Newyddion

First Cymru Bus

Newidiadau i amserlenni er mwyn gwella gwasanaethau bws First Cymru

29 Hydref 2014

O ddydd Sul 2 Tachwedd ymlaen, bydd First Cymru yn cyflwyno rhai newidiadau er mwyn helpu i wella gwasanaethau a helpu bysiau i gyrraedd yn brydlon. Bydd y newidiadau i wasanaethau’n digwydd yn Abertawe, Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot a Llanelli, a gallwch weld manylion llawn y gwasanaethau y bydd hynny’n effeithio arnynt ar ein tudalen wybodaeth yma.

Mae nifer o welliannau eraill yn cael eu gwneud hefyd, gan gynnwys ailgyflwyno gwasanaethau bws ar ddydd Sul a phob dydd Llun sy’n Ŵyl y Banc, rhwng Castell-nedd ac Abertawe a rhwng Castell-nedd a Phort Talbot.

Yn ogystal, bydd pob taith ar lwybr X5 rhwng Castell-nedd ac Abertawe yn cael eu hailgyfeirio er mwyn cynnwys Elba Crescent, sy’n golygu y bydd yr amserlen yn fwy cyson drwy gydol yr wythnos. Y gobaith yw y bydd hynny’n ei gwneud yn llawer haws i deithwyr ddeall o ble y mae’r bysiau’n gadael a phryd.

Mae rhai newidiadau wedi’u gwneud hefyd i orsaf fysiau Castell-nedd er mwyn gwneud gwasanaethau’n fwy hygyrch i deithwyr. Mae gwasanaethau pob gweithredwr wedi’u grwpio gyda’i gilydd mewn arosfannau cyfagos er mwyn ei gwneud yn haws i deithwyr wybod ble mae’r man gadael cywir ar gyfer pob llwybr a chyrchfan.

Mae Ali Thomas, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi croesawu’r newid ac meddai, “Gan fod mwy o weithredwyr nag erioed yn defnyddio’r orsaf fysiau, mae’n bwysig bod y sawl sy’n defnyddio bysiau’n hyderus eu bod yn gwybod pwy sy’n darparu’r gwasanaeth y maent am ei ddefnyddio, ac mae’n bwysig eu bod yn gallu mynd yn syth i’r arhosfan y mae ei angen arnynt.”

Mae mwy o wybodaeth am y newidiadau i’w gweld yn y South Wales Evening Post.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon