Bws Caerdydd yn gwerthu tocynnau o’r Ganolfan Groeso
25 Chwefror 2014Mae Bws Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd yn gwerthu tocynnau o’r Ganolfan Groeso sydd yng nghanol y ddinas.
Erbyn hyn, gall teithwyr brynu tocynnau ‘day-to-go’ a thocynnau ‘day-to-go plus’ i oedolion a phobl ifanc o’r Ganolfan Groeso yn yr Hen Lyfrgell yn yr Ais.
Meddai Gareth Stevens, Rheolwr Datblygu Busnes Bws Caerdydd: “Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wneud ein gwasanaeth yn fwy hygyrch i deithwyr, a dyna pam yr ydym yn cynyddu’r ffyrdd y gall cwsmeriaid brynu tocynnau. Dylai gallu prynu tocynnau o’r Hen Lyfrgell wneud bywyd yn haws i gwsmeriaid sydd am ddal y bws o’r tu allan i Ganolfan Siopa Dewi Sant.
“Roeddem hefyd yn awyddus i’w gwneud yn hawdd i ymwelwyr deithio o amgylch Caerdydd, ac mae gallu prynu tocynnau o’r Ganolfan Groeso yn ffordd berffaith o wneud hynny.”
Mae tocynnau ar gael i’w prynu hefyd drwy gyfleuster m-docynnau newydd Bws Caerdydd, sy’n caniatáu i bobl chwilio am docynnau bws, eu dewis, eu prynu a’u defnyddio yn uniongyrchol o’u ffonau symudol. Gellir cael mynediad i’r gwasanaeth m-docynnau drwy ap ‘iff’ Bws Caerdydd, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar ddyfeisiau iPhone ac Android ar unrhyw rwydwaith ffonau symudol.