Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel: Cyngor ynghylch diogelwch wrth feicio
06 Tachwedd 2019Yn dilyn llwyddiant lansio’r ymgyrch y llynedd, rydym yn bartner i Nation Radio unwaith eto yn ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel 2019’ yr orsaf radio. Cafodd 80 o blant eu lladd neu’u hanafu yn ddifrifol ar ffyrdd Cymru y llynedd. Rydym am leihau’r ystadegyn hwnnw.
Byddwn yn cyhoeddi cyfres o erthyglau blog ar wefan Traveline Cymru, a fydd yn cynnig cyngor ynghylch cadw eich plant yn ddiogel ac yn weladwy pan fyddant yn teithio ar y bws a’r trên a phan fyddant yn beicio ac yn cerdded. Yn y drydedd erthygl hon, cewch gyfle i ddarganfod sut y gall eich plentyn osgoi peryglon ar y ffyrdd wrth feicio.
1. Gwisgo dillad llachar neu fflworoleuol. Mae hynny’n bwysicach fyth ers i’r clociau gael eu troi’n ôl! Er bod beicio’n ffordd wych o gadw’n heini a gwneud ymarfer corff, mae’n hawdd iawn i feicwyr gael damweiniau ar y ffordd. Mae’n hollbwysig bod beicwyr yn sicrhau bod pobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd yn gallu eu gweld, yn enwedig yn gynnar yn y bore a chyda’r nos wrth iddi dywyllu.
Gallent wneud hynny drwy wisgo siaced lachar, fest lachar neu hyd yn oed rhwymynnau braich â stribyn llachar. Yn ogystal, mae Nation Radio yn dosbarthu miloedd o gylchau allweddi llachar i ysgolion ar draws de Cymru i’w rhoi ar fagiau ysgol. Beth am ofyn i athro dosbarth eich plentyn wneud cais am y cylchau allweddi hyn ar wefan Nation Radio? Mae’r eitemau llachar hyn yn ffordd wych o sicrhau bod modd i’ch plentyn fod yn amlwg ac yn ddiogel wrth feicio yn y tywyllwch.
2. Osgoi beicio mewn tywydd peryglus. Bydd y tywydd yn parhau i waethygu ar draws Cymru wrth i ni wynebu misoedd y gaeaf. Gall glaw, gwynt, niwl a tharth greu amodau peryglus i feicwyr deithio ynddynt, yn enwedig y sawl sydd wedi cael llai o brofiad ar y ffordd.
Cyn i’ch plentyn adael y tŷ i fynd i’r ysgol (neu hyd yn oed y noson gynt) edrychwch ar ragolygon y tywydd a gofynnwch i’ch plentyn a yw’n teimlo’n gyffyrddus ac yn hyderus ynghylch beicio yn yr amodau hynny. Gall tywydd gwael leihau gallu beiciwr i weld yn iawn ei hun, a gall olygu ei bod yn anos i bobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd ei weld ef. Yn ogystal, bydd angen i feicwyr bwyllo mewn tywydd gwlyb, oherwydd gallai gymryd mwy o amser i stopio oherwydd bod y ffyrdd yn llithrig.
3. Defnyddio’r golau ar eich beic – dyna’r gyfraith! Mae angen i bob beiciwr ddefnyddio golau gwyn sy’n gweithio ar flaen y beic a golau coch sy’n gweithio ar gefn y beic, yn ogystal ag adlewyrchydd coch ar gefn y beic. Mae hynny’n ofyniad cyfreithiol. Bydd defnyddio’r goleuadau hyn yn golygu y bydd yn llawer mwy diogel i’ch plentyn feicio, oherwydd bydd yn haws i bobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd ei weld. Gallwch hefyd brynu golau helmed o lawer o siopau ar y stryd fawr ac ar-lein. Bydd hynny’n helpu eich plentyn i weld y ffordd sydd o’i flaen, ac yn galluogi cerbydau eraill i’w weld ef.
4. Bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas. Bydd nifer o wrthdrawiadau’n digwydd pan fydd beiciwr yr ochr fewn i gerbyd sy’n troi i’r chwith. Ni fydd cerbydau bob amser yn rhoi arwydd i ddangos eu bod ar fin troi, felly peidiwch â thybio eu bod yn mynd yn syth yn eu blaen.
Os yn bosibl, dylai eich plentyn aros nes y bydd y car wedi mynd cyn ei fod e’n symud, er mwyn gallu gweld yn well o lawer beth sy’n digwydd o’i gwmpas ac er mwyn gallu ymateb i unrhyw beryglon. Dylai beicwyr hefyd osgoi teithio yr ochr fewn i gerbydau mawr, oherwydd mae’n anodd i’r gyrwyr eu gweld – yn enwedig plant bach!
5. Gwybod o flaen llaw bob amser pa lwybr i’w ddilyn. Gallwch wneud hynny gan ddefnyddio ein Cynlluniwr Beicio. Bydd y cyfleuster hwn yn dangos i chi - fesul stryd - pa lwybr y bydd angen i’ch plentyn ei gymryd a faint o amser y dylai’r daith ei gymryd yn gyffredinol a fesul stryd. Rydym hefyd wedi ychwanegu ambell nodwedd newydd er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y daith! Gallwch weld beth yw uchder y tir ar hyd y llwybr a pha mor brysur y mae disgwyl i’r llwybr fod. Mae’n ffordd wych o sicrhau bod eich plentyn mor barod ag sy’n bosibl ar gyfer y daith sydd o’i flaen.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel’ ar wefan Nation Radio.
Cadwch lygad ar ein blog i gael rhagor o gyngor ynghylch sut i fod yn amlwg ac yn ddiogel wrth ddefnyddio’r trên a’r bws ac wrth gerdded.