Blwyddyn newydd, dechrau newydd. Pam y dylech ddechrau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn 2016
21 Ionawr 2016Gall trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru gynnig llawer o opsiynau i ni o ran teithio, boed yn gyfle i ddal y bws i’r gwaith neu neidio ar y trên er mwyn teithio ymhellach. Gan fod cynifer o opsiynau ar gael, dyma gyflwyno rhai o’r rhesymau pam y dylai defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fod yn un o’ch addunedau chi ar gyfer 2016!
Blwyddyn newydd, dechrau newydd. Dyna agwedd y rhan fwyaf ohonom ar ddechrau blwyddyn newydd; mae’n rhoi llechen lân i ni’n ogystal â hwb o’r newydd i geisio cyflawni’r nodau yr ydym efallai wedi’u rhoi o’r neilltu yn ystod y cyfnod prysur cyn y Nadolig.
Fodd bynnag, mae mis Ionawr eisoes yn tynnu at ei derfyn a dyma’r adeg fel rheol y bydd ein haddunedau cadarnhaol ac uchelgeisiol yn dechrau darfod wrth i ni fynd yn ôl i’n hen arferion. Efallai eich bod yn rhywun a oedd ag addunedau’n barod ar gyfer dechrau 2016 neu efallai na wnaethoch unrhyw adduned o gwbl, ond yn sicr gall dechrau blwyddyn newydd fod yn adeg berffaith i ailystyried ein dulliau o deithio.
O ran ein taith i’r gwaith bob dydd, gall fod yn anodd troi cefn ar hen arferion, yn enwedig os ydych yn berchen ar gar. Pan fyddwch wedi dod o hyd i’ch llwybr arferol, mae’n hawdd glynu wrth yr hyn sy’n gyfarwydd. Fodd bynnag, gall meddwl am ffyrdd amgen o deithio o le i le gael effaith enfawr nid yn unig ar les yr amgylchedd ond hefyd ar eich iechyd personol. Mae astudiaethau diweddar wedi dangos bod mwyfwy o ddefnydd yn cael ei wneud o geir, ac erbyn 2040 disgwylir i nifer y ceir a fydd ar y ffyrdd yn Lloegr gynyddu 39% o gymharu â’r ffigurau ar gyfer 2010.* Drwy ddefnyddio’r bws neu’r trên yn lle’r car neu hyd yn oed beicio neu gerdded rai diwrnodau’r wythnos, byddwch yn gwneud mwy o ymarfer corff ac yn helpu i leihau eich ôl troed carbon ar yr un pryd.
Felly, pam defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Efallai y gwelwch chi fod dal y bws neu’r trên yn cynnig ffordd gynt neu fwy cyfleus na’r llwybr yr ydych yn ei gymryd yn eich car. Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau arni, gofynnwch i ni am help. Ein Cynlluniwr Taith yw’r lle cyntaf y dylech fynd iddo os nad ydych yn gwybod pa opsiynau sydd ar gael i chi o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd yn eich galluogi i nodi manylion eich taith er mwyn gweld pa lwybrau trenau a bysiau sydd ar gael. Byddwch hefyd yn gallu addasu’r canlyniadau i gyd-fynd â’ch anghenion, a bydd y canlyniadau yn rhannu’r daith yn gamau a fydd yn dangos yr holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen yn ogystal â map defnyddiol er mwyn i chi weld ble y mae angen i chi fod.
Wedi dod o hyd i lwybr bysiau? Gallwch ddefnyddio ein cyfleuster chwilio am amserlenni hefyd i weld y llwybr cyfan, neu os oes yn well gennych rywbeth mwy gweledol bydd ein Chwiliwr arosfannau bysiau yn eich galluogi i chwilio am arosfannau bysiau yn eich ardal ar fap rhyngweithiol.
Rydym bob amser wrth law i helpu gydag unrhyw ymholiadau a allai fod gennych am deithio, ac os oes yn well gennych siarad â rhywun mae ein staff cyfeillgar ar gael ar 0871 200 22 33** i’ch helpu ar hyd y ffordd.
Does dim gwahaniaeth beth yw eich oedran, rydym ni’n credu y gall pawb elwa o wneud yn fawr o wasanaethau trafnidiaeth eu hardal. Gall defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth fod o fudd i bobl ifanc yn eu harddegau’n enwedig, oherwydd gall fod yn ffordd wych iddynt gael rhywfaint o annibyniaeth wrth iddynt ddechrau teithio i’r coleg neu’r gwaith. Gall teithio ar fws fod yn ffordd hollbwysig o sicrhau bod myfyrwyr ifanc yn gallu teithio o le i le, yn enwedig y sawl nad ydynt yn gallu gyrru neu nad oes ganddynt eu car eu hunain.
Ydych chi’n adnabod rhywun 16-18 oed? Mae fyngherdynteithio wedi’i lansio er mwyn helpu pobl ifanc i deithio o le i le ar y bws. Drwy wneud cais am y cerdyn, gall pobl ifanc 16-18 oed gael 1/3 oddi ar bris eu tocynnau bws. Yr unig beth y mae gofyn iddynt ei wneud yw dangos y cerdyn i’r gyrrwr wrth gamu ar y bws!
Ydy hynny’n swnio’n dda? Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais am fyngherdynteithio yma yn rhad ac am ddim!
Yn ogystal â’ch helpu i arbed ychydig o arian wrth deithio i’r gwaith, mae trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn eich galluogi i gymryd rhan mewn llawer o fentrau cyffrous. Os ydych yn ystyried rhoi cynnig ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, nawr yw’r adeg berffaith i chi fwrw golwg ar gystadleuaeth Instagram Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog!
I gymryd rhan, bydd angen i’r sawl sy’n teithio ar wasanaeth T4 Traws Cymru rannu lluniau o’u taith a’u hantur i Fannau Brycheiniog gan ddefnyddio’r hashnod #myndifannaubrycheiniog neu #destinationbreconbeacons er mwyn cael cyfle i ennill iPhone 6S! I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth a chymryd rhan, cliciwch yma a sicrhewch nad ydych yn colli’r cyfle! Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw dydd Llun 14 Mawrth 2016.
Fodd bynnag, os nad yw defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn addas i chi, mae llawer o ffyrdd eraill y gallwch wneud mwy o ymarfer corff a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Mae lleoliadau â golygfeydd prydferth i’w cael ledled Cymru, a gallai dechrau beicio fod yn ffordd ddelfrydol o’ch helpu i grwydro o amgylch lleoedd newydd yn eich ardal.
Rydym wedi bod yn darllen erthygl Cycling Weekly, sy’n cynnig chwe rheswm pam y mae beicio yng Nghymru yn brofiad mor wych. Felly, p’un a ydych yn chwilio am olygfeydd ysblennydd neu’n feiciwr profiadol sy’n chwilio am lwybrau mwy heriol, mae Cymru yn lle delfrydol i ddechrau beicio.
Mae bob amser yn haws gwneud addunedau’n rhan o griw, felly beth am roi cynnig ar ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ryw wythnos gyda grŵp o ffrindiau neu gydweithwyr? Drwy helpu eich gilydd i gynnwys y teithiau hyn yn araf bach yn rhan o drefn arferol eich diwrnod, gallwch wneud gwahaniaeth enfawr i’r modd yr ydym yn meddwl am deithio yn y tymor hir.
*Daw’r ffeithiau o wefan yr Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd.
**Mae galwadau’n costio 10c y funud ynghyd ag unrhyw ffïoedd y bydd darparwr eich rhwydwaith yn eu codi.