Newyddion

Pye Corner rail station

Agor Gorsaf Reilffordd Pye Corner ddydd Sul 14 Rhagfyr 2014

10 Tachwedd 2014

Mae’r Farwnes Susan Kramer, Gweinidog y DU dros Drafnidiaeth, wedi cyhoeddi bod disgwyl i orsaf reilffordd newydd agor yn Pye Corner ddydd Sul 14 Rhagfyr.

Mae’r orsaf reilffordd newydd sydd wedi costio £3.5 miliwn wedi’i hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a chronfa gorsafoedd newydd yr Adran Drafnidiaeth, a oedd wedi addo adeiladu pum gorsaf newydd ledled y DU.

Ar ôl iddi agor bydd yr orsaf, sydd ag un platfform, yn derbyn trenau ar y gwasanaeth bob awr sydd eisoes yn rhedeg rhwng Glynebwy a Chaerdydd, ac mae’n bosibl y gallai gwasanaethau sy’n mynd i leoedd eraill gael eu hychwanegu yn y dyfodol. Bydd yr orsaf yn cynnwys camerâu teledu cylch cyfyng, maes parcio â lle i 60 o geir a mannau gwefru ceir trydan. Y gobaith yw y bydd cyflwyno’r orsaf newydd yn lleihau tagfeydd ar y ffyrdd, yn rhoi hwb i’r economi leol ac yn gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol i bobl yr ardal.

Cyfarfu’r Farwnes Kramer â’r gweithwyr a’r contractwyr adeiladu, cwmni Alun Griffiths, ar y safle yn y Tŷ-du ac meddai, “Mae Pye Corner yn enghraifft wych o’r modd y mae ein buddsoddiad eithriadol yn adeiladu rhwydwaith sy’n diwallu anghenion pobl leol ac sy’n cynnig manteision go iawn i’r economi.”

Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Ebrill 2014, ac yn ôl yr Adran Drafnidiaeth, dyma un o’r prosiectau adeiladu cyflymaf a welodd erioed. Mae disgwyl i’r orsaf gael ei chwblhau erbyn dydd Sul 14 Rhagfyr.

Gallwch ddarllen mwy am yr orsaf newydd yn y South Wales Argus.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon