Newyddion

Cardiff Bus Logo

Disgyblion meithrin wrth eu bodd ar y bws yn ystod ymweliad ysgol

03 Mawrth 2016

Daeth un o fysiau Bws Caerdydd i ymweld â disgyblion meithrin Ysgol Gynradd Marlborough yn y Rhath yn rhan o’r gwaith mae’r disgyblion yn ei wneud ar drafnidiaeth.

Mae’r disgyblion tair a phedair oed wrthi’n dysgu am wahanol fathau o drafnidiaeth gyhoeddus a sut y maent yn gweithio, yn rhan o’u thema ‘buckle up’.

Mae ardal chwarae rôl ar ffurf gorsaf fysiau wedi’i chreu yn yr ystafell ddosbarth er mwyn cyfoethogi gwaith dysgu’r plant. Mae’r plant wrthi’n dylunio eu tocynnau bysiau eu hunain er mwyn datblygu eu sgiliau ysgrifennu a rhifedd.

Meddai Mrs Sue Ernest, cynorthwy-ydd addysgu yn nosbarth meithrin Ysgol Gynradd Marlborough: “Doedd rhai o’r plant yn y dosbarth meithrin erioed wedi teithio ar fws o’r blaen, felly cynigiodd Bws Caerdydd ddod â bws i’r ysgol er mwyn rhoi profiad uniongyrchol i’r plant o fod ar fws.”

Yn ystod yr ymweliad, a barodd ddwy sesiwn, cafodd y 64 o ddisgyblion meithrin gyfle i fynd ar y bws ac edrych o gwmpas, a gofyn unrhyw gwestiynau am sut mae’r bws yn gweithio.

Meddai Carys Roberts, cydlynydd marchnata Bws Caerdydd: “Roedden ni wedi mwynhau creu’r cysylltiad ag Ysgol Gynradd Marlborough yn fawr iawn. Roedd yn braf iawn gweld y plant yn cael cymaint o hwyl yn mynd o gwmpas y bws ac yn gofyn cwestiynau am y cerbyd ac am Fws Caerdydd. Roeddent wedi mwynhau dysgu beth mae’r holl fotymau ar flaen y bws yn ei wneud, a chawsant gyfle i eistedd yn sedd y gyrrwr.

“Mae’n braf iawn bod ysgolion lleol yn dysgu plant ifanc am drafnidiaeth gyhoeddus. Mae dal y bws yn gwella iechyd teithwyr, yn lleihau tagfeydd mewn dinasoedd prysur fel Caerdydd ac yn lleihau’r allyriadau CO2 gan drafnidiaeth ar y ffyrdd. Mae’n bwysig iawn bod cenedlaethau iau yn cael dysgu am fanteision teithio ar y bws.”

Ar ddiwedd yr ymweliad bu’r disgyblion a’r athrawon yn canu’r gân, ‘mae’r olwynion ar y bws’ wrth eistedd yn y bws.

Ychwanegodd Sue: “Cafodd pawb ddiwrnod arbennig ac roedd yr ymweliad yn ffordd hyfryd o gyfuno ein thema ar hyn o bryd, sef trafnidiaeth, â phrofiadau newydd a chyffrous i’n dosbarthiadau meithrin.

“Hoffem ddiolch i Bws Caerdydd am ddod atom i ddangos y bws i’r plant a dangos sut mae’n gweithio. Maent wedi dysgu llawer.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon