Blog

Road Safety Week 2015 Brake Charity

‘Gyrru llai, byw mwy’ gyda’r Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd

25 Tachwedd 2015

Yr Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yw’r digwyddiad mwyaf yn ymwneud â diogelwch ar y ffyrdd yn y DU, ac mae yn ei hôl am flwyddyn arall. Caiff y fenter ei chynnal gan yr elusen diogelwch ar y ffyrdd, Brake, sy’n gweithio ym mhob rhan o’r DU i helpu i atal marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd ac i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon sy’n ein hwynebu pan fyddwn allan yn teithio. Yn rhan o’r Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd, mae Brake wedi lansio ei ymgyrch ‘Gyrru llai, byw mwy’, sy’n ein hannog i feddwl am y defnydd rydym yn ei wneud o’r car a beth y gallwn ei wneud i elwa o ddulliau teithio mwy cynaliadwy.

Pam ‘Gyrru llai, byw mwy’?

Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod 5 marwolaeth a 64 o anafiadau difrifol yn digwydd yn ddyddiol ar ffyrdd yn y DU.* Mae’r Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yn gyfle gwych i ni ystyried sut y gallwn fod yn fwy diogel wrth deithio ar y ffyrdd, ac annog eraill i roi diogelwch yn gyntaf.

A wyddoch chi? Erbyn 2040 mae disgwyl i nifer y ceir ar y ffyrdd yn Lloegr gynyddu 39% o gymharu â 2010, ac mae disgwyl i achosion o oedi oherwydd traffig gynyddu 61%.* Gan fod y defnydd a wneir o geir ar gynnydd, gall hynny gael effaith negyddol ar iechyd yr amgylchedd, yn ogystal â’n hiechyd ni.

Mae miloedd o sefydliadau, ysgolion a chymunedau’n cymryd rhan yn yr ymgyrch bob blwyddyn, ac mae llawer o weithgareddau ysbrydoledig eisoes yn digwydd yr wythnos hon! Cymerwch gip ar wefan yr Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd i ddarllen rhagor am y thema ar gyfer eleni sef, ‘Gyrru llai, byw mwy’.

Ydych chi’n ystyried gyrru llai? Rhowch gynnig ar drafnidiaeth gyhoeddus!

Gall pob un ohonom wneud llawer o bethau i annog diogelwch yn gyntaf wrth deithio ar y ffyrdd. Gyda’r Nadolig yn nesáu mae’n siŵr y bydd y ffyrdd yn prysuro wrth i bobl ruthro i orffen eu siopa Nadolig munud olaf, neu deithio adref i weld eu teulu a’u ffrindiau. Gyda phawb yn mynd ati fel lladd nadroedd i fod yn barod ar gyfer yr Ŵyl, gall fod yn hawdd canolbwyntio llai wrth yrru, a gallai hynny arwain at sefyllfa fwy difrifol.

Rydym ni yn Traveline Cymru o’r farn bod rhai manteision gwych yn gysylltiedig â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o’n harferion pob dydd. Yn ogystal â helpu i leihau eich ôl troed carbon, gallwch hefyd arbed ychydig o arian ar docynnau parcio. At hynny, gall y ffyrdd prysur yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig achosi straen a phryder i lawer ohonom yn ein ceir, felly gallai neidio ar y bws olygu nad oes yn rhaid i chi boeni am straffaglu drwy’r traffig.

Beth am ddal y bws neu’r trên i’r dref y tro nesaf y byddwch chi’n mynd allan i wneud ychydig o siopa? Neu efallai eich bod wedi trefnu mynd am bryd o fwyd gyda’ch ffrindiau dros yr Ŵyl. Gall dal y bws fod yn opsiwn cyfleus iawn os yw’n gallu mynd â chi’n agos at eich lleoliad, ac mae hefyd yn golygu y gallwch fwynhau diod fach dros gyfnod y Nadolig!

Os ydych chi’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am y tro cyntaf, efallai y bydd yn anodd gwybod ble i ddechrau arni. Dyna ble gallwn ni eich helpu! Ewch daw i’n Cynlluniwr Taith, lle gallwch gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus o flaen llaw, a darganfod yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch am y llwybrau sydd ar gael ar gyfer eich taith. Bydd yn nodi pa wasanaeth bws y bydd ei angen arnoch a pha arosfannau sydd ar y llwybr hwnnw, a byddwch hefyd yn gallu gweld mapiau defnyddiol a fydd yn dangos i chi ble y bydd angen i chi fod.

Er mwyn cael gwybodaeth wrth fynd o le i le, gallwch hefyd lawrlwytho ein ap ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android yn siopau Apple a Google Play. Peidiwch â phoeni os nad oes ffôn clyfar gennych, oherwydd mae gennym ni wasanaeth negeseuon testun hefyd sy’n golygu y gall amser eich bws nesaf gael ei anfon yn syth i’ch ffôn! Os oes gennych ddiddordeb, gallwch ddarganfod rhagor am ein gwasanaethau symudol yma.

Sut gallaf gymryd rhan yn yr Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd?

Ydych chi’n ystyried cymryd rhan yn yr ymgyrch? Cymerwch gip isod i weld a gewch chi unrhyw syniadau ac ysbrydoliaeth i ddechrau arni!

  • Gwneud addewid gyda Brake. Gallwch wneud addewid gyda Brake yma, a gall yr addewid ymwneud ag unrhyw beth yr ydych yn ei ddymuno, sy’n canolbwyntio ar eich diogelu eich hun a’r bobl o’ch cwmpas. Efallai y gallech chi addo gadael eich car gartref am yr wythnos, a rhoi cynnig ar deithio i’r gwaith ar y bws?
  • Cael sgwrs gyda’ch cyfeillion, eich teulu neu eich cydweithwyr am y newidiadau bach y gallech eu gwneud gyda’ch gilydd er mwyn bod yn fwy diogel. Mae creu nodau ar gyfer y tymor byr yn ffordd wych o ddechrau arni, a does wybod pa arferion da allai aros gyda chi am oes!
  • A ydych chi’n cydweithio â phobl eraill sy’n gyrru? Ceisiwch hyrwyddo’r Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yn y gweithle! Nid yw’n rhy hwyr i chi gofrestru ar gyfer eich pecyn gweithredu gan Brake yma, lle gallwch gael posteri, baneri, canllawiau a thaflen ffeithiau i’w rhannu â’ch cydweithwyr.

Rhowch wybod os ydych wedi gwneud unrhyw newidiadau i’ch arferion teithio yr wythnos hon! Ymunwch yn y sgwrs ar Twitter gan ddefnyddio’r hashnodau #WythnosDiogelwcharyFfyrdd a #gyrrullaibywmwy a chofiwch ddilyn @Brakecharity i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd drwy gydol yr wythnos.

 

*Daw’r ffeithiau o wefan yr Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd sydd ar gael yma.

 


Pob blog Rhannwch y neges hon