Mae beicio’n ffynnu ym mhrifddinas Cymru, wrth i nifer y teithiau ar feic gynyddu dros 25% mewn un flwyddyn yn unig yn ôl adroddiad newydd arloesol gan yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy, Sustrans, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd.
Mae’r adroddiad, sy’n rhan o un o’r arolygon mwyaf a gynhaliwyd erioed ynghylch agweddau at feicio yn y DU, yn dangos y canlynol:
Daw’r ffigurau o’r arolwg arloesol Bywyd Beicio, sy’n olrhain arferion teithio a safbwyntiau miloedd o bobl ar draws Caerdydd a chwech o ddinasoedd eraill yn y DU, sef Belfast, Birmingham, Bryste, Caeredin, Manceinion Fwyaf a Newcastle.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar y Copenhagen Bicycle Account, a oedd wedi helpu i sicrhau bod prifddinas Denmarc yn un o ddinasoedd mwyaf hwylus y byd ar gyfer beicwyr. Mae Copenhagen yn defnyddio’r arolygon hyn a gynhelir bob dwy flynedd yn rhan o’r gwaith cynllunio i adnabod ardaloedd lle mae’r galw mwyaf am lonydd beicio. Y gobaith yw y bydd modd cyflawni’r un peth â’r Arolwg Bywyd Beicio.
Mae Copenhagen wedi cynhyrchu’r adroddiadau ers 1996, ac maent wedi helpu’r ddinas i gynllunio ar gyfer mwy o feicio. O ganlyniad, mae 36% o’r teithiau i’r gwaith, yr ysgol, y coleg a’r brifysgol bellach yn digwydd ar feic. Yn ddiweddar, enillodd prifddinas Denmarc y bleidlais am y ddinas fwyaf hapus yn y byd, ac mae traean o’i phreswylwyr yn teimlo’n ddigon diogel wrth wneud teithiau pob dydd ar gefn beic. Mae Sustrans o’r farn bod gan ddinasoedd yn y DU y potensial i wneud yr un peth.
Bu Sustrans yn gweithio gyda chynghorau lleol i gasglu gwybodaeth gan y cyhoedd am feicio yn y dinasoedd ac i ddarganfod beth fyddai’n annog mwy o bobl i roi cynnig ar deithio ar ddwy olwyn. Mae’r canlyniadau bellach wedi’u rhyddhau i fod yn sail i fuddsoddiad pellach mewn beicio yn y dinasoedd.
Diolch i gefnogaeth ariannol gan Sefydliad Freshfield, mae adroddiad ar arferion a safbwyntiau ym mhob un o’r saith dinas bellach wedi’i ryddhau, a bydd ail adroddiad yn ei ddilyn yn 2017.
Meddai Jane Lorimer, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru: “Ni allai’r neges gan y cyhoedd fod yn gliriach: ceir awydd amlwg i feicio mwy, ond mae diffyg lleoedd diogel i feicio’n ei gwneud hi’n anodd.
“Mae pobl ar draws y DU am i lywodraethau wario mwy, ac maent yn dweud y byddent yn beicio mwy pe bai hynny’n fwy diogel. Bellach, rhaid cau’r bwlch o ran cyllid rhwng yr hyn a gaiff ei wario ar hyn o bryd a’r galw gan y cyhoedd.
“Mae cynyddu lefelau cerdded a beicio yn cynnig manteision enfawr i’n heconomi, drwy gynyddu gweithgarwch corfforol, lleihau tagfeydd a gwella ansawdd yr aer. Mae angen dybryd i sicrhau bod mwy o’r buddsoddiad presennol mewn trafnidiaeth yn mynd tuag at feicio a cherdded. Mae etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf yn gyfle perffaith i wneud hynny.”
Meddai’r Aelod Cabinet Cynorthwyol dros Deithio Llesol a Lles, y Cynghorydd Chris Weaver: “Mae’n galonogol gweld bod pobl yng Nghaerdydd yn beicio mwy, a bod mwyafrif y bobl eisoes o’r farn bod Caerdydd yn ddinas dda i feicio ynddi.”
“Mae beicio’n rhan ganolog o ddinasoedd mwyaf blaenllaw Ewrop, ac er i Gaerdydd ddod i’r brig o blith dinasoedd y DU o ran ansawdd bywyd yn ôl yr Archwiliad Dinesig Ewropeaidd diweddaraf, mae’r adroddiad hwnnw’n dangos bod llawer mwy o waith i’w wneud os ydym am gyrraedd y lefelau beicio sydd i’w gweld mewn dinasoedd megis Copenhagen, a chyrraedd ein nod o sicrhau bod 50% o’r teithiau yng Nghaerdydd yn cael eu gwneud gan ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy erbyn 2026. Mae gan Bywyd Beicio gyfraniad gwirioneddol i’w wneud o ran y daith hon.”
“Dros y deng mlynedd diwethaf mae poblogaeth Caerdydd wedi tyfu’n gynt nag unrhyw ddinas arall yn y DU ar wahân i Lundain, ac mae’n debyg y bydd y twf hwn yn parhau. Bydd cynnwys yr adroddiad a’r ymgynghoriad hwn rydym yn ei gynnal ar hyn o bryd ar ein mapiau Llwybrau Teithio Llesol yn rhoi gwybodaeth ac adborth gwerthfawr i ni a fydd yn sicrhau bod gan y ddinas rwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n addas ar gyfer dyfodol prifddinas Ewropeaidd flaengar.”
Cynhaliodd ICM Unlimited yr arolwg gan gyfweld â sampl gynrychioliadol o 11,016 o oedolion 16+ oed, a gan sicrhau ei fod yn holi o leiaf 1,100 o bobl o bob dinas (ar wahân i Fanceinion Fwyaf, lle holwyd 4,000 o bobl). Holwyd 1168 o bobl yng Nghaerdydd yn rhan o’r arolwg.