Uchafbwyntiau hanner tymor mis Chwefror: Beth sydd ymlaen yn y gogledd?
14 Chwefror 2019Mae gwyliau’r Nadolig wedi hen basio erbyn hyn, ac mae’n siŵr eich bod chi a’r plant yn edrych ymlaen at gael seibiant haeddiannol yn ystod hanner tymor mis Chwefror. I’ch helpu i wneud yn fawr o’r gwyliau, rydym wedi creu rhestr o weithgareddau difyr y gall y teulu cyfan eu mwynhau ar draws y de, y canolbarth a’r gogledd.
Bydd ein herthygl olaf am ‘Uchafbwyntiau hanner tymor mis Chwefror’ yn dweud wrthych ble y gallwch ddringo drwy un o ardaloedd chwarae awyr agored mwyaf unigryw Cymru, mynd i sioe wyddoniaeth fyw a rhyngweithiol i ddysgu am y system dreulio, a neidio o amgylch ar obennydd bownsio enfawr yn y gogledd.
Hanner tymor yng Ngwarchodfa Natur yr RSPB Conwy
Mae Gwarchodfa Natur yr RSPB Conwy yn gartref i amrywiaeth cyfoethog o fywyd gwyllt, gan gynnwys y rhostog gynffonddu, hwyaden yr eithin a’r rhegen ddŵr. Gellir gweld y creaduriaid hyn yn plymio drwy’r awyr, neu’n mynd ar draws un o lynnoedd hyfryd y Warchodfa ddiwedd y prynhawn.
Rhwng dydd Sul 16 Chwefror a dydd Sul 3 Mawrth, gall ymwelwyr gymryd rhan mewn cwis hanner tymor am hoff fwyd ein hadar. Dilynwch y llwybrau er mwyn dod o hyd i’r cliwiau a dysgu beth y mae’r adar yn hoffi ei gael i swper! Bydd angen talu tâl mynediad arferol y Warchodfa a bydd taflen y cwis yn costio £1 ychwanegol.
Bydd y Warchodfa hefyd yn cynnal digwyddiad ‘Hoffi Lego, Hoffi Byd Natur!’ ar gyfer plant a phobl ifanc 6-14 oed. Yn y gweithdy hwn, byddwch yn creu eich fideo wedi’i animeiddio eich hun gan ddefnyddio iPad, a seren y fideo fydd eich hoff greadur wedi’i wneud o Lego. Dyma gyfle perffaith i unrhyw animeiddwyr ifanc gael rhywfaint o brofiad ymarferol o wneud gwaith creadigol. Bydd y tocynnau’n costio £12 i Chwilotwyr Bywyd Gwyllt a £15 i’r sawl nad ydynt yn aelodau. Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar wefan yr RSPB.
Cyffordd Llandudno yw’r orsaf reilffordd agosaf at y Warchodfa, ac mae hanner milltir i ffwrdd. Yn ogystal, gall y sawl sy’n dod ar y trên ac sy’n gallu dangos tocyn trên dilys hawlio diod am ddim yn y Siop Goffi ar y diwrnod y byddant yn teithio!
Ogof y Blaidd yn Erddig, Wrecsam
Paratowch i fynd yn wyllt ar Ystâd Erddig yn ystod y gwyliau hanner tymor wrth i ardal chwarae naturiol Ogof y Blaidd ailagor yn swyddogol.
Mae’r ardal chwarae unigryw hon wedi bod ar gau yn ystod y misoedd diwethaf er mwyn galluogi’r staff i atgyweirio a gwella’r safle, ond bydd yn ailagor i’r cyhoedd rhwng 16 Chwefror a 3 Mawrth. Dewch i ddangos eich sgiliau ar y trawstiau cydbwysedd, adeiladu eich cuddfan eich hun â deunyddiau o’r Goedwig Fawr, a dringo drwy’r ardal chwarae.
Bydd nifer o weithgareddau rhad ac am ddim ar gael i’r plant eu mwynhau yn ystod y gwyliau hanner tymor. Beth am roi cynnig ar goginio o amgylch tân gwersyll, ymarfer eich sgiliau creadigol drwy greu celf yn y gwyllt, neu ddathlu Dydd Gŵyl Dewi â gweithgareddau crefft lle byddwch yn creu cennin Pedr?
Mae rhestr lawn o’r holl weithgareddau hanner tymor i’w cael ar wefan Erddig.
Mae gwasanaeth rhif 2 Arriva o Wrecsam yn aros wrth Felin Puleston, sydd tua milltir o Ystâd Erddig. Fel arall, mae Gorsaf Wrecsam Canolog 2½ filltir i ffwrdd ac mae Gorsaf Wrecsam Cyffredinol 3½ milltir i ffwrdd. Gallwch gyrraedd Erddig o’r ddau leoliad hyn ar hyd Erddig Road ac ar hyd llwybr troed.
Dirgelion y System Dreulio yn Techniquest Glyndŵr
Canolfan ryngweithiol ar gyfer gweithgareddau gwyddoniaeth yw Techniquest Glyndŵr, ac mae’n orlawn o bethau i’w gweld a’u cyffwrdd yn ogystal â sioeau a phosau ar gyfer plant chwilfrydig.
Drwy gydol mis Chwefror a mis Mawrth, gallwch ddarganfod popeth y mae angen i chi ei wybod am y system dreulio, oherwydd bydd y ganolfan yn cynnal cyfres o sioeau gwyddoniaeth byw a fydd yn archwilio Dirgelion y System Dreulio. Beth sy’n digwydd i fwyd wrth iddo fynd drwy eich ceg ac i lawr i’ch stumog? Faint o boer y mae unigolyn cyffredin yn ei gynhyrchu yn ystod ei oes? Pa mor hir yw eich perfeddyn bach?
Gallwch gael yr atebion i’r cwestiynau hyn (a mwy!) yn Techniquest Glyndŵr. Bydd y sioe hefyd yn cynnwys adran ychwanegol o’r enw ‘Microbau a Fi’ rhwng 16 Chwefror a 3 Mawrth, lle gallwch ddysgu am y swyddogaethau defnyddiol y mae microbau’n eu cyflawni yn eich corff.
Mae rhagor o fanylion am y sioe i’w cael ar wefan y ganolfan.
Mae Gorsaf Reilffordd Wrecsam Cyffredinol 8 munud o waith cerdded o’r ganolfan. Fel arall, mae sawl gwasanaeth bws lleol yn mynd ar hyd Mold Road, sydd 5 munud o waith cerdded o’r ganolfan.
Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd, Gwynedd
Dewch i brofi ychydig o antur ym Mharc Coedwig y Gelli Gyffwrdd yn ystod y gwyliau hanner tymor a mwynhau amrywiaeth o reidiau, gweithgareddau, sioeau byw a gweithgareddau crefft.
Mae’r Parc wedi dod i’r brig saith mlynedd yn olynol mewn pleidlais i ddod o hyd i atyniad gorau’r gogledd i deuluoedd. Yno cewch gyfle i neidio fyny fry ar obennydd bownsio enfawr y Gelli Gyffwrdd, sy’n 1500 o droedfeddi sgwâr o ran maint! I’r sawl y mae’n well ganddynt fod â’u traed ar y ddaear, mae yna lwybr synhwyraidd lle gallwch gerdded yn droednoeth dros wahanol fathau o arwynebau sy’n cynnwys tywod, rhisgl, gwellt, pren a dŵr.
Gallwch hefyd weld Harley’r Clown a fydd yn perfformio ei driciau stryd, neu Ricardo’r Môr-leidr a fydd yn barod i’ch diddanu yn ei sioe anturus. Sicrhewch eich bod yn ymweld â Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd i fwynhau diwrnod allan heb ei ail i’r teulu!
Mae bysiau 72 a 73 yn mynd yn syth i Parc Coedwig y Gelli Gyffwrdd o Fangor. Yn ogystal, gallwch gymryd gwasanaeth 5A, 5/5C/X5, 10 neu 88 o Fangor neu Gaernarfon i arhosfan y swyddfa bost yn y Felinheli. Mae’r arhosfan hwnnw 20 munud o waith cerdded o’r ganolfan.
Hanner tymor yng Nghastell y Waun, Wrecsam
Mae tiroedd bendigedig y Castell hwn sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn lle delfrydol i fynd am dro yn ystod y gwanwyn.
Ar 19 a 27 Chwefror, dewch i fwynhau’r golygfeydd godidog o gefn gwlad ac edmygu’r carped o eirlysiau hardd wrth i chi grwydro o amgylch terfynau’r Castell. Gyda help tywysydd, gallwch ddysgu am y gwahanol fathau o goed sy’n tyfu yn y coetiroedd, a hyd yn oed rhoi cynnig ar eu hadnabod drwy edrych ar eu blagur! Bydd y daith gerdded yn cymryd tua hanner awr.
Oes awydd arnoch wneud rhywbeth sy’n fwy heriol? Gallwch chi a’r plant gerdded i fyny i’r Hen Glwb Golff i weld golygfeydd godidog o’r Castell ac o wastadeddau Swydd Amwythig, yn rhan o brosiect ‘50 o bethau i’w gwneud cyn eich bod yn 11¾’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn ogystal, gallwch geisio cyflawni rhai o’r 50 o bethau eraill sydd ar eich rhestr, er enghraifft gwylio adar neu ddefnyddio map a chwmpawd i gael cyfarwyddiadau.
Mae’r ddau ddigwyddiad uchod yn rhad ac am ddim!
Os hoffech deithio ar y bws, mae gwasanaeth 2/2A Arriva o Wrecsam i Groesoswallt yn aros ym mhentref y Waun wrth ymyl yr orsaf drenau. Mae’r orsaf ¼ milltir o gatiau’r ystâd, ac 1½ filltir o’r castell.
Ydych chi am wybod beth sydd ymlaen yn y de a’r canolbarth? Gallwn ni eich helpu. Cliciwch yma i ddarganfod rhai o’r ffyrdd y gallwch dreulio eich hanner tymor yno.
Os oes angen unrhyw help arnoch i gyrraedd y lleoliadau y cyfeirir atynt, mae Traveline Cymru ar gael i’ch helpu.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.
Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.
Cerdded a beicio
Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.
Rydym yn cynnig gwasanaeth rhadffôn hefyd. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith. Ffoniwch ni ar 0800 464 00 00 yn rhad ac am ddim!
Mae ein ap yn ffordd wych o gynllunio eich taith wrth i chi fynd o le i le. Gallwch ddefnyddio ein hadnodd Cynlluniwr Taith, chwilio am amserlenni a dod o hyd i’ch gorsaf fysiau agosaf – y cyfan mewn un man. Os oes gennych iPhone gallwch lawrlwytho’r ap ar iTunes, neu os oes gennych ddyfais Android gallwch lawrlwytho’r ap ar Google Play. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen ynghylch yr ap ar ein gwefan.