Blog

Role-Of-Women-In-The-Transport-Industry-Traveline-Cymru

Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru, yn sôn am…Rôl Menywod yn y Sector Trafnidiaeth Heddiw

09 Tachwedd 2020

Er mai menywod yw 47 y cant o weithlu’r DU, nid ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol o bell ffordd o hyd yn y sector trafnidiaeth gan mai dim ond 20 y cant o weithwyr y sector hwnnw sy’n fenywod.

Yn ddiweddar enillodd Jo Foxall, Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru, y wobr ‘Menywod ym maes Trafnidiaeth’ yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru 2020. Ymunodd Jo â Traveline Cymru i weithio i ddechrau fel Cynorthwy-ydd Marchnata 17 mlynedd yn ôl, ac mae wedi dringo’r ysgol o fewn y sefydliad ers hynny i gyrraedd ei swydd bresennol, sef rôl y Rheolwr Gyfarwyddwr y mae wedi bod yn ei chyflawni ers tair blynedd.

Fel menyw sydd wedi cyrraedd y brig yn y diwydiant, mae Jo yn sôn isod am sut y mae’n sicrhau cydbwysedd rhwng ei bywyd gartref a’i bywyd yn y gwaith, sut y mae’r sector hwn a arferai gyflogi dynion yn bennaf wedi newid, a pha gyngor y byddai’n ei roi i fenywod eraill sy’n dilyn gyrfa yn y diwydiant trafnidiaeth.

 

Menywod yw 47 y cant o weithlu’r DU, ond nid ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol o hyd yn y sector trafnidiaeth gan mai dim ond 20 y cant o weithwyr y sector hwnnw sy’n fenywod. Beth yw’r rheswm am hynny, yn eich barn chi?

Rwy’n credu mai’r rheswm mwyaf tebygol am hynny yw’r syniad bod y diwydiant yn un lle mae dynion yn dal i fod yn fwy amlwg, ond mae hynny’n bendant yn newid. O ystyried Gwobrau Trafnidiaeth Cymru yn unig, gallwch weld bod gan sefydliadau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru lawer iawn o fenywod dawnus yn eu gweithluoedd, a’u bod hefyd yn gweithredu trefniadau gweithio’n hyblyg sy’n denu ac yn cynorthwyo pob math o weithwyr, ac nid menywod yn unig.

 

Sut y mae’r diwydiant trafnidiaeth wedi newid ers i chi ddechrau gweithio ynddo?

Erbyn hyn, rydym yn bendant yn gweld llawer mwy o fenywod dawnus a disglair mewn pob math o swyddi yn y sector, o swyddi a arferai gael eu cyflawni gan ddynion, megis swyddi gyrwyr a pheirianwyr, i swyddi rheoli uwch a phob math o swyddi amrywiol eraill. Mae cael mwy o fenywod sy’n fodelau rôl i’w hedmygu ac i ddysgu oddi wrthynt yn ysbrydoliaeth i fenywod ifanc sy’n dringo’r ysgol.

 

Yn eich barn chi, beth y mae angen ei wneud i annog mwy o fenywod i weithio yn y diwydiant?

Rwy’n credu bod angen gwneud mwy o waith ar lawr gwlad, drwy weithio gydag ysgolion a cholegau a siarad â phobl ifanc am yr amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant trafnidiaeth. Mae gwaith yn cael ei gyflawni drwy bethau megis Rhaglen newydd Trafnidiaeth Cymru i Raddedigion, ond rwy’n credu bod angen i’r gwaith ddechrau’n gynharach gyda phlant ifanc sy’n breuddwydio am beth yr hoffent ei wneud pan fyddant wedi tyfu i fyny.

 

Pa gymorth yr ydych wedi’i gael yn ystod eich gyrfa i’ch helpu i ddringo’r ysgol?

Rwyf wedi bod yn ffodus i gael rheolwyr cefnogol a bwrdd brwdfrydig sydd wedi bod yn gefn i fi ar hyd fy siwrnai o fewn y sefydliad ac sydd wedi fy annog i gael hyfforddiant a datblygu ac i ymgymryd â swyddi uwch. Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gyda mentor a hyfforddwr gyrfaoedd, a wnaeth fy helpu i fod yn fwy hunanhyderus. Yn olaf, mae gen i fodelau rôl gwych yn fy nheulu sydd wedi fy nghefnogi, fy annog a’m dysgu bod unrhyw beth yn bosibl.

 

Fel menyw sydd wedi cyrraedd y brig yn y diwydiant, beth y byddech yn ei ddweud wrth fenywod sy’n dechrau gweithio ynddo?

Byddwn yn dweud wrthynt am fod yn driw iddynt eu hunain a pheidio â theimlo bod yn rhaid iddynt ymddiheuro am fod felly. Nid oes ar y diwydiant angen menywod sy’n teimlo bod angen iddynt ymddwyn fel dynion i lwyddo. Mae gan fenywod eu cryfderau eu hunain sy’n wahanol iawn ac mae’n wirioneddol bwysig defnyddio’r cryfderau hynny, megis empathi a chydymdeimlad, i ddatblygu a thyfu.

 

Pwy yw eich modelau rôl – yn y diwydiant neu’r tu allan iddo?

Mae gen i nifer o fodelau rôl personol a phroffesiynol. Fy mhrif fodel rôl yw fy mam a oedd hefyd yn gweithio mewn diwydiant a oedd yn cyflogi dynion yn bennaf (y diwydiant fferyllol) pan oeddwn yn fach. Dysgais ganddi y gallwn fod yn bwy bynnag neu’n beth bynnag fynnwn i os oeddwn yn barod i weithio’n ddigon caled. Mae cefndir fy nhad ym maes datblygu arweinyddiaeth, a fe sy’n gyfrifol am fy hoffter o ddysgu, sydd wedi bod o fudd mawr i fi o safbwynt datblygu fy ngyrfa. Mae fy mhlant yn fy ysbrydoli’n ddyddiol…maent yn efeilliaid 6 oed – un bachgen ac un ferch – a gafodd eu geni ar ôl 28 wythnos o feichiogrwydd, a frwydrodd am eu bywyd ac sy’n gryfach ac yn fwy dewr na neb arall rwy’n ei adnabod. Fy model rôl proffesiynol ar hyn o bryd, heb os, yw Jacinda Ardern, Prif Weinidog Seland Newydd. Mae ei dull o ymdrin â’r argyfwng COVID, sydd mor agos-atoch, sy’n dangos empathi ac sy’n rhoi pobl yn gyntaf, wedi bod yn wych ac yn wirioneddol ysbrydoledig. Gallwn ddysgu llawer oddi wrthi, rwy’n credu.

 

Rydych yn fam brysur i efeilliaid ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr Traveline Cymru, felly sut yr ydych yn llwyddo i wneud popeth?

Mae gen i rwydwaith gwych o bobl sy’n fy helpu. Mae’n cymryd llond pentref o bobl i fagu teulu (a chyflawni swydd!) ac rwy’n ffodus iawn bod gen i ŵr hyfryd sy’n gwneud mwy nag a ddylai, siŵr o fod, yn ogystal â theulu a ffrindiau gwych sy’n byw gerllaw ac sy’n cynorthwyo ac yn helpu i ofalu am y plant pan fo angen. Rwyf hefyd yn ffodus i fod yn gweithio i gwmni sydd â pholisïau gwych ynghylch gweithio’n hyblyg, sy’n ein galluogi i recriwtio a chadw pobl ddawnus dros ben gan eu bod yn gallu llwyddo i gyflawni gwaith gwych yn ystod eu gyrfaoedd heb golli amser gyda’u teulu.

 

Beth yw eich dyheadau ar gyfer y dyfodol?

Mae fy nyheadau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys parhau i lywio’r busnes drwy’r heriau parhaus sy’n gysylltiedig â COVID; sicrhau bod gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth, sy’n wasanaeth cydlynus o safon, yn parhau er mwyn cynorthwyo’r cwsmeriaid y mae arnynt angen y gwasanaeth; a chynorthwyo’r diwydiant ac annog mwy o bobl i ddefnyddio dulliau amgen o deithio. Rwy’n awyddus i barhau i weithio gyda’n cwsmeriaid a’n tîm talentog i ehangu ein darpariaeth a chyflwyno mwy o amrywiaeth i’r wybodaeth yr ydym yn ei darparu, fel ei bod yn cynnwys mwy o wybodaeth amser real a gwybodaeth am wahanol ddulliau o deithio, ac rwy’n awyddus i ychwanegu’n gyffredinol at yr hyn y gallwn ei wneud. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi’i sefydlu ac mae llawer o brosiectau cyffrous ac arloesol yn cael eu datblygu, felly mae’r diwydiant trafnidiaeth yn lle heriol ond hefyd yn lle cyffrous tu hwnt i fod ynddo ar hyn o bryd.
 

Pob blog Rhannwch y neges hon