Newyddion

mytravelpass 5,000 member

Cynllun fyngherdynteithio yn dathlu ei 5,000fed aelod

14 Mawrth 2016

Mae mwy na 5,000 o bobl ifanc wedi cael fyngherdynteithio ac yn cael budd ohono. Mae hwn yn gynllun sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig gostyngiad ar deithiau bws i bobl ifanc 16-18 oed yng Nghymru, ers iddo gael ei lansio chwe mis yn ôl.

Cyrhaeddwyd y garreg filltir hon ar ddechau'r wythnos ac i nodi'r achlysur, cyflwynodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn ystod ei hymweliad â'r Gogledd ddoe [10 Mawrth], y 5,000fed cerdyn yn bersonol i Dulcie Jones o Benrhyndeudraeth.

Mae Dulcie yn fyfyrwraig 17 oed yng Ngholeg Llandrillo, Dolgellau sy'n astudio Lefelau A mewn Seicoleg, Saesneg a'r Gyfraith. Mae'n dal y bws bob dydd i fynd i'r coleg a dywedodd y bydd y cerdyn "yn help mawr".

Cafodd fyngherdynteithio sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, ei ddatblygu mewn partneriaeth â'r diwydiant bysiau ac awdurdodau lleol, ac mae'n cael ei weithredu gan y cwmni sy'n cynnal Traveline Cymru. Ei nod yw helpu pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed i deithio'n haws ac yn rhatach.

Gallwch gofrestru ar y cynllun am ddim ac mae deiliaid cymwys yn cael traean i ffwrdd o bris tocyn oedolyn ar bob bws lleol a TrawsCymru ar hyd a lled y wlad.

Ar ôl cyflwyno'r cerdyn i Dulcie, dywedodd Mrs Hart: "Mae'n hanfodol bod ein pobl ifanc yn gallu cyrraedd swyddi a chyfleoedd hyfforddi'n haws yng Nghymru ac mae'n bleser gweld bod pobl ifanc eisoes yn elwa o'r cynllun hwn.

“Rydyn ni'n cydnabod bod costau teithio weithiau'n rhwystr, ac mae fyngherdynteithio yn ceisio newid hynny drwy ei gwneud yn haws ac yn rhatach i bobl ifanc 16-18 oed deithio ar y bws yng Nghymru. Mae'n pwysleisio ein hymrwymiad i gefnogi ein pobl ifanc drwy addysg a hyfforddiant ac i mewn i'r byd gwaith."

Ychwanegodd Dulcie Jones: "Roedd yn hawdd cofrestru ac mae'n syniad gwych rhoi cyfle i bobl ifanc deithio'n rhatach, yn enwedig y rhai sydd ddim yn gweithio'n llawn amser eto ond sy'n gweithio tuag ato. Ar ôl clywed am y cerdyn, ro'n i'n meddwl ei fod yn gyfle rhy dda i'w golli ac y byddai'n help mawr i mi."

Gall pobl 16-18 oed wneud cais am fyngherdynteithio ar wefan: Llyw.cymru/fyngherdynteithio 

 

DIWEDD

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon