Newyddion

Transport Focus

Aelod o Fwrdd Ffocws ar Drafnidiaeth

03 Awst 2016

Tâl cydnabyddiaeth: £12,363 y flwyddyn
(yn seiliedig ar bedwar diwrnod y mis)

Ffocws ar Drafnidiaeth yw’r corff cyhoeddus annibynnol sy’n cynrychioli buddiannau y rhai sy’n teithio ar drenau ym Mhrydain, y rhai sy’n defnyddio bysiau, coetsys a thramiau yn Lloegr (y tu allan i Lundain) a’r rhai sy’n defnyddio ffyrdd strategol Lloegr. Yn fwy fwy mae ein gwaith yn cwmpasu yr amrywiaeth o ddulliau teithio dros Brydain.

Mae Llywodraeth Cymru’n penodi aelod newydd i Fwrdd Ffocws ar Drafnidiaeth a hynny er mwyn sicrhau bod buddiannau defnyddwyr trafnidiaeth Cymru’n cael eu hystyried wrth inni lunio polisi ac eirioli.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ein helpu i lunio ein strategaeth ond yn ogystal â hynny bydd ganddo gyfrifoldeb penodol am gynrychioli defnyddwyr trafnidiaeth Cymru. Bydd hefyd yn sicrhau bod y sawl sydd mewn swyddi dylanwadol yn clywed ac yn deall safbwyntiau’r defnyddwyr hynny, ac yn gweithredu ar hynny.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl ac am sut i wneud cais, ewch i www.transportfocus.org.uk/about/careers

Disgwylir y bydd y sawl a benodir yn dechrau ar y gwaith ym mis Rhagfyr 2016 neu yn gynnar yn 2017.
Dyddiad cau: 9 Medi 2016.


Os nad oes modd ichi gael yr wybodaeth, e-bostiwch boardrecruitment@transportfocus.org.uk neu ffoniwch ganolfan recriwtio ein bwrdd ar 0300 123 2144.

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon