Blog

Be Safe Be Seen- Walking

Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel: Cyngor ynghylch diogelwch wrth gerdded

04 Tachwedd 2019

Yn dilyn llwyddiant lansio’r ymgyrch y llynedd, rydym yn bartner i Nation Radio unwaith eto yn ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel 2019’ yr orsaf radio. Cafodd dros 5,000 o blant eu hanafu ar ffyrdd ledled y DU yn 2017, a digwyddodd 23% o’r damweiniau rhwng 3pm a 5pm. Rydym am leihau’r ystadegyn hwn.

Byddwn yn cyhoeddi cyfres o erthyglau blog ar wefan Traveline Cymru, a fydd yn cynnig cyngor ynghylch cadw eich plant yn ddiogel ac yn weladwy pan fyddant yn teithio ar y bws a’r trên a phan fyddant yn beicio ac yn cerdded. Yn yr erthygl gyntaf hon cewch gyfle i ddarganfod beth y gall eich plentyn ei wneud y gaeaf hwn i fod yn amlwg ac yn ddiogel wrth gerdded.

 

1. Gwisgo dillad llachar sy’n adlewyrchu golau. Mae 42% o’r holl blant sy’n mynychu ysgolion cynradd a 34% o’r holl blant sy’n mynychu ysgolion uwchradd yng Nghymru yn cerdded i’r ysgol. Gan fod y clociau wedi’u troi yn ôl erbyn hyn ac y bydd yn dal i dywyllu’n fwyfwy cynnar, mae’n bwysicach fyth bod y plant hyn yn sicrhau bod pobl eraill sy’n defnyddio’r ffordd yn gallu eu gweld.

Gallent wneud hynny drwy wisgo siaced lachar, fest lachar neu hyd yn oed rhwymynnau braich â stribyn llachar. Yn ogystal, mae Nation Radio yn dosbarthu miloedd o gylchau allweddi llachar i ysgolion ar draws de Cymru i’w rhoi ar fagiau ysgol. Gall athro dosbarth eich plentyn wneud cais am hyd at 30 o’r cylchau allweddi hyn ar wefan Nation Radio, a helpu i sicrhau bod eich plentyn yn parhau i fod yn amlwg ac yn ddiogel wrth gerdded yn y tywyllwch.

 

2. Defnyddio’r tortsh sydd ar eich ffôn. Mae hynny’n arbennig o bwysig mewn ardaloedd nad ydynt wedi’u goleuo yn dda. Trwy ddefnyddio’r tortsh sydd ar eich ffôn, gallwch weld y ffordd a’r palmant a bod yn ymwybodol o unrhyw beryglon sydd o’ch blaen. Gall hefyd alluogi gyrwyr i fod yn ymwybodol o’ch presenoldeb ar hyd ffyrdd nad ydynt wedi’u goleuo fawr ddim. Ond cofiwch ddefnyddio eich tortsh yn ddoeth! Gall ei ddefnyddio i dynnu sylw ar gam fod yn beryglus. Os nad oes gan eich plentyn ffôn, gallwch brynu tortsh llaw neu dortsh pen o lawer o siopau ar y stryd fawr neu ar-lein.

 

3. Cerdded ar hyd yr ochr sy’n wynebu’r traffig. Mae hynny’n golygu y byddwch chi’n gallu gweld y traffig sy’n dod i’ch cyfarfod ac y bydd modd i yrwyr eich gweld chi. Bydd hynny’n galluogi eich plentyn i fod yn fwy ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’i gwmpas, a bydd yn rhoi cyfle iddo ymateb i beryglon mewn da bryd.

Yn ogystal, mae’n fwy diogel cerdded yn rhan o griw yn y tywyllwch. Os yw eich plentyn yn cerdded yn ôl ac ymlaen i’r ysgol ar ei ben ei hun, holwch a oes ganddo ffrind neu rywun arall lleol a allai gerdded gydag ef. Os yw eich plentyn yn rhy ifanc i gerdded ar ei ben ei hun, dylai oedolyn cyfrifol gerdded gydag ef bob amser. Yn ogystal, wrth gerdded ar balmant, dylai’r plant gerdded ar hyd yr ymyl sydd bellaf o’r ffordd.

 

4. Osgoi pethau a allai dynnu eich sylw. Chwarae gêm ar eich ffôn, gwrando ar gerddoriaeth trwy eich clustffonau a sgwrsio â ffrind. Dyma rai o’r pethau yr ydym i gyd yn eu gwneud ac a allai dynnu ein sylw oddi ar beryglon y ffordd. Mae’n bwysig parhau’n ymwybodol o’r hyn sydd o’ch amgylch a rhoi sylw i’r hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas pan fyddwch yn cerdded i unrhyw le. Hyd yn oed os na fydd eich plentyn am gael gwared â’r clustffonau’n gyfan gwbl, ceisiwch ei annog i’w defnyddio mewn un glust yn unig. Bydd hynny’n golygu y bydd modd iddo glywed unrhyw geir sy’n dod i’w gyfarfod neu unrhyw bobl sy’n cerdded y tu ôl iddo, ac ymateb yn briodol.

 

5. Gwybod i ble’r ydych yn mynd. Sicrhewch fod eich plentyn yn osgoi’r peryglon sy’n gysylltiedig â pheidio â gwybod y ffordd, p’un a yw’n cerdded i’r ysgol, i dŷ ffrind neu i un o ddigwyddiadau’r Nadolig. Gall eich plentyn ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith ar wefan neu ap Traveline Cymru i ddarganfod pellter a llwybr ei daith cyn dechrau. Bydd y llwybr yn ymddangos ar fap hawdd ei ddilyn y bydd modd i’ch plentyn ei ddefnyddio drwy gydol y daith. Yn ogystal, mae gennym rif Rhadffôn y gall ei ffonio, sef 0800 464 00 00. Gall eich plentyn ddefnyddio’r rhif hwn i ffonio un o’n hymgynghorwyr cyfeillgar a fydd yn gallu ei helpu i gynllunio gweddill ei daith os bydd yn dod ar draws unrhyw broblemau (felly sicrhewch fod y rhif hwn yn ei ffôn!).

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel’ ar wefan Nation Radio.

Cadwch lygad ar ein blog i gael rhagor o gyngor ynghylch sut i fod yn amlwg ac yn ddiogel wrth ddefnyddio’r bws a’r trên ac wrth feicio.

 

Pob blog Rhannwch y neges hon