Blog

Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel: Cyngor ynghylch diogelwch wrth ddefnyddio’r bws

Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel: Cyngor ynghylch diogelwch wrth ddefnyddio’r bws

05 Tachwedd 2019

Yn dilyn llwyddiant lansio’r ymgyrch y llynedd, rydym yn bartner i Nation Radio unwaith eto yn ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel 2019’ yr orsaf radio. Cafodd 80 o blant eu lladd neu’u hanafu yn ddifrifol ar ffyrdd Cymru y llynedd. Rydym am leihau’r ystadegyn hwnnw.

Byddwn yn cyhoeddi cyfres o erthyglau blog ar wefan Traveline Cymru, a fydd yn cynnig cyngor ynghylch cadw eich plant yn ddiogel ac yn weladwy pan fyddant yn teithio ar y bws a’r trên a phan fyddant yn beicio ac yn cerdded. Mae’r ail erthygl hon yn gyfle i ddysgu sut y gall eich plentyn deithio’n ddiogel wrth ddefnyddio’r bws ar ei ben ei hun.

 

1. Aros nes eich bod yn teimlo’n barod i deithio ar eich pen eich hun. Gall teithio ar y bws ar eich pen eich hun am y tro cyntaf fod yn brofiad brawychus. Bydd gwybod ble y mae eich arhosfan bysiau a faint o amser y bydd y daith yn ei gymryd, a sicrhau eich bod yn cyrraedd mewn pryd ymhlith y pethau y bydd yn rhaid i chi eu hystyried. Os ydych yn ystyried gadael i’ch plentyn deithio ar ei ben ei hun, beth am i chi wneud y daith unwaith gyda’ch plentyn o flaen llaw?

Bydd hynny’n rhoi’r hyder iddo wybod beth y mae’n ei wneud (ac yn rhoi tawelwch meddwl i chi). Wedyn, anogwch eich plentyn i deithio gyda ffrind neu mewn grŵp nes ei fod yn teimlo’n barod i deithio ar ei ben ei hun. Gall gwefan ac ap Traveline Cymru helpu gyda’r teithiau hyn hefyd. Gallwch gynllunio llwybr eich taith ar fws, dod o hyd i’ch arhosfan bysiau agosaf a darganfod faint o amser y bydd yn ei gymryd i chi gyrraedd yno – i gyd yn yr un man!

 

2. Bod yn ddiogel wrth gamu ar y bws a dod oddi arno. Cyn camu ar y bws, cofiwch sefyll yn ddigon pell o’r drws er mwyn gadael i deithwyr eraill ddod oddi ar y bws yn gyntaf. Sicrhewch fod y neges hon yn gwbl glir i unrhyw blant ifanc a allai fod yn teithio gyda chi, oherwydd mae’n hawdd iawn iddynt fynd ar goll ynghanol llawer o bobl.

Wrth gamu oddi ar y bws, ni ddylech geisio croesi’r ffordd y tu blaen neu y tu ôl i’r bws cyn iddo adael. Mae hynny’n ei gwneud yn anodd i’r gyrrwr a’r traffig sy’n dod i’w gyfarfod eich gweld, a gallai arwain at ddamwain. Cerddwch i’r groesfan agosaf er mwyn croesi’r ffordd yn ddiogel.

 

3. Deall rheolau’r bws. Mae hynny’n bwysig er mwyn sicrhau diogelwch eich plentyn (a diogelwch teithwyr eraill)! Wrth adael y bws, mae’n demtasiwn codi o’ch sedd yn gynnar a cheisio cerdded tuag at y drws. Fodd bynnag, gall ceisio cerdded i lawr canol y bws tra bydd y bws yn dal i symud fod yn beryglus. Dylech aros nes y bydd y bws wedi dod i stop cyn cerdded tuag at y drws.

I wneud bywyd yn haws i deithwyr eraill, sicrhewch nad ydych yn gadael unrhyw eiddo personol ar y llwybr canol oherwydd gallai beri i bobl faglu. Drwy gydol y daith, ni ddylech geisio cyfathrebu â’r gyrrwr oni bai bod gennych reswm da dros wneud hynny (er enghraifft, os oes argyfwng meddygol). Fel arfer, bydd arwydd yn nhu blaen y bws sy’n dangos y pwynt na ddylech fynd heibio iddo. Peidiwch â mynd y tu hwnt i’r pwynt hwnnw, felly, oherwydd gallech dynnu sylw’r gyrrwr ar gam.

 

4. Cynllunio eich taith o flaen llaw. Gall gwefan ac ap Traveline Cymru helpu eich plentyn i ddarganfod popeth y bydd arno angen ei wybod o flaen llaw am ei daith. Mae’r dyddiau yn byrhau erbyn hyn, a does neb yn dymuno sefyll wrth yr arhosfan bysiau yn yr oerfel ar eu pen eu hunain.

Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i ddarganfod ble y mae eich arhosfan bysiau agosaf, faint o amser y bydd yn ei gymryd i chi gyrraedd yno, a pha lwybr yw’r un mwyaf hwylus ar gyfer eich taith. Mae hynny’n golygu y bydd modd i’ch plentyn aros yn ddiogel ac yn gynnes dan do am ychydig yn hwy ac osgoi gorfod rhuthro ar y funud olaf i ddal y bws. Yn ogystal, mae gennym rif Rhadffôn y gallwch ei ffonio, sef 0800 464 00 00. Os bydd eich plentyn yn dod ar draws unrhyw broblemau ar y daith, gall ffonio’r rhif hwn a gall un o’n hymgynghorwyr cyfeillgar ei helpu i gynllunio gweddill y daith.

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ‘Byddwch yn Amlwg, Byddwch yn Ddiogel’ ar wefan Nation Radio.

Cadwch lygad ar ein blog i gael rhagor o gyngor ynghylch sut i fod yn amlwg ac yn ddiogel wrth ddefnyddio’r trên ac wrth feicio a cherdded.

 

Pob blog Rhannwch y neges hon