
Gwefan Share Cymru bellach yn fyw
21 Ionawr 2014Mae’r cynllun newydd rhannu ceir sydd yng Nghymru, Share Cymru, bellach ar waith.
Mae Share Cymru yn gynllun y bwriedir iddo helpu i baru siwrneiau pobl er mwyn iddynt allu teithio gyda’i gilydd. Mae rhannu ceir yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg gyrwyr ceir a’u cyd-deithwyr – mae’n eu galluogi i rannu cost siwrnai yn ogystal â lleihau’r amser y byddant yn ei dreulio’n teithio ar eu pen eu hunain. Drwy fynd ar wefan newydd Share Cymru, gallwch nodi’r siwrneiau y byddwch yn eu gwneud unwaith yn unig neu’ch siwrneiau rheolaidd, a dod o hyd i bobl eraill sy’n gwneud yr un siwrneiau â chi.
Mae’r cynllun hefyd yn galluogi cerddwyr a beicwyr i gymryd rhan, gan roi’r dewis iddynt gael cwmni wrth gerdded neu feicio. Mae hynny’n rhoi cyfle i bawb sy’n teithio rannu eu siwrneiau.
Gellir gweld gwefan newydd Share Cymru ar ein tudalen wybodaeth ‘Teithio Mewn Car’, neu drwy ddilyn y ddolen gyswllt hon yn uniongyrchol i’r wefan newydd.