Eisteddfod Genedlaethol, Pontypridd - 3 - 10 Awst 2024
Pleser o’r mwyaf yw croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Bontypridd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod a'r cyngor lleol i sicrhau y gallwch gynllunio eich taith a chael yr opsiwn i adael y car gartref.
Pleser gan Trafnidiaeth Cymru yw cyhoeddi y bydd Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd yn agor fis Mehefin a bwriedir i wasanaethau bws ddechrau gwasanaethu ohoni ddydd Sul 30 Mehefin 2024.
Cyngor teithio diwrnod gêm Cymru yn erbyn yr Eidal ar 16 Mawrth yng Nghaerdydd
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn yr Eidal Ddydd Sadwrn 16 Mawrth yn Stadiwm Principality. Gyda'r gic gyntaf am 2.15pm - bydd ffyrdd canol y ddinas ar gau o 10.15am tan 6.15pm i sicrhau bod pob un sydd â thocyn yn gallu mynd i mewn ac allan o'r stadiwm yn ddiogel.
Teithio am ddim ar fysiau i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ym mis Mawrth
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i gynnig teithio am ddim ar fysiau i staff y bwrdd iechyd, fel rhan o gynllun peilot newydd i annog gweithwyr i deithio’n fwy cynaliadwy ac i helpu i leihau’r pwysau ar y meysydd parcio.
Chwe chyngor ar gyfer eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod Pencampwriaeth y 6 Gwlad 2024
Mae Pencampwriaeth flynyddol y 6 Gwlad, sy’n cael ei chynnal am y 25ain tro eleni, ar fin dechrau! Bydd miloedd o gefnogwyr o bob cwr o’r DU a thu hwnt yn heidio i strydoedd Caerdydd wrth i Gymru herio Iwerddon a Lloegr yn Stadiwm Principality eleni.
Mae'n bleser gan Trafnidiaeth Cymru a Chyngor Gwynedd gyhoeddi y bydd gwasanaeth newydd sbon diweddaraf TrawsCymru yn dechrau gweithredu ym mis Chwefror 2024.
Gallwch wneud eich profiad gyda ni’n fwy personol drwy gofrestru â’ch cyfrif eich hun. Yma, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, gweld problemau teithio a llawer mwy drwy deilwra eich taith i ddiwallu eich anghenion.