Blog

Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel: Cyngor ynghylch diogelwch wrth ddefnyddio’r trên

07 Tachwedd 2019

Yn dilyn llwyddiant lansio’r ymgyrch y llynedd, rydym yn bartner i Nation Radio unwaith eto yn ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel 2019’ yr orsaf radio. Cafodd dros 5,000 o blant eu hanafu ar ffyrdd ledled y DU yn 2017, a digwyddodd 23% o’r damweiniau rhwng 3pm a 5pm. Rydym am leihau’r ystadegyn hwn.

Byddwn yn cyhoeddi cyfres o erthyglau blog ar wefan Traveline Cymru, a fydd yn cynnig cyngor ynghylch cadw eich plant yn ddiogel ac yn weladwy pan fyddant yn teithio ar y bws a’r trên a phan fyddant yn beicio ac yn cerdded. Yn yr erthygl olaf hon yn y gyfres, cewch gyfle i ddarganfod ein cynghorion ynghylch bod yn amlwg ac yn ddiogel wrth ddefnyddio’r trên.

 

1. Cynllunio eich taith o flaen llaw. Mae defnyddio’r trên yn ffordd wych o ddarganfod yr holl bethau sydd gan Gymru i’w cynnig dros fisoedd y gaeaf, yn ogystal â theithio i’ch lleoedd arferol. I sicrhau bod eich plentyn yn teimlo’n hyderus ac yn ddiogel wrth deithio ar ei ben ei hun, ceisiwch ei annog i gynllunio ei daith o flaen llaw. Gall wneud hynny gan ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith ar wefan ac ap Traveline Cymru. Nodwch fan cychwyn a man gorffen eich taith, dewiswch yr opsiwn ‘Trên yn unig’ ac fe ddowch chi o hyd i’r llwybr cyflymaf. Bydd y cyfleuster hefyd yn dangos y llwybr ar gyfer cerdded yn ôl ac ymlaen i’r orsaf (a hyd y daith), a fydd yn rhoi tawelwch meddwl i chi y bydd eich plentyn yn cyrraedd adref yn ddiogel.

 

2. Bod yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas. Wrth aros ar y platfform ar gyfer y trên, gall fod yn demtasiwn gwisgo eich clustffonau neu sgrolio drwy’r cynnwys sydd ar gyfryngau cymdeithasol, sy’n golygu eich bod yn llai ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas. Gallai hynny eich gadael yn agored i beryglon posibl, er enghraifft gallai lladron geisio dwyn rhywbeth oddi arnoch neu gallech fethu â sylwi pan fo’r platfform yn gorlenwi. Hyd yn oed os na fydd eich plentyn am gael gwared â’r clustffonau’n gyfan gwbl, ceisiwch ei annog i’w defnyddio mewn un glust yn unig. Bydd hynny’n ei alluogi i barhau i fod yn wyliadwrus ac i ymateb os bydd unrhyw broblemau’n codi. Mae hefyd yn syniad da sefyll mewn rhannau o’r platfform sydd wedi’u goleuo yn dda, er mwyn bod yn amlwg ac yn ddiogel, yn enwedig os yw’r platfform yn dawel.

 

3. Osgoi eistedd ar eich pen eich hun mewn cerbyd trên. Yn aml bydd lladron yn ceisio dwyn rhywbeth oddi ar y sawl sy’n teithio ar drên, boed yn eiddo personol neu’n fagiau mwy o faint. Gofynnwch i’ch plentyn eistedd mewn cerbyd lle mae teithwyr eraill, yn enwedig pan fydd yn teithio yn hwyr yn y nos. Mae hynny’n golygu y bydd y teithwyr eraill yn ymwybodol o bresenoldeb eich plentyn (ac fel arall) ac na fydd eich plentyn yn gymaint o darged i ladron.

Yn ogystal, dylai geisio cadw ei fagiau gydag ef bob amser, naill ai wrth ei draed neu yn y man storio bagiau sydd uwch ei ben. Yn aml, bydd yn rhaid gadael bagiau mwy o faint yn y man storio sydd ym mhen draw’r cerbyd trên. Ceisiwch annog eich plentyn i ddod o hyd i sedd sy’n ddigon agos i’r mannau hynny er mwyn iddo allu cadw llygad ar ei eiddo drwy gydol y daith.

 

4. Aros yn ddiogel wrth gamu ar y trên a dod oddi arno. P’un a yw eich plentyn yn teithio ar ei ben ei hun neu’ch bod chi’n teithio gyda phlentyn bach, mae’n bwysig bod y plentyn yn ymwybodol o’r ffordd orau o gamu ar y trên a dod oddi arno’n ddiogel.

  • Sefyll y tu ôl i’r llinell felen. Ni ddylech groesi’r llinell felen nes y bydd y trên wedi dod i stop yn llwyr a bod teithwyr eraill wedi gadael y cerbyd. Mae’r llinell felen yno er mwyn sicrhau eich bod yn ddiogel!
  • Gwylio’r bwlch. Bydd bwlch mawr rhwng y trên ac ymyl y platfform mewn rhai gorsafoedd, sy’n aml yn rhywbeth anodd ei osgoi. Mae’n bwysig iawn eich bod yn camu ar y trên yn ofalus a bod plant bach yn cael help i wneud hynny.
  • Aros yn ddigon pell o’r drws sy’n cau. Mae drysau trenau’n cau 30 eiliad cyn i’r trên ymadael. Sicrhewch eich bod yn sefyll yn ddigon pell o’r drws cyn iddo gau, ac nad oes dim o’ch eiddo personol yn ffordd y drws.

 

5. Gwybod beth fydd eich cynlluniau teithio ar ôl dod oddi ar y trên. Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r ffordd gyflymaf o gyrraedd adref ar ôl dod oddi ar y trên. Os bydd angen i’ch plentyn gerdded adref (yn enwedig yn hwyr yn y nos) sicrhewch ei fod yn gwybod ble y mae’r mannau diogel rhwng yr orsaf drenau a’ch cartref. Gallent fod yn siop, yn orsaf betrol neu’n fannau cyhoeddus eraill y gellir eu gweld ar y map o’r llwybr sydd ar eich Cynlluniwr Taith.

Os bydd eich plentyn yn teimlo’n anghyffyrddus neu’n anniogel ar unrhyw adeg, gall fynd i mewn i’r mannau hynny a gofyn am help. Fel arall, gallech drefnu bod eich plentyn yn cael ei gasglu o’r orsaf drenau pan fydd disgwyl iddo gyrraedd yno. Dylech ofyn i’ch plentyn aros mewn man diogel – gorau oll os yw’n rhan o’r orsaf sydd wedi’i goleuo yn dda – nes y byddwch yn cyrraedd.

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel’ ar wefan Nation Radio.

Gallwch gael rhagor o gyngor ynghylch sut i fod yn amlwg ac yn ddiogel wrth ddefnyddio’r bws ac wrth feicio neu gerdded ar ein blog.

 

Pob blog Rhannwch y neges hon