Gwasanaeth Rhif 91 Bws Caerdydd ar ddydd Sul i Bier Penarth
01 Mehefin 2015Mae Bws Caerdydd wedi cyflwyno ei wasanaeth arbennig ar ddydd Sul i Bier Penarth erbyn hyn.
Rhwng 24 Mai a 27 Medi, gallwch gael gafael ar wasanaeth rhif 91 wrth ymyl arhosfan bysiau JQ ar Wood Street, Caerdydd a theithio i lan y môr ym Mhenarth.
Gellir gweld amserlen gwasanaeth rhif 91 drwy glicio yma.
Ers iddo gael ei ailddatblygu, mae Pier Penarth yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i’r teulu cyfan, o sinema bach a chaffi yn y Pafiliwn i olygfeydd o’r arfordir ar hyd y promenâd.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth rhif 91 i Bier Penarth, ewch i wefan Bws Caerdydd.