Newyddion

Traveline Cymru Logo

Stagecoach yn cyflwyno cerdyn disgownt newydd i bobl ifanc dan 19 oed

27 Mawrth 2014

Mae Stagecoach yn ne Cymru ar fin lansio cynllun disgownt newydd sbon i deithwyr dan 19 oed. Er mwyn ceisio sicrhau y bydd y cynllun yn llwyddiant, mae Stagecoach wedi llunio arolwg o farn am drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae’n gwahodd pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed i gymryd rhan ynddo.

Nod yr arolwg yw deall sut y mae pobl ifanc yn defnyddio bysiau a chael gwybod beth yw eu barn am deithio ar fysiau, er mwyn creu cynllun disgownt llwyddiannus a fydd o fantais i bobl ifanc sy’n defnyddio bysiau ac a fydd yn diwallu eu hanghenion.

Os ydych rhwng 16 a 18 oed, gallwch ddweud eich dweud a chymryd rhan yn yr arolwg o farn am drafnidiaeth gyhoeddus yma!

Os oes gan eich busnes ddiddordeb mewn helpu i gefnogi’r cynllun, gallwch gysylltu â Stagecoach drwy ebostio rosa.williams@stagecoachbus.com.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon