
Panel Cynghorol Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus
13 Mawrth 2014Yn dilyn adolygiad o'r Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus presennol yn 2013, penderfynodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth sefydlu trefn newydd i roi cyngor iddi ar faterion sy'n effeithio ar ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus.
Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, mae'r Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus yn cael ei ddirwyn i ben ac mae Panel Cynghorol Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd yn cael ei sefydlu.
Bydd y Panel yn cael ei gadeirio gan Cadeirydd a fydd hefyd yn cyflawni rôl ehangach fel ymgynghorydd arbenigol ar faterion defnyddwyr cludiant cyhoeddus.
Dyma ddolen i'r hysbyseb ar gyfer rôl Cadeirydd y Panel Cynghorol Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus a Chynghorydd Arbenigol ar faterion defnyddwyr cludiant cyhoeddus, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan heddiw.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw’r 28 Mawrth 2014.
http://wales.gov.uk/about/recruitment/public-appointments/vacancies/?skip=1&lang=cy
http://wales.gov.uk/about/recruitment/public-appointments/vacancies/?lang=en