
Silcox Coaches yn rhoi’r gorau i weithredu o ddydd Sul 5 Mehefin 2016 ymlaen
02 Mehefin 2016Bydd cwmni Silcox Coaches yn rhoi’r gorau i weithredu ei wasanaethau bysiau a chludiant addysg lleol ddydd Sul 5 Mehefin 2016.
Bydd y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a restrir isod, a oedd yn arfer cael eu darparu gan gwmni Silcox, yn cael eu darparu gan weithredwyr bysiau newydd o ddydd Llun 6 Mehefin 2016 ymlaen.
Sylwch: disgwylir cadarnhad o hyd ynghylch pa weithredwyr fydd yn darparu rhai gwasanaethau. Byddwn yn diweddaru’r rhestr isod wrth i ni gael y wybodaeth.
Sylwch: bydd amseroedd a llwybrau cludiant addysg yn parhau’r un fath.
Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro yma.
Mae gwybodaeth am Gyngor Sir Caerfyrddin i’w gweld yma.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551
Cyngor Sir Caerfyrddin
Y diweddaraf gan Gyngor Sir Caerfyrddin ynghylch cwmni Silcox Coaches:
Bydd DAU wasanaeth bws coleg yn cael eu darparu gan weithredwyr newydd o ddydd Llun 6 Mehefin 2016 ymlaen am weddill y flwyddyn academaidd hon.
Caiff gwasanaeth Col17 o Ddinbych-y-pysgod a Chaerfyrddin i gampws Coleg Sir Gâr yng Ngelli Aur ei ddarparu gan Chris Cars.
Bydd gwasanaeth PC1 o Gaerfyrddin i Goleg Sir Benfro yn cael ei ddarparu gan gwmni M Hayward & Daughter.
Ni fydd unrhyw newid i amseroedd na llwybrau’r gwasanaethau.