First Cymru am godi’ch calon ar Ddydd Llun Digalon
18 Ionawr 2016Mae’r gweithredwr bysiau First Cymru yn helpu i godi calonnau pobl ar Ddydd Llun Digalon â chynnig arbennig a ddarperir ar y cyd â Chanolfan Hamdden Abertawe.
Gall cwsmeriaid First Cymru fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio cyfleusterau helaeth y Ganolfan, sy’n cynnwys un o ganolfannau ffitrwydd gorau Cymru, yn rhad ac am ddim am dri diwrnod.
Mae’r gampfa yn ymestyn dros ddau lawr, ac mae’n cynnwys dros 180 o orsafoedd Technogym ac yn cynnig golygfeydd godidog o’r ddinas. Yn ogystal mae’r aelodaeth, sy’n cynnig gwerth da am arian, yn cynnwys dros 130 o ddosbarthiadau ymarfer corff bob wythnos a bydd tîm ffitrwydd y Ganolfan wrth law bob amser i’ch helpu heb fod hynny’n costio mwy i chi.
I fanteisio ar y cynnig, bydd angen i gwsmeriaid First Cymru fynd i http://www.thelcswansea.com/ neu ffonio 01792 466500 gan nodi’r cod hyrwyddo, sef ‘3 Diwrnod’.
Meddai Justin Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru: “Mae gwneud ymarfer corff yn ffordd wych o ymdopi â diflastod y gaeaf, ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu cynnig y cyfle arbennig hwn i’n cwsmeriaid er mwyn eu helpu i fod yn heini cyn yr haf.”
“Mae mis Ionawr bob amser yn fis digalon, oherwydd mae’n oer, yn dywyll ac yn ddiflas. Mae dechrau gwneud ymarfer corff yn ffordd wych o godi’ch calon.”
Yn ogystal, mae gan First Cymru gynnig ym mis Ionawr sy’n galluogi cwsmeriaid i brynu tocyn ar ddydd Sadwrn a theithio’n rhad ac am ddim ar y dydd Sul.
Ychwanegodd Justin: “Mae’r cynnig hwn yn gyfle gwych i fanteisio ar sêls mis Ionawr neu fynd am y dydd i rywle gwahanol.”