Lewis Coaches, Llanrhystud yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr o ddydd Gwener 12 Awst 2016
09 Awst 2016Bydd Lewis Coaches, Llanrhystud yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr a bydd yn rhoi’r gorau i weithredu ddiwedd y dydd, dydd Gwener 12 Awst 2016.
Bydd y gwasanaeth 701 rhwng Aberystwyth a Chaerdydd yn dod i ben nos Wener 12 Awst.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud trefniadau i drosglwyddo pob gwasanaeth arall i weithredwyr eraill. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i ragor o wybodaeth ddod ar gael.
Cliciwch yma i weld y datganiad gan Lewis Coaches.