Newyddion

Maesteg bus driver given hero award for efforts to save man’s life

Gyrrwr bws o Faesteg yn cael ei wobrwyo’n arwr am ei ymdrechion i achub bywyd dyn

04 Gorffennaf 2016

Mae gyrrwr bws o Faesteg wedi cael ei wobrwyo’n arwr yng Ngwobrau Rhagoriaeth First Bus am ei ymdrechion i achub bywyd dyn a gafodd ei anafu mewn damwain ffordd.

Mae Allan Stent (51) wedi bod yn gweithio i First Cymru ers 16 mlynedd fel gyrrwr yn y depo ym Maesteg. Yn gynharach eleni, wrth iddo deithio’n ôl i’r depo ar ei fws ar ddiwedd diwrnod o waith, daeth ar draws damwain ddifrifol a oedd newydd ddigwydd ar y ffordd. Roedd gyrrwr beic modur wedi bod mewn gwrthdrawiad â char ac wedi’i anafu yn wael. Mewn ymgais i helpu’r dyn, camodd Allan i’r adwy er mwyn rhoi CPR iddo wrth aros i’r gwasanaethau brys gyrraedd. Bu farw’r dyn yn anffodus, ond cafodd y cyfle gorau posibl i oroesi o ganlyniad i ymdrechion Allan i’w helpu drwy roi CPR iddo am oddeutu 20 munud. Cafodd Allan ganmoliaeth gan lawer o’i gydweithwyr a chafodd ei enwebu gan un ohonynt ar gyfer y Wobr Arwr, sy’n wobr o fri.

Ddydd Mercher 15 Mehefin, cyflwynwyd y wobr i Allan yng nghwmni nifer o’i gydweithwyr o bob rhan o gwmni First Bus, mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn stadiwm pêl-droed Madejski yn Reading.

Meddai Allan Stent wrth sôn am ei wobr: “Roedd y seremoni wobrwyo’n wych. Roedd yn achlysur mwy o lawer na’r disgwyl yng nghwmni cydweithwyr ac uwch-reolwyr o First Bus. Roedd yn ddiwrnod braf iawn.

“Mae’r digwyddiad ar fy meddwl o hyd, ond rwy’n gwybod i mi wneud popeth o fewn fy ngallu i helpu’r dyn a oedd wedi’i anafu. Byddai’n dda gen i pe bai pethau wedi bod yn wahanol, ond allwch chi ddim newid y gorffennol. Byddwn yn annog pobl eraill i ddysgu sut mae rhoi CPR a chymorth cyntaf, oherwydd mae’n sgil pwysig iawn i’w gael.”

Ychwanegodd Justin Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru: “Rydym yn falch iawn o Allan a’r camau a gymerodd y diwrnod hwnnw. Wnaeth e’ ddim cynhyrfu mewn sefyllfa eithriadol o anodd, a gwnaeth ddefnydd da o’r hyfforddiant cymorth cyntaf yr oedd wedi’i gael er mwyn ceisio achub bywyd dyn. Mae’r ffaith bod y dyn wedi marw’n ddiweddarach yn ein tristáu’n fawr o hyd, ond roeddem am ganmol Allan am gamu i’r adwy a gwneud popeth o fewn ei allu i helpu. Byddai llawer o bobl eraill yn yr un sefyllfa wedi rhewi mewn sioc ond ymatebodd Allan yn gadarnhaol, a dyna pam y mae’n arwr i ni.”


Cafodd 15 o Wobrau Rhagoriaeth eu cyflwyno ar y diwrnod i gydnabod pob math o gampau, o wobr Prentis y Flwyddyn i wobrau ar gyfer y sawl sydd wedi hyrwyddo Arloesi a Newid a Chynaliadwyedd.

I gael rhagor o wybodaeth am First Cymru, ewch i www.firstgroup.com/cymru. Mae First Cymru ar Facebook hefyd, ar www.facebook.com/firstcymrubuses.   

DIWEDD

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon