Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020: 6 o gynghorion ar gyfer eich teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus!
28 Ionawr 2020Eleni bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael ei chynnal am yr 21fed tro. Mae disgwyl mawr am y gystadleuaeth sy’n argoeli bod yn fwy ac yn well nag erioed o’r blaen wrth i 3 gêm gael eu cynnal yn y brifddinas. Bydd miloedd o gefnogwyr yn heidio i strydoedd Caerdydd wrth i Gymru, y pencampwyr presennol, geisio amddiffyn y teitl ac ennill y Bencampwriaeth am yr ail waith yn olynol.
Mae diwrnodau gêm yn golygu awyrgylch bywiog, cefnogwyr sydd wedi teithio o bell ac agos a digon o’r hwyl arferol sy’n rhan o’r Bencampwriaeth, ond maent hefyd yn golygu y bydd trefniadau cau ffyrdd ar waith ac y bydd newidiadau i lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar draws y ddinas. Cymerwch olwg ar ein cynghorion ar gyfer teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, er mwyn eich helpu i deithio’n hwylus yn ôl ac ymlaen i Gaerdydd ac o amgylch y ddinas ar ddiwrnodau gêm.
1. Creu cynllun
Caiff 3 gêm eu cynnal yn Stadiwm Principality yn ystod y Bencampwriaeth:
- 1 Chwefror: Cymru yn erbyn yr Eidal (14:15)
- 22 Chwefror: Cymru yn erbyn Ffrainc (16:45)
- 14 Mawrth: Cymru yn erbyn yr Alban (14:15)
Ar bob un o’r diwrnodau hyn, bydd holl ffyrdd canol y ddinas ar gau er mwyn helpu i gadw cefnogwyr rygbi mor ddiogel ag sy’n bosibl ynghyd ag ymwelwyr eraill sydd am ymuno yn y dathliadau. Mae hynny’n golygu y bydd nifer o weithredwyr bysiau’n rhedeg gwasanaeth gwahanol i’r arfer (er enghraifft, y byddant yn defnyddio arosfannau a llwybrau gwahanol). Bydd systemau ciwio ar waith yn y gorsafoedd trenau hefyd.
Er mwyn gallu teithio o amgylch y ddinas mor hwylus ag sy’n bosibl, gorau oll os gallwch gynllunio eich taith ymlaen llaw. Byddwn yn diweddaru ein tudalen Problemau Teithio yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wrth i wybodaeth ddod i law oddi wrth weithredwyr cyn y gemau hyn, ond cofiwch droi at y dudalen hon yn rheolaidd rhag ofn bod unrhyw newidiadau munud olaf.
Os bydd y newidiadau hyn neu unrhyw newidiadau eraill yn effeithio ar eich taith, bydd triongl rhybuddio melyn i’w weld ar y canlyniadau sy’n ymddangos yn y Cynlluniwr Taith neu ar y dudalen Amserlenni.
2. Gofalu bod y wybodaeth ddiweddaraf gennych
Byddwn yn aildrydar unrhyw ddiweddariadau gan weithredwyr, sy’n rhoi gwybod i gwsmeriaid am unrhyw broblemau munud olaf neu am unrhyw oedi ar wasanaethau, ar ein tudalen Twitter @TravelineCymru rhwng 7am ac 8pm. Mae hynny’n golygu y gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw oedi neu am unrhyw ddargyfeiriadau neu newidiadau ychwanegol i wasanaethau, nad oedd modd eu rhagweld ymlaen llaw.
P’un a fyddwch yn mynd i’r gêm, yn ei gwylio mewn tafarn neu’n teithio o le i le yng Nghaerdydd, rydym yn argymell y dylech ganiatáu digon o amser ar gyfer eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae’n debygol y bydd tagfeydd difrifol yng Nghaerdydd a’r cyffiniau ac y bydd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn brysurach nag arfer.
3. Unrhyw gwestiynau? Mae’r atebion gennym ni
Os oes arnoch angen unrhyw help i gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus cyn y gêm (neu hyd yn oed wrth i chi fynd o le i le yng Nghaerdydd ar y diwrnod), bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i’ch helpu.
Gallwch ein ffonio’n rhad ac am ddim ar 0800 464 00 00 rhwng 7am ac 8pm bob dydd! Gall ein cynghorwyr egluro pa opsiynau sydd ar gael ar gyfer eich taith, pa ddargyfeiriadau sydd ar waith, ac unrhyw wybodaeth arall y mae arnoch ei hangen er mwyn gallu teithio’n hwylus ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Gan fod disgwyl i gynifer o bobl fod yng Nghaerdydd ar y diwrnod, mae hefyd yn syniad da i chi gadw ein rhif rhag ofn y cewch chi unrhyw anhawster defnyddio WiFi neu ddata.
4. Cadw gyda’ch gilydd!
Bydd Caerdydd yn brysur tu hwnt ar ddiwrnodau gêm, ac mae disgwyl i filoedd o bobl ymuno yn y dathliadau yn y stadiwm ac yn y tafarnau a’r bariau cyfagos. Mae hynny hefyd yn golygu y bydd arosfannau bysiau a gorsafoedd trenau’n brysurach nag arfer, felly gofalwch eich bod yn cadw gyda’ch ffrindiau a’ch teulu drwy gydol y dydd er mwyn sicrhau bod pawb yn ddiogel ac yn cael amser da.
Mae hynny’n arbennig o wir am blant ifanc, sy’n fwy tebygol o fynd ar goll yng nghanol y torfeydd. Mae’n bosibl y byddwch am ystyried pennu man cyfarfod rhag ofn y bydd unrhyw un yn eich grŵp yn mynd ar goll.
Cadwch gyda’ch gilydd a chadwch yn ddiogel!
5. Cadw golwg ar eich eiddo personol
Wrth gerdded trwy dorfeydd mawr ar eich ffordd i’r gêm ac oddi yno, mae’n bwysig cadw eich eiddo personol gyda chi bob amser. Cyn i chi adael y bws neu’r trên, cofiwch fwrw golwg ar y man lle buoch yn sefyll neu’n eistedd rhag ofn bod eich ffôn, eich bag, eich allweddi neu unrhyw eiddo personol arall (gan gynnwys eich tocynnau i’r gêm!) yn dal yno.
Os byddwch yn colli unrhyw eiddo personol, y peth gorau i’w wneud yw cysylltu â gweithredwr y gwasanaeth bws neu’r gwasanaeth trên yn uniongyrchol. Mae rhestr o weithredwyr a dolenni cyswllt â’u gwefannau (gyda’r holl wybodaeth gyswllt y bydd arnoch ei hangen) i’w gweld ar ein tudalen Dolenni Cyswllt Defnyddiol.
6. Bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch amgylch
Mae bob amser yn bwysig bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’ch amgylch wrth i chi deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig ar wasanaethau trên sy’n aml yn fwy o faint ac yn fwy prysur (yn enwedig ar ddiwrnodau gêm!).
Os byddwch yn gweld unrhyw beth amheus neu unrhyw beth sy’n peri pryder wrth i chi deithio i’r gêm ac oddi yno, gallwch anfon neges destun yn dawel bach at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016. Rhowch wybod iddynt beth sy’n digwydd a ble’r ydych chi, a byddant wrth law i gynnig cyngor a chymorth. Ffoniwch 999 os yw’n argyfwng.
Os hoffech sôn yn ddiweddarach am drosedd nad yw’n argyfwng, gallwch lenwi ffurflen ar wefan Heddlu Trafnidiaeth Prydain.
Rydym yn gobeithio y cewch chi amser gwych yn dathlu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2020, a siwrnai saff a hwylus ar drafnidiaeth gyhoeddus. Pob lwc i Gymru!