‘Pecyn o Weithgareddau Difyr i’r Teulu’ Traveline Cymru yn llawn cyfleoedd i fod yn greadigol!
20 Ebrill 2020Chwilair, gweithgareddau lliwio, helfa sborion, rysáit ‘rocky road’ a rhai o’n hoff adnoddau y gall eich plant roi cynnig ar eu defnyddio yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf.
Yn ogystal â pharhau i ddarparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau hanfodol ledled Cymru, mae tîm Traveline Cymru wedi bod yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud i gynorthwyo ein cwsmeriaid, ein rhanddeiliaid a’n ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae’r ‘Pecyn o Weithgareddau Difyr i’r Teulu’ yn llawn o weithgareddau y gall eich plant roi cynnig arnynt eu hunain, yn ogystal â gweithgareddau y gall y teulu cyfan gymryd rhan ynddynt. Rydym hefyd wedi llunio rhestr o adnoddau dysgu a adnoddau gweithgareddau i’ch cynorthwyo chi a’ch teulu yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i bob un ohonom geisio dod i arfer â’n sefyllfa ‘normal’ newydd.
Dyma ragflas i chi o gynnwys y pecyn:
- Chwilair
- Lliwio’r trên
- Rysáit ‘rocky road’
- Helfa sborion Traveline
- Lliwio’r bws
- Geiriau cudd
- Adnoddau i rieni a gofalwyr.
Mae’n hawdd cael gafael ar y pecyn. Y cyfan y mae’n rhaid i chi ei wneud yw lawrlwytho copi lliw neu ddu a gwyn o’r pecyn gweithgareddau isod, ei argraffu a mynd ati’n syth i’w fwynhau!
Lawrlwytho Copi Lliw o ‘Becyn o Weithgareddau Difyr i’r Teulu’ Traveline Cymru yma. |
Lawrlwytho Copi Du a Gwyn o ‘Becyn o Weithgareddau Difyr i’r Teulu’ Traveline Cymru yma. |
Byddem wrth ein bodd pe baech yn rhannu manylion a lluniau â ni ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n dangos sut hwyl rydych chi a’ch teulu yn ei chael gyda’n pecyn o weithgareddau. Gallwch ein tagio ni yn eich lluniau ar Twitter, Facebook ac Instagram @TravelineCymru