Mae gwyliau’r Nadolig wedi hen basio erbyn hyn, ac mae’n siŵr eich bod chi a’r plant yn edrych ymlaen at gael seibiant haeddiannol yn ystod hanner tymor mis Chwefror. I’ch helpu i wneud yn fawr o’r gwyliau, rydym wedi creu rhestr o weithgareddau difyr y gall y teulu cyfan eu mwynhau ar draws y de, y canolbarth a’r gogledd.
Bydd ein herthygl gyntaf am ‘Uchafbwyntiau hanner tymor mis Chwefror’ yn dweud wrthych ble y gallwch edmygu gwaith eiconig Leonardo da Vinci, crwydro drwy goetiroedd un o erddi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn y de!
I nodi pumcanmlwyddiant ei farwolaeth, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi agor arddangosfa sy’n cynnwys 12 o gampweithiau darlunio pennaf Leonardo da Vinci. Bydd yr arddangosfa’n adlewyrchu yr ystod eang o ddiddordebau artistig a oedd gan Da Vinci, gan gynnwys ei ddiddordeb mewn cerfluniaeth, daeareg a pheirianneg.
Dim ond ar y diwrnod y gellir prynu tocynnau, ac maent yn costio £5 i oedolion a £4 i’r sawl sy’n gymwys i gael gostyngiad. Cynigir mynediad am ddim i blant a phobl ifanc 16 oed ac iau.
Bydd yr Amgueddfa hefyd yn cynnal gweithdai hanner tymor yn rhad ac am ddim rhwng 26 Chwefror ac 1 Mawrth. Bydd y gweithdai’n rhoi cyfle i ymwelwyr ddod i wybod mwy am fywyd a gwaith anhygoel Da Vinci, mewn cyfres o sesiynau creadigol a rhyngweithiol i’r teulu cyfan!
Ydych chi’n b-arrrr-od, blant? Rhwng dydd Sadwrn 23 Chwefror a dydd Sul 3 Mawrth, bydd Canolfan Dreftadaeth Gŵyr yn cynnal wythnos o weithgareddau gwych ar sail y thema Môr-ladron rhwng 10am a 5:30pm bob dydd.
Dewch o hyd i’r ‘X’ a chwiliwch am y trysorau cudd y mae môr-ladron y gorffennol wedi’u gadael, wrth i chi hyfforddi i fod yn fôr-leidr eich hun! Rhowch brawf ar eich sgiliau trin cleddyf gyda’r Capten Jack Sparrow. Gallwch hyd yn oed wylio rhai cartwnau am fôr-ladron yn sinema leiaf Cymru, sef La Charrette. Gallai fod yn ffordd wych o ddiweddaru eich gwybodaeth am y môr cyn cymryd rhan yn y Cwis Môr-ladron.
Mae tocynnau’n costio £8 i oedolion a £6 i blant. Mae tocynnau i deuluoedd ar gael hefyd ar wefan Canolfan Dreftadaeth Gŵyr.
Ewch â’r plant ar daith heb ei hail ar y trên, drwy dirwedd hyfryd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae’r rheilffordd yn dilyn rhan o lwybr Rheilffordd Fynyddig wreiddiol Aberhonddu a Merthyr, ac mae’n mynd o bentref Pant (sydd ychydig i’r gogledd o Ferthyr Tudful) i Dorpantau. Mae’r daith yn para awr a hanner ac mae’n cynnwys toriad o 25 munud ym Mhontsticill.
Yn ystod y daith byddwch yn teithio i mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac ar hyd Cronfa Ddŵr Taf Fechan, cyn cyrraedd Torpantau ar ucheldir y Bannau. Cewch gyfle hefyd i ymweld ag un o’r ystafelloedd te hyfryd sydd yn y brif orsaf ym mhentref Pant, a gweld y gweithdy lle caiff y locomotifau stêm eu hatgyweirio.
I weld y dyddiadau y gallwch fynd ar y rheilffordd ac i brynu eich tocynnau, ewch i wefan Rheilffordd Fynyddig Aberhonddu.
Camwch i’r gorffennol yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn ystod y gwyliau hanner tymor er mwyn cael profiad o fywyd yn ystod teyrnasiad y Frenhines Fictoria.
Rhwng 25 a 28 Chwefror, gall ymwelwyr gael eu tywys yn rhad ac am ddim o amgylch tir yr Amgueddfa a darganfod pa fath o fywyd oedd gan blant yn ystod y 19eg ganrif. Ar ôl cerdded ar hyd strydoedd cobl yr Amgueddfa, gallwch roi cynnig ar chwarae â rhai teganau traddodiadol o Oes Fictoria, megis y chwrligwgan a thaflu cylchyn – doedd dim ffonau symudol na llechi cyfrifiadurol i’w gweld yn unman bryd hynny!
Ar 1 Mawrth, gall ymwelwyr fwynhau diwrnod o weithgareddau celf a chrefft Fictoraidd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi (mae’r gweithgareddau’n rhad ac am ddim). Gallwch gael gwybod mwy ar wefan Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Rhwng 16 Chwefror a 3 Mawrth, dewch i grwydro drwy'r coetir a’r ddôl blodau gwyllt yng Ngardd Goedwig Colby, sy’n rhan o lwybr chwilota’r Ardd. Yn ystod eich taith, byddwch yn chwilio am y bywyd gwyllt sy’n byw yn yr Ardd ac yn cael gwobr ar y diwedd (os byddwch yn llwyddiannus)!
Yn ogystal, gall plant roi cynnig ar ddysgu Sgiliau Gwylltgrefft Sylfaenol yn ystod sesiwn sgiliau goroesi gyda’r arbenigwr, Chris Harvey-Jones, ar 26 a 28 Chwefror. Byddwch yn dysgu sut mae cynnau tân a sut mae creu lloches gan ddefnyddio deunyddiau o’r coetir. Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith i blant sydd wrth eu bodd yn chwilota! Bydd tair sesiwn yn cael eu cynnal bob dydd ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.
Ewch i dudalen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynghylch digwyddiadau i gael gwybod mwy a chadw eich lle.
Rhwng 23 Chwefror a 3 Mawrth, bydd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn eich annog i arddio gyda chymorth llwyth o weithgareddau garddio y gall y teulu cyfan eu mwynhau. Dewch i chwilio am arwyddion o’r gwanwyn, dilyn cyrsiau tyfu tatws, chwilio am gennin Pedr a mwynhau sesiynau celf a chrefft rhwng 11am a 3pm bob dydd. Gallwch hyd yn oed ddarganfod sut i hau eich gardd fach eich hun a gofalu amdani!
Tra byddwch yno, gallwch hefyd ymweld â’r Tŷ Gwydr Mawr i ddysgu popeth am wenyn, glöynnod byw a chwilod eraill, a chael cyfle i gwrdd â rhai ohonynt. Mae’r sesiynau rhyngweithiol hyn yn ffordd wych o ddifyrru’r sawl sy’n dwlu ar bryfetach. Ond os byddwch yn ymweld â’r Ardd ar 1 Mawrth, cofiwch wisgo eich gwisg Gymreig orau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi!
Os oes angen unrhyw help arnoch i gyrraedd y lleoliadau y cyfeirir atynt, mae Traveline Cymru ar gael i’ch helpu.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Os ydych am deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus, manylion y gwasanaethau sy’n rhedeg a’u hamseroedd.
Os hoffech ddod o hyd i amserlen fysiau, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr bysiau penodol neu’ch lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau yn eich ardal. Yn ogystal, byddwch yn gallu argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.
Cerdded a beicio
Gallwch hefyd ddefnyddio ein cynlluniwr taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio er mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o weld y golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Beicio a Cherdded.
Rydym yn cynnig gwasanaeth rhadffôn hefyd. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith. Ffoniwch ni ar 0800 464 00 00 yn rhad ac am ddim!
Mae ein ap yn ffordd wych o gynllunio eich taith wrth i chi fynd o le i le. Gallwch ddefnyddio ein hadnodd Cynlluniwr Taith, chwilio am amserlenni a dod o hyd i’ch gorsaf fysiau agosaf – y cyfan mewn un man. Os oes gennych iPhone gallwch lawrlwytho’r ap ar iTunes, neu os oes gennych ddyfais Android gallwch lawrlwytho’r ap ar Google Play. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y dudalen ynghylch yr ap ar ein gwefan.