
Cyfle i ennill iPhone drwy fynd i’r Bannau yn y Flwyddyn Newydd
04 Mai 2016Llun gan Anthony Pease
Cafodd y gystadleuaeth ei lansio ddydd Llun 4 Ionawr ar Instagram wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyhoeddi cyfle i ennill iPhone 6S i ddathlu Blwyddyn Antur 2016 Cymru.
Mae ymwelwyr a thrigolion ifanc o drefi a dinasoedd cyfagos yn cael eu hannog i wneud adduned i deithio i Fannau Brycheiniog ar drafnidiaeth gyhoeddus, a thynnu lluniau o’u hunain yn mwynhau eu hantur bersonol yn y Parc Cenedlaethol. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, bydd angen i luniau o’u teithiau a’u hanturiaethau gael eu rhoi ar Instagram gan ddefnyddio’r hashnod #myndifannaubrycheiniog neu #destinationbreconbeacons, a bydd angen tagio’r lluniau â @BreconBeacons
Mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn i gymryd rhan yn y gystadleuaeth a’r dyddiad cau yw dydd Gwener 24 Mehefin 2016.
Mae’r holl fanylion y bydd eu hangen arnoch ynghylch y gystadleuaeth i’w gweld isod!