Newyddion

Orange wallet scheme

Y Cynllun Waled Oren Yn Helpu'r Sawl Sy'n Teithio Ar Fysiau Bws Casnewydd

03 Chwefror 2014

Datganiad I'r Wasg

Y Cynllun Waled Oren Yn Helpu'r Sawl Sy'n Teithio Ar Fysiau Bws Casnewydd

Mae Bws Casnewydd yn ymfalchïo yn y ffaith bod y cwmni wedi ymuno â’r Cynllun Waled Oren. Mae’r cynllun, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o Strategaeth Cymru Gyfan ar gyfer Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig. Bwriad y cynllun yw helpu pobl, yn enwedig y sawl sydd ar y Sbectrwm Awtistig, i ymdopi’n haws â thrafnidiaeth gyhoeddus.

Mae fformat syml y Waled Oren lachar, y mae’n hawdd i staff Bws Casnewydd ei hadnabod, yn cynnwys lle i ddefnyddwyr roi cardiau ysgrifenedig a/neu gardiau â lluniau, y gellir eu dangos i yrwyr ac aelodau eraill o staff ac sy’n adnoddau cyfathrebu syml ar gyfer y sawl y mae arnynt eu hangen.

Mae’r Waledi Oren ar gael yn rhad ac am ddim ers 3 Chwefror yng Nghanolfan Deithio Bws Casnewydd ym Marchnad Casnewydd ac yn y depo ar Corporation Road. Mae Bws Casnewydd yn darparu cardiau sydd wedi’u hargraffu’n barod gyda’r waled i unrhyw rai sy’n credu y byddent yn elwa o’u cael. Mae’r Orsaf Wybodaeth ar Queensway yn fan arall yng Nghasnewydd lle gellir cael y waled.

Meddai Scott Pearson, Rheolwr Gyfarwyddwr Newport Transport: “Mae Bws Casnewydd bob amser yn ceisio helpu cynifer o bobl ag sy’n bosibl i ddefnyddio ein gwasanaethau, ac rydym yn ymwybodol nad yw defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a rhyngweithio â phobl ddieithr bob amser yn hawdd i bawb. Rwy’n credu bod hwn yn adnodd gwych i’n cwsmeriaid sy’n defnyddio’r waledi, ac i’n gyrwyr hefyd. Rydym yn falch iawn o gefnogi ASD Info Wales gyda’r prosiect hwn.”

Meddai Richard Wivell sy’n oruchwylydd gyda Bws Casnewydd: “Mae hwn yn help mawr i’r gyrwyr. Bydd gweld y Waled Oren yn ein hatgoffa’n syth bod angen i ni dalu sylw a bod yn amyneddgar. Mae pob gyrrwr wedi cael canllaw i staff, ac mae’n hawdd iawn i bawb dan sylw ei ddefnyddio.”

Mae Diverse Cymru – sefydliad a arweinir gan gydraddoldeb, sy’n darparu gwybodaeth a chymorth i ystod eang o bobl gan gynnwys pobl anabl – wedi bod yn ymwneud â chreu’r Cynllun Waled Oren. Meddai Paul Warren, Cyfarwyddwr Polisi a Chynllunio’r sefydliad, “Mae Diverse Cymru yn falch o’r cyfle i ymwneud â datblygu’r fenter hon. Rydym yn gweithio gyda nifer fawr o bobl anabl y mae llawer ohonynt yn ei chael yn anodd iawn cyfathrebu â phobl eraill, yn enwedig ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ein gobaith yw y bydd cwmnïau trafnidiaeth eraill ar draws Cymru yn dilyn esiampl Bws Casnewydd ac yn dangos y ffordd ymlaen o ran sicrhau amgylchedd hollol hygyrch i bobl anabl.”

Mae defnyddwyr y Waled Oren yn gweld bod manteision sylweddol yn perthyn i’r adnodd syml hwn. “Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl help yr wyf wedi’i gael, ac mae’r Waled Oren yn enwedig wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Gyda help y bobl sydd o’m cwmpas, rwy’n defnyddio cardiau wedi’u personoli i fy helpu i ddod o hyd i’r orsaf.”

Nid yw’r waledi’n caniatáu i bobl deithio’n rhad ac am ddim nac am bris rhatach. Eu bwriad yw sicrhau ei bod yn haws i bobl ag anawsterau cyfathrebu, pobl ag anableddau, pobl fyddar a phobl nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gellir defnyddio’r waled ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus, a chaiff ei chefnogi gan amryw ddarparwyr trafnidiaeth ledled Cymru.

 

DIWEDD


 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon