First Cymru yn enwi bws Clipiwr Cymru ar ôl gyrrwr annwyl
08 Mawrth 2016Mae’r gweithredwr bysiau First Cymru wedi enwi bws Clipiwr Cymru ar ôl y cyn-yrrwr Adrian Spencer, a fu farw’n sydyn ar 2 Chwefror 2016 yn 47 oed.
Roedd Adrian yn yrrwr bysiau i First Cymru yn Rhydaman, ac mae’r cwmni wedi ei goffáu drwy enwi bws ar ei ôl a chynnal llawer o ddigwyddiadau codi arian yn ei enw. Mae’r bws yn rhedeg yn rheolaidd ar wasanaeth X13 sy’n teithio heibio i dŷ Adrian, ac mae mab Adrian yn ei ddefnyddio’n rheolaidd.
Meddai Justin Davies, Rheolwr-Gyfarwyddwr First Cymru: “Mae’n dyst i gymeriad Adrian bod cynifer o’r staff, nid yn unig yn Nhŷ-croes ond ar draws y cwmni cyfan, yn dymuno gwneud rhywbeth i’w goffáu.”
Aeth yn ei flaen i ddweud: “Roedd Adrian yn ddyn hyfryd ac yn gymeriad a hanner. Byddwn yn gweld ei eisiau yn fawr, ond ni fyddwn yn ei anghofio. Rwy’n credu ei fod yn beth arbennig iawn y bydd gan ei deulu rywbeth i’w helpu i gofio amdano.”
Ar yr un pryd, trefnodd y gweithwyr yng ngorsaf First Cymru yn Nhŷ-croes sesiwn wacsio elusennol i godi arian i Sefydliad Prydeinig y Galon. Hyd yn hyn mae’r tîm wedi codi dros £400 i’r elusen ac mae disgwyl i’r swm hwn gynyddu”
Aeth Justin yn ei flaen: “Mae’n dyst i gymeriad Adrian ei fod wedi ennyn cystal ymateb gan ei gydweithwyr sydd wedi gwneud gwaith arbennig yn codi arian i achos mor bwysig er cof am eu cydweithiwr a’u cyfaill.”
Bydd y bws hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Gwasanaeth X13 (Abertawe – Rhydaman) a Gwasanaeth X11 (Abertawe – Llanelli).
DIWEDD