Newyddion

First Cymru Susan Miles Bus

Gweithredwr bysiau yn Abertawe yn coffáu un a wnaeth lawer dros deithwyr

25 Gorffennaf 2016

Mae bywyd a chyflawniadau dynes o Abertawe, a neilltuodd gymaint o’i hamser i wella’r ddarpariaeth o ran trafnidiaeth yn y de, yn cael eu coffáu mewn modd unigryw gan weithredwr bysiau.

Roedd Susan Miles yn byw yn Sgeti gyda’i gŵr Stephen, a bu farw’n gynharach eleni ar ôl salwch byr. Yn ystod ei bywyd, dylanwadodd yn fawr ar y gwaith o gynllunio trafnidiaeth yn y de gan weithio fel ymgynghorydd trafnidiaeth yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe ac fel cydlynydd Consortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru rhwng 2007 a 2014 pan gafodd y consortiwm ei ddiddymu.

I goffáu ei hymdrech a’i hymroddiad i eraill, mae First Cymru wedi dadorchuddio bws y mae wedi’i enwi ar ôl Susan Miles er anrhydedd iddi.

Bydd bws Susan Miles yn cael ei ddefnyddio’n bennaf ar hyd llwybr gwasanaeth rhif 4 yn Abertawe.

Cafodd nifer o westeion eu gwahodd i seremoni i enwi’r bws a dadorchuddio plac y tu mewn iddo sy’n nodi’r hyn a gyflawnodd Susan, ac roedd y gwesteion yn cynnwys ei gŵr, Stephen Miles.

Meddai Mr Miles: “Neilltuodd Susan ei gyrfa i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y de a byddai’n falch iawn o wybod bod y gwaith hwnnw wedi’i gydnabod drwy enwi’r bws hwn ar ei hôl. Roedd hi’n berson unigryw ac rwyf yn gweld ei cholli bob dydd, ond mae gwybod bod eraill yn cofio amdani, fel rwyf fi, yn codi fy nghalon ac yn gwneud i mi deimlo’n hynod o falch.”

Meddai Justin Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr First Cymru: “Roeddem yn awyddus i wneud rhywbeth i goffáu Susan. Roedd hi’n berson dylanwadol tu hwnt ym maes trafnidiaeth yn y de a’r gorllewin ac yn rhywun yr oeddem yn ddigon ffodus o fwynhau perthynas arbennig iawn â hi.

“Mae pawb a oedd yn ei hadnabod yn gweld ei cholli, ac felly roeddem yn teimlo mai ychwanegu plac at un o’n cerbydau a’i enwi ar ei hôl oedd y peth lleiaf y gallem ei wneud.”

 

Erthygl o’r South Wales Evening Post.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon