Blog
Zoe-Ramblers-Cymru-Path-To-Wellbeing-Project-Visit-Using-Public-Transport

Trafnidiaeth Gyhoeddus yn Cysylltu Cymunedau â’i Gilydd: Diwrnod ym mywyd Swyddog Rhanbarthol Ramblers Cymru ar gyfer y De-orllewin

20 Ionawr 2022

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn chwarae rôl bwysig o safbwynt cysylltu cymunedau â’i gilydd ledled Cymru. Ddiwedd y llynedd bu Zoe, Swyddog Rhanbarthol Ramblers Cymru ar gyfer y De-orllewin, yn ymweld â thref Llanybydder, sef un o’r 18 o gymunedau sydd wedi’u dewis i gymryd rhan ym mhrosiect ‘Llwybrau i Lesiant’ yr elusen.

Isod, mae Zoe yn sôn am ei phrofiad o deithio i Lanybydder o Abertawe ar y trên a’r bws, ac mae’n tynnu sylw at bwysigrwydd llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, fforddiadwy a chyfleus.

 

Mae Llanybydder yn un o’r 18 o gymunedau ledled Cymru sydd wedi’u dewis i gymryd rhan ym mhrosiect Llwybrau i Lesiant Ramblers Cymru. Nod y prosiect yw sicrhau bod cerdded yn elfen ganolog o fywyd cymunedau, drwy roi i bobl leol a gwirfoddolwyr yr offer, y sgiliau a’r hyfforddiant angenrheidiol i wella mynediad i lwybrau cerdded a mannau gwyrdd yn eu hardal.

Saif y dref farchnad hanesyddol ar odre Mynyddoedd Cambria, ar lan afon Teifi. Mae’r afon, sy’n enwog am fod yn lle penigamp i bysgota am sewiniaid ac eogiaid, yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Fel Swyddog Rhanbarthol ar gyfer y De-orllewin, rwy’n gweithio ar lawr gwlad gyda phobl Llanybydder i helpu i wella llwybrau cerdded cymunedol. Gyda help tîm o wirfoddolwyr, rwyf wedi bod yn arolygu’r llwybrau cyhoeddus lleol er mwyn asesu eu cyflwr a phenderfynu pa welliannau y bydd angen eu gwneud i bob un ohonynt. Gyda chlipfwrdd yn fy llaw a digon o daflenni arolygu, es i draw i Lanybydder o’m cartref yn Abertawe ar ddiwrnod llwydaidd ond sych yng nghanol mis Rhagfyr.

 

Y trên i Gaerfyrddin

Zoe from Ramblers Cymru at Carmarthen Train StationDim ond un car sydd gan fy mhartner a fi, am resymau ariannol ac amgylcheddol, ond rheswm arall yw’r ffaith fy mod yn pryderu’n fawr am yrru. Roedd angen y car ar fy mhartner i weithio, felly roedd hwn yn gyfle gwych i roi cynnig ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i deithio i Lanybydder ac yn ôl. Y ffordd orau o hyrwyddo mynediad i fannau gwyrdd a hyrwyddo manteision cerdded i iechyd yw lleihau fy effaith i’n bersonol ar yr amgylchedd drwy ddefnyddio opsiynau cynaliadwy o ran trafnidiaeth.

Cyrhaeddodd fy nhrên yr orsaf yn gynnar, felly medrais fynd i eistedd mewn lle cynnes yn hytrach nag aros ar blatfform oer. Roedd y staff ar y trên a’r platfform yn gyfeillgar iawn, ac roedd cyhoeddiadau i’w clywed yn rheolaidd dros yr uchelseinydd ynglŷn â’r rheidrwydd i wisgo gorchudd wyneb (oni bai eich bod wedi eich eithrio am resymau meddygol). Gadewais Abertawe yn y tywyllwch i fwynhau fy nhaith ddwy ffordd ar y trên i Gaerfyrddin gyda thocyn diwrnod a oedd yn fargen am £11.

Er bod y tywydd braidd yn gymylog, roedd y golygfeydd ar draws aber afon Llwchwr, Bae Ceredigion ac afon Tywi yn drawiadol ac roedd digon o gyfleoedd ar y ffordd i wylio adar. Fe wnes i fwynhau gwylio gwartheg yn pori, gweld golygfeydd o Gastell Llansteffan, a gwibio heibio i ardaloedd godidog. Bues hefyd yn ateb rhai negeseuon ebost yn ymwneud â’m gwaith, felly cyrhaeddais pen fy nhaith 50 munud o hyd cyn pen dim a medrais wefru fy ffôn yn llawn gan ddefnyddio’r pwyntiau gwefru ar gyfer USB/plwg, a oedd wrth ymyl pob sedd.

 

Y bws i Lanybydder

Cyrhaeddais Gaerfyrddin yn brydlon, ac yno mae’r arhosfan bysiau yn union gyferbyn â mynedfa/allanfa’r orsaf drenau. Bu’n rhaid i fi aros am ychydig i fws gwasanaeth T1 i Aberystwyth gyrraedd, cyn dechrau ar gam nesaf fy nhaith.

Cyrhaeddodd y bws yn brydlon, a phris fy nhocyn dwy ffordd i Lanybydder oedd £6.20. Roedd popeth wedi bod yn hynod o rwydd mor belled, a oedd yn golygu bod y profiad yn un pleserus tu hwnt. Roedd dal y bws yn lle defnyddio’r car yn golygu fy mod yn gallu ymlacio a mwynhau’r golygfeydd, a gwylio’r bwncathod a’r barcutiaid yn hedfan uwchben yn hytrach na gorfod canolbwyntio ar yrru. (Gyda llaw, mae’r cynnydd ym mhoblogaeth yr adar hyn yng Nghymru, o ychydig barau’n unig i dros 400 o barau, yn stori lwyddiant enfawr ym maes cadwraeth.)

Cost tocyn diwrnod dwy ffordd i oedolyn heb gerdyn rheilffordd oedd £17.20. Roedd fy mhartner wedi fy hebrwng i orsaf drenau Abertawe yn y bore ond bu’n rhaid i fi ddal y bws adref a phrynu tocyn arall am £2.90, a oedd yn golygu fy mod wedi gwario £20.10 i gyd. Pe bawn i wedi mynd yn y car, byddai’r daith 86 milltir i Lanybydder ac yn ôl wedi costio £31.82, sy’n golygu fy mod wedi arbed £10. Doeddwn i ddim yn gallu cario cymaint o bethau, ond i fi - gan fy mod yn teithio ar fy mhen fy hun - roedd y manteision yn fwy na’r anfanteision.

 

Llwybrau i Lesiant yn Llanybydder

Zoe in local pud during Path to Wellbeing community visit

Ar ôl diwrnod pleserus o droedio llwybrau cerdded a sgwrsio am Lwybrau i Lesiant â’r bobl leol y cwrddais â nhw ar hyd y ffordd, es i mewn i Westy’r Cross Hands i gael siocled poeth i’m cynhesu cyn dal y bws adref. Yn yr adeilad hardd hwn sy’n adeilad rhestredig Gradd II, roedd tanllwyth o dân yn disgwyl amdanaf a chefais groeso cynnes gan y person a oedd y tu ôl i’r bar. Roedd hi newydd symud i’r ardal, ac roedd yn awyddus i gael gwybod mwy am y prosiect a chael ei phlant i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.

Nod prosiect blaenllaw ‘Llwybrau i Lesiant’ Ramblers Cymru, sy’n cael cyllid gwerth £1.2 filiwn ac sy’n gweithio gydag 18 o gymunedau ledled Cymru, yw sicrhau bod cerdded yn elfen ganolog o fywyd cymunedau, drwy wella mynediad i fannau gwyrdd. Bydd y cymunedau a ddewiswyd yn cael yr offer a’r hyfforddiant rhad ac am ddim angenrheidiol i allu adnabod a dylunio llwybrau newydd a gwella ac uwchraddio llwybrau sy’n bodoli eisoes, gyda chymorth eu swyddog prosiect rhanbarthol lleol. Gallwch gael gwybod mwy am y prosiect ar wefan Ramblers Cymru.

 

Troi am adref

Gadewais y gwesty er mwyn aros am y bws yn ôl i Gaerfyrddin – mae’r arhosfan bysiau mewn lleoliad cyfleus y tu allan i’r gwesty. Cyrhaeddodd y bws yn brydlon ac roedd pawb arno’n glynu wrth y canllawiau ynglŷn â gwisgo mwgwd. Unwaith eto, roedd yn braf cael eistedd, ymlacio a gwylio’r byd yn mynd heibio. Roedd yn daith esmwyth gan fod wyneb newydd wedi cael ei roi ar ffyrdd yr ardal yn ddiweddar. Roedd y golygfeydd yn hyfryd iawn hefyd, gyda’r coed a’r gwrychoedd heb eu dail yn y gaeaf yn creu patrymau igam-ogam ar draws y dirwedd.

Gan fod y bysiau a’r trenau yn brydlon, dim ond am 10 munud yr oedd yn rhaid i fi aros yng Nghaerfyrddin. Gan fy mod ar fy ffordd yn ôl, roedd yr arhosfan bysiau wrth fynedfa’r orsaf ac roeddwn yn gallu cerdded yn syth i’r platfform angenrheidiol. Es i’n gyflym i dŷ bach glân y platfform, lle’r oedd digon o bapur, sebon a sychwr dwylo effeithiol, a doeddwn i ddim yn disgwyl i’r dŵr a ddaeth allan o’r tap dŵr poeth fod mor hyfryd o gynnes chwaith!

Fe wnes i fwynhau’r daith yn ôl drwy ardaloedd hynod o brydferth cyn iddi dywyllu, a’r cyfan y gallwn ei weld wedyn oedd goleuadau cartrefi a goleuadau Nadolig hwnt ac yma. Cyrhaeddais Abertawe yn brydlon, a doedd y daith 45 munud ddim yn teimlo’n hir o gwbl. Wrth ddod allan o’r orsaf, gwelais fod y bws ar gyfer fy nhaith adref wrth ymyl y goleuadau traffig. Fe wnes i groesi’r ffordd yn ddiffwdan ac roeddwn wrth yr arhosfan mewn da bryd i ddal y bws adref. Allwn ni ddim fod wedi cael taith haws. Roedd pob trên a bws yn brydlon a chefais dywydd sych, felly roedd yn ddiwrnod hamddenol a hyfryd iawn. Bu bron i fi anghofio fy mod yn gweithio.

 

Diolch i Zoe Richards o Ramblers Cymru am y blog hwn.

 

Os oes arnoch angen unrhyw help i gynllunio eich teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch Gynlluniwr Taith Traveline Cymru neu ffoniwch dîm ein canolfan gyswllt yn rhad ac am ddim ar 0800 464 00 00 rhwng 7am ac 8pm bob dydd. Mae gennym Gynlluniwr Cerdded a Chynlluniwr Beicio pwrpasol hefyd i’ch helpu i gynllunio eich llwybrau teithio llesol o gwmpas Cymru.

Pob blog Rhannwch y neges hon