyfle i fynd am dro ar hyd tir y Castell i syllu ar y sêr.
Yn rhan o brosiect cydweithredol arbennig gyda Techniquest Glyndŵr, bydd yr awyr dywyll i’w gweld dan do hefyd mewn planetariwm 5 metr, 360 gradd StarDome. Mae’r sesiynau tywysedig rhyngweithiol hyn yn addas i bawb o bob oed ac maent yn gyfle i ymwelwyr ddysgu am ranbarth awyr dywyll Parc Cenedlaethol Eryri.
Gallwch gael gwybod mwy am y gweithgareddau hyn a chadw eich lleoedd yma.
2. Hanner tymor i’r teulu yng Ngardd Bodnant, Conwy ym mis Chwefror
Ewch am dro ar hyd tiroedd hyfryd Gardd Bodnant i fwynhau holl hud a harddwch y dirwedd hon yn y gaeaf.
O 15 Chwefror tan 1 Mawrth, gall ymwelwyr ddilyn llwybr yr ardd o’r Pen Pellaf i Goed a Gweirglodd y Ffwrnais. Wrth wneud hynny, gwnewch yn siŵr eich bod yn chwilio am y tai tylwyth teg sydd ynghudd yng nghanol y coed! O fynd i’r ardd rhwng 19 Chwefror a 23 Chwefror, gallwch alw heibio i’r Hen Felin a chreu eich tylwythen deg eich hun ar ffurf eirlys.
At hynny, bydd garddwyr a gwirfoddolwyr Bodnant yn plannu eirlysiau ar hyd y llwybr rhwng 17 Chwefror a 20 Chwefror. Mae croeso mawr i ymwelwyr ymuno; galwch heibio ac ychwanegwch eich eirlys chi at y casgliad a fydd yn tyfu am flynyddoedd i ddod (caiff y planhigion a’r offer i gyd eu darparu). Gallwch fwynhau’r gweithgareddau hyn yn rhad ac am ddim ond bydd angen i chi dalu’r tâl mynediad arferol i’r ardd.
Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i weld yr ystod lawn o weithgareddau hanner tymor a fydd yn cael eu cynnal yng Ngardd Bodnant.
3. Gweithgareddau hanner tymor yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin
Thema’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar gyfer y gwyliau hanner tymor fydd adar!
Bydd ystod eang o weithgareddau ar gael i’r teulu cyfan eu mwynhau – gweithgareddau a fydd yn eich helpu i ddod i wybod mwy am fyd natur a’r rhywogaethau bywyd gwyllt sy’n ffynnu ac yn byw yn yr Ardd a’r cyffiniau. Mae’r gweithgareddau hynny’n cynnwys:
- Creu teclynnau bwydo adar
- Adnabod cân adar
- Caelcyngorynghylch y fforddorau o fwydo’radarsydd yn eichgardd
- Mynd am dro i wylio adar a sgwrsio amdanynt
- Gwneud gweithgareddau celf a chrefft sy’n ymwneud ag adar
- Mwynhau sesiwn o blannu hedyn blodyn haul er budd adar (gallwch fynd â’r hyn y byddwch wedi’i blannu adre gyda chi er mwyn ei weld yn tyfu!)
- Mwynhau arddangosfeydd hedfan yng Nghanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain
A llawer mwy!
Mae tâl mynediad i’r Ardd yn £10.45 i oedolion ac yn £5 i blant. Mae tocyn teulu (ar gyfer 2 oedolyn a hyd at 4 plentyn) yn costio £30. Ewch i wefan yr Ardd Fotaneg Genedlaethol i gael gwybod mwy.
4. Gwyliau hanner tymor Chwefror yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon
Teithiwch yn ôl mewn amser ar Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon i weld drosoch eich hun sut yr oedd pobl yn byw yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Yn ystod y gwyliau hanner tymor, bydd llwyth o weithgareddau celf a chrefft ar gael i’r plant eu mwynhau:
- Dydd Mawrth 18 Chwefror – Cyfle i greu anrheg unigryw y bydd mam a dad yn siŵr o’i hoffi, yn y gweithdy creu mwg. Bydd pob mwg yn costio £2.
- Dydd Mercher 19 Chwefror a dydd Iau 20 Chwefror – Cyfle i ddathlu Awr Ddaear 2020 pan fydd gweithgareddau celf a chrefft ar gael am ddim!
- Dydd Iau 20 Chwefror – Cyfle i fynd i’r llyfrgell a chymryd rhan mewn gweithgareddau adrodd stori a gwneud celf a chrefft o 2:30pm ymlaen.
Gallwch hefyd fwynhau lluniaeth blasus yn Ystafelloedd Te’r Ganolfan Treftadaeth!
Ewch i wefan Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon i gael gwybod mwy.
5. Pencampwriaeth Neidio mewn Pyllau Cymru yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Llanelli
Chwiliwch am eich welingtons ac ewch allan i’r awyr iach i fwynhau Pencampwriaeth Neidio mewn Pyllau Cymru yn Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir, Llanelli yn ystod y gwyliau hanner tymor!
O 15 Chwefror tan 23 Chwefror, gall plant (ac oedolion!) anghofio am straen eu bywyd o ddydd i ddydd a mwynhau ychydig o hwyl hen ffasiwn ynghanol y gwlyptir, beth bynnag fo’r tywydd. Gall y plant herio’r oedolion er mwyn gweld pwy all greu’r sblash mwyaf, a gallant herio cystadleuwyr eraill er mwyn ceisio bod yn Bencampwr Neidio mewn Pyllau Cymru 2020. Bydd enillwyr i’w cael bob dydd hefyd, felly ewch ati i ddechrau ymarfer!
Bydd llawer o weithgareddau difyr eraill yn cael eu cynnal er mwyn cadw’r plant yn brysur drwy gydol yr wythnos, a bydd y gweithgareddau hynny’n cynnwys creu cuddfan, gwylio adar gyda’r teulu, gwneud gweithgareddau crefft a mynd am dro yn y mwd.
Ewch i wefan Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir i weld y rhestr lawn o ddigwyddiadau a chadw eich lle.
6. Teithwyr Arwrol mewn Amser yn y Bathdy Brenhinol, Llantrisant
Mae’r Bathdy Brenhinol yn adnabyddus am ei ddigwyddiadau arbennig drwy gydol y flwyddyn, sy’n cael eu cynnal ochr yn ochr â’i arddangosfeydd a’i deithiau poblogaidd. Y thema ar gyfer eich plant yn ystod gwyliau hanner tymor Chwefror fydd… deinosoriaid!
Drwy gydol y gwyliau hanner tymor, gallwch gamu’n ôl mewn amser gyda’ch tywysydd personol, Dinosaur Dean, ac ymweld â Dinosauria yn y byd cynhanesyddol. Er mwyn achub yr wyau deinosor gwerthfawr, bydd yn rhaid i bawb sy’n teithio mewn amser drechu’r deinosoriaid â gwaywffyn arbennig (y gellir eu defnyddio’n ddiogel dan do!); darllen map er mwyn dod o hyd i’r wyau deinosor; achub yr wyau rhag y deinosor drwg ei dymer; a dod o hyd i’w ffordd yn ôl i’r dyfodol ym mheiriant amser Dinosaur Dean. Ond does dim angen i rieni boeni – bydd y plant yn ôl mewn pryd ar gyfer eu swper!
Mae’r gweithgaredd hwn yn addas i blant dros 5 oed ac mae’n para tua 45 munud. Mae’r tocynnau yn costio £5 y plentyn neu maent am ddim os ydych yn talu am daith!
At hynny, gall y plant ddysgu sut mae tynnu llun o ddeinosor a dod â’r creaduriaid trawiadol hyn yn fyw unwaith eto ar bapur. Bydd yr artist Robert Nicholls yn arwain dau weithdy ar 17 Chwefror a 21 Chwefror i blant 7 oed a hŷn. Mae’r tocynnau yn costio £8 y plentyn neu £4 os ydych yn cadw lle wrth dalu am daith.
7. Hanner tymor Chwefror yng Ngwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais, Castell-nedd Port Talbot
Mae yna rywbeth i bawb ei fwynhau yng Ngwaith Tun a Rhaeadr Aberdulais wrth i chi gamu yn ôl i’r gorffennol a darganfod sut yr oedd pobl yn byw yn oes Fictoria.
Gall y plant wisgo i fyny fel gweithwyr tunplat yn oes Fictoria ac eistedd yn yr ystafell de yn yr Hen Ysgoldy fel y byddai plant eu hoed nhw wedi gwneud dros ganrif yn ôl! Bydd digon o fywyd gwyllt i’w weld hefyd a digon o weithgareddau celf a chrefft o oes Fictoria i gymryd rhan ynddynt.
Dewch draw i fwynhau ychydig o awyr iach ac i ddarganfod apêl yr awyr agored. Byddwch wedi cael ail wynt ar ôl bod am dro i’r rhaeadr hardd, a gallwch roi cynnig ar greu llwy garu neu galon grog o glai.
Gallwch gael gwybod mwy am Waith Tun a Rhaeadr Aberdulais yma.
8. Antur â’r Anifeiliaid yng Nghastell Caerdydd
Byddwch yn barod ar gyfer y bywyd gwyllt a fydd yng Nghastell Caerdydd yn ystod gwyliau hanner tymor Chwefror, pan fydd cyfle i chi gwrdd â rhai creaduriaid ecsotig o bob cwr o’r byd.
Bydd 4 sesiwn y dydd yn cael eu cynnal ar 18 ac 19 Chwefror, a bydd y plant yn cael eu haddysgu’n ogystal â’u diddanu wrth iddynt gael gwybod mwy am gynefinoedd ac ymddygiad yr anifeiliaid rhyfeddol hyn a fydd o fewn cyrraedd iddynt. Os ydynt yn ddigon dewr, gall y plant geisio cyffwrdd neu ddal yr anifeiliaid hyn sy’n gallu cerdded, cropian, ymlusgo a hyd yn oed hedfan!
Mae’r tocynnau yn costio £5 y plentyn a gellir eu prynu ar wefan Castell Caerdydd.