Angen misoedd i orffen atgyweirio Lein Arfordir y Cambrian yn Abermo a Phwllheli ar ôl y llifogydd
20 Ionawr 2014Mae disgwyl i’r gwaith atgyweirio barhau ar reilffordd Arfordir y Cambrian ar ôl y stormydd llanw a drawodd arfordir y canolbarth a’r gogledd ddechrau’r flwyddyn, ac mae’n debyg na fydd y rheilffordd yn ailagor yn llawn am bedwar mis arall. Ar hyn o bryd, mae’r rheilffordd ar gau rhwng Cyffordd Dyfi a Phwllheli yng Ngwynedd oherwydd difrod a achoswyd gan lifogydd yn Nhywyn, Abermo a Chricieth.
Cafodd hofrennydd ei ddefnyddio gan beirianwyr i gynnal arolwg o’r awyr, a ddangosodd fod y rheilffordd i gyfeiriad y gogledd, o Abermo i Bwllheli, wedi dioddef y “difrod mwyaf dinistriol”.
Meddai Mark Langman, Cyfarwyddwr Rheoli Llwybrau Network Rail Cymru, “Mae hwn wedi bod yn gyfnod hynod o heriol, ond mae’r gwaith ailadeiladu’n mynd rhagddo a’n blaenoriaeth yw ailagor y rheilffordd yn ddiogel cyn gynted ag sy’n bosibl.”
Bydd y rheilffordd o Abermo i Bwllheli yn cymryd mwy o amser i’w hatgyweirio, ac mae’r peirianwyr yn “gweithio ar raglen i ailagor y rheilffordd yn llawn erbyn canol mis Mai 2014”.
Gallai’r rheilffordd i gyfeiriad y de, o Abermo i Dywyn, ailagor erbyn dydd Llun 10 Chwefror 2014.
Mae Network Rail wedi dweud bod ymdrechion i asesu’r difrod a achoswyd i’r rheilffordd wedi’u hatal yn wreiddiol gan dywydd garw a llanw uchel parhaus.