Newyddion

Traveline Cymru Logo

Adroddiad ar welliannau i brif reilffordd y Cambrian a rheilffordd arfordir y Cambrian yn cael ei gyflwyno i’r Gweinidog Trafnidiaeth

18 Chwefror 2014

Mae grŵp a ddaeth ynghyd i ystyried cynigion i wella prif reilffordd y Cambrian a rheilffordd arfordir y Cambrian yn y canolbarth wedi cyflwyno ei adroddiad i’r Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart.

Roedd hynny’n dilyn adroddiad gan Bwyllgor Cydgysylltu’r Rheilffyrdd rhwng Amwythig ac Aberystwyth, a nododd y gallai gwasanaethau bob awr rhwng Amwythig ac Aberystwyth fod yn hwb i gyflogaeth a thwristiaeth.

Gallai’r gwasanaethau hynny bob awr gael eu sefydlu bellach o ganlyniad i ganfyddiadau’r adroddiad, a oedd yn sôn am gostau a dichonoldeb gweithredu newidiadau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y Gweinidog Trafnidiaeth yn awr yn ystyried yr argymhellion cyn darparu rhagor o wybodaeth i Aelodau’r Cynulliad.

Roedd adroddiad y grŵp yn cynnwys 6,570 o ymatebion gan breswylwyr, myfyrwyr a busnesau yn y canolbarth, ac roedd hefyd yn galw am ragor o drenau ar hyd rheilffordd yr arfordir yn ystod misoedd yr haf.

Meddai Robert Robinson, cyd-ysgrifennydd y grŵp, wrth ystyried gwelliannau i’r rhwydwaith, “Rydym wedi cyflwyno’r achos busnes i’r Gweinidog, sy’n cynnwys amserlen, manylion am gostau, a chynllun gweithredu ar gyfer y gwasanaeth amlach.” Ychwanegodd hefyd y byddai’r grŵp yn trafod yr adroddiad â’r Gweinidog ym mis Mawrth.

Bythefnos yn ôl, cafwyd caniatâd gan gynllunwyr Powys i gau pum croesfan ar y rhwydwaith rhwng Carno a Thalerddig, a fydd yn rhoi hwb i obeithion ar gyfer sicrhau gwasanaeth bob awr ar hyd rheilffordd y Cambrian. Bydd prosiect Network Rail hefyd yn cynnwys gosod dwy bont ffordd dros y rheilffordd rhwng Aberystwyth ac Amwythig, yn lle croesfannau.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon