Newyddion

myunijourney launch

Traveline Cymru yn lansio gwasanaeth gwybodaeth newydd i fyfyrwyr

21 Ebrill 2016

Traveline Cymru yn lansio gwasanaeth gwybodaeth newydd i fyfyrwyr

Mae Traveline Cymru, sef gwasanaeth Llywodraeth Cymru sy’n rhoi gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, wedi lansio gwefan wybodaeth newydd yn benodol i fyfyrwyr.

Mae gwefan ryngweithiol myndibobmanfelmyfyriwr yn darparu cynghorion teithio a gwybodaeth i helpu myfyrwyr i deithio o gwmpas tref neu ddinas eu prifysgol.

Bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio’r wefan i gynllunio teithiau, dod o hyd i arosfannau bysiau lleol a chwilio am amserlenni defnyddiol.

Meddai Laura Thomas, Swyddog Marchnata Traveline Cymru: “Er mor gyffrous y gall mynd i’r brifysgol fod, gall hefyd fod yn brofiad brawychus i lawer, yn enwedig i’r sawl sydd wedi symud i le newydd sbon.

“Rydym am annog myfyrwyr – rhai newydd a rhai sydd wedi bod yn y brifysgol ers peth amser – i wneud yn fawr o’r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sydd yn eu hardal, ac rydym am eu helpu i ddarganfod pa opsiynau sydd ar gael iddynt wrth iddynt ddechrau ymgyfarwyddo â'r ddinas neu’r dref.

“Mae gwefan myndibobmanfelmyfyriwr yn cynnwys yr holl wybodaeth y gallai fod ei hangen ar fyfyrwyr i ddod o hyd i’w llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus, megis cyfleusterau chwilio amserlenni a chynllunio teithiau, y mae modd iddynt eu defnyddio drwy gydol eu cyfnod yn y brifysgol.”

Yn rhan o’r fenter hon, bydd Traveline Cymru yn creu gwefannau unigol sydd wedi’u creu’n benodol ar gyfer y prifysgolion sy’n cymryd rhan yn y cynllun, a bydd y gwefannau hyn yn cynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i’r ardal leol.

Prifysgol Abertawe yw’r sefydliad cyntaf i gymryd rhan yn y fenter. Cynhaliodd y brifysgol ddigwyddiad lansio ar 13 Ebrill ar ei champws newydd – Campws y Bae – i ddangos y wefan.

Meddai Jayne Cornelius, Cydlynydd Cynllun Teithio Prifysgol Abertawe: “Rydym wrth ein bodd o fod yn gweithio gyda Traveline Cymru ar y fenter myndibobmanfelmyfyriwr. Mae’n hollbwysig i ni bod ein myfyrwyr yn gwybod sut i fynd o le i le pan fyddant yn teithio o gampws i gampws ac o amgylch yr ardal ehangach.

“Mae llawer o fyfyrwyr am wybod pa opsiynau sydd ar gael iddynt o ran trafnidiaeth, ac mae gwefan myndibobmanfelmyfyriwr yn ffordd hwyliog a rhyngweithiol o ddod o hyd i’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt. Roeddem wedi mwynhau croesawu gwesteion i’r digwyddiad lansio yng Nghampws y Bae er mwyn dangos yr adnodd newydd ardderchog hwn iddynt.”

Roedd tîm Traveline Cymru wrthlaw yn y digwyddiad gyda llechi iPad i ddangos i’r gwesteion, a oedd yn cynnwys myfyrwyr, darlithwyr a chynrychiolwyr undeb y myfyrwyr, sut mae’r wefan yn gweithio a sut mae ei defnyddio. Bydd Traveline Cymru yn rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y fenter gan ddefnyddio #myndibobmanfelmyfyriwr.

Mae Traveline Cymru yn gweithio gyda phrifysgolion eraill yng Nghymru mewn ymgais i gyflwyno’r fenter ledled Cymru.

I weld y wefan ewch i myndibobmanfelmyfyriwr.traveline.cymru/ neu cysylltwch â laurathomas@traveline.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon