
Arolwg Bysiau Lleol Gwynedd 2014
06 Ebrill 2014Rhwng y 1af Ebrill a’r 31ain o Fai 2014 fe fydd Cyngor Gwynedd yn ymgymryd ag arolwg i fesur bodlonrwydd teithwyr gyda gwasanaethau bws lleol yn y Sir.
Y bwriad ydi casglu gwybodaeth ynglŷn â phatrymau a barn defnyddwyr y gwasanaethau presennol yn ogystal ag adnabod blaenoriaethau a dyheadau bobl ar gyfer rhwydwaith y dyfodol.
Darperir y gwasanaethau bws lleol mewn dwy ffordd nai llai ar sail fasnachol gan gwmnïau lle maent wedi adnabod cyfleoedd hyfyw i wneud hynny neu o dan gontract i’r Awdurdod.
Sut allai ddweud fy nweud?
Gallwch gymryd rhan yn arolwg bysiau lleol Gwynedd mewn sawl ffordd;
- Ar-lein – cliciwch yma
- Dros y ffôn - cysylltwch gyda Galw Gwynedd ar 01766 771000
- Wyneb yn wyneb – mewn cymhorthfa defnyddwyr (manylio ynghlwm).
Bydd rhaid i chi gwblhau’r arolwg cyn dydd Sadwrn 31 Mai 2014.
Am ragor o wybodaeth am Arolwg Bysiau Lleol Gwynedd 2014 cysylltwch gyda’r Uned Cludiant Integredig Cyngor Gwynedd drwy ffonio 01766 771 000 neu cysylltwch drwy anfon e-bost at cludiant@gwynedd.gov.uk
Yn ogystal, bydd yr Uned Cludiant Integredig ar y cyd â Bus Users UK Wales yn cynnal cymhorthfa defnyddwyr rhwng y 7fed a’r 9fed o Ebrill yn y lleoliadau canlynol:
Dydd Llun, 7fed Ebrill:
- 10yb – 12yh: Porthmadog
- 1yh – 3yh: Pwllheli
Dydd Mawrth, 8fed Ebrill:
- 10yb – 12yh: Bangor
- 1yh – 3yh: Caernarfon
Dydd Mercher, 9fed Ebrill:
- 10yb – 12yh: Dolgellau
- 1yh – 3yh: Blaenau Ffestiniog
Estynnir croeso cynnes i bawb a bydd cyfle i chi drafod materion am eich gwasanaeth bws lleol gyda cynrychiolwyr gweithredwyr bws yn ogystal â swyddogion Awdurdod Lleol.