
First Cymru yn lansio ei Siarter Cwsmeriaid newydd
13 Hydref 2015Mae’r gweithredwr bysiau First Cymru yn lansio ei Siarter Cwsmeriaid newydd. Bydd tîm First Cymru gan gynnwys Justin Davies, y Rheolwr Gyfarwyddwr, yn lansio’r Siarter yng Ngorsaf Fysiau Abertawe yng nghanol dinas Abertawe ddydd Iau 15 Hydref.
Mae’r ddogfen yn egluro’n union beth y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl pan fyddant yn teithio ar un o fysiau First Cymru, a chafodd ei llunio ar y cyd â Bus Users Cymru, sef corff annibynnol sy’n gweithio gyda gweithredwyr bysiau, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i wella safonau ar fysiau ledled Cymru.
Bydd y ddogfen, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, i’w gweld ar-lein ar www.firstgroup.com/cymru ac yng ngorsafoedd bysiau First Cymru ac mewn rhai llyfrgelloedd lleol.
Y syniad y tu ôl i’r Siarter Cwsmeriaid yw bod set glir o ddisgwyliadau’n cael ei rhoi i’r cwsmer a’r cwmni, sy’n golygu bod y cwsmeriaid yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl ac, ar yr adegau prin pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le, eu bod yn gwybod beth y bydd y cwmni’n ei wneud i gywiro camgymeriadau.
Mae’r Siarter yn cynnwys gwybodaeth am bopeth y gallai fod angen i gwsmer ei wybod neu y gallai cwsmer ddod ar ei draws wrth deithio ar un o fysiau First, o wybodaeth ynghylch sut i brynu tocyn i wybodaeth ynghylch a oes modd mynd â bwrdd syrffio gyda chi ar fws. Mae hefyd yn cynnwys manylion ynghylch sut y gall cwsmeriaid gysylltu â First os ydynt am wneud sylw neu gwyno.
Meddai Justin Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru: “Rydym yn falch o lansio’r Siarter Cwsmeriaid sydd wedi’i diweddaru. Mae’r Siarter yn nodi cyfres o addewidion yr ydym o ddifrif yn eu cylch. Mae cwsmeriaid wrth wraidd ein busnes, a hebddynt ni fyddem yn bodoli. Dyna pam yr ydym wedi ymrwymo’n llwyr o hyd i fodloni eu dymuniadau.”
Ychwanegodd: “Mae’r Siarter Cwsmeriaid hefyd yn helpu’r bobl hynny nad ydynt yn arfer teithio ar fysiau, oherwydd mae’n cynnwys yr holl wybodaeth y mae ei hangen ar rywun i ddal un o fysiau First Cymru. Mae’r Siarter hefyd yn cynnwys manylion ynghylch beth y dylai pobl ei wneud os nad yw’r gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu’n ddigon da. Mae adborth, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, yn bwysig iawn oherwydd mae’n ein galluogi i ddysgu gwersi ar gyfer y tro nesaf.”