
Rhybudd o rew ac eira i Gymru yr wythnos hon
13 Ionawr 2016Mae’r Swyddfa Dywydd wedi diweddaru ei rhagolygon o ran eira i ddangos y bydd eira’n disgyn dros ardaloedd eang o dir uchel ar draws Cymru fore dydd Gwener wrth i’r tymheredd ostwng yn agos i’r rhewbwynt ym mhob cwr o’r wlad.
Yn ogystal, disgwylir rhew wrth i’r wlad wynebu un o gyfnodau oeraf y flwyddyn.
Mae’r rhybudd melyn sy’n annog pobl i fod yn wyliadwrus yn berthnasol i’r wlad gyfan a bydd yn para o nos Iau tan yn hwyr fore Gwener.
Mae rhagolygon y Swyddfa Dywydd yn sôn am lawer o eira ar gyfer yr ardaloedd canlynol:
- Maesteg
- Treorci
- Merthyr Tudful
- Abertyleri
- Ystradgynlais
- Aberhonddu
- Llanwrtyd
- New Inn, Sir Gâr
- Blaenau Ffestiniog
Mae rhagolygon y Swyddfa Dywydd yn sôn am eira ar gyfer yr ardaloedd canlynol:
- Abertawe
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Y Barri
- Pontypridd
- Aberpennar
- Castell-nedd a Phort Talbot
- Glynebwy
- Crucywel
- Llanymddyfri
- Llanfair-ym-Muallt
- Llandrindod
- Rhaeadr Gwy
- Y Drenewydd
- Llanwddyn
- Y Bala
- Llanberis
Sut y bydd y tywydd yn fy ardal i ddydd Gwener 15 Ionawr?
Y de-ddwyrain
Eira ar draws y rhanbarth yn y bore, haul yn y prynhawn a rhagor o eira ysgafn mewn mannau gyda’r nos.
Y de-orllewin
Yn gymylog yn Sir Benfro; glaw, eirlaw a rhywfaint o eira mewn mannau yn Sir Gâr; eira ac eirlaw yn Abertawe.
Y canolbarth
Eira ar draws yr ardal yn y bore, a fydd yn troi’n law ac yn eirlaw wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen.
Y gogledd-ddwyrain
Eira yn y bore, gydag eirlaw a glaw trwm yn y prynhawn.
Y gogledd-orllewin
Eira yn y bore, yn drwm mewn mannau. Bydd yr eira’n para mewn mannau ond bydd glaw trwm yn nes ymlaen ddydd Gwener.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Swyddfa Dywydd neu dilynwch @TravelineCymru ar Twitter lle byddwn yn aildrydar y newyddion diweddaraf gan weithredwyr wrth i’r wybodaeth ein cyrraedd.
Gallwch hefyd fwrw golwg ar ein tudalen Eira a Thywydd Oer i gael rhagor o wybodaeth.
Ffynhonnell y wybodaeth: Wales Online